Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Pryniant a sêl Plas Pistyll, a'r achos llys HTV; statws a rhediad yr Ymddiriedolaeth; y Bwrdd Datblygu Cymru; awdurdodau lleol

Gohebiaeth a phapurau, 1986-1992, yn ymwneud â phrynu a gwerthu Plas Pistyll ac ymgyfreitha cysylltiedig, (1989-1992); statws yr Ymddiriedolaeth (1986-1992); y Bwrdd Datblygu Cymru (1989-1991); ac awdurdodau lleol (1988-1990). Yn ogystal, ceir copi o’r ‘Welsh for Adults National Register’ (1990); a nifer o daflenni yn hysbysebu’r Nant (1985 - 2015).

Papurau Mihangel Morgan

  • GB 0210 MIHMOR
  • Fonds
  • 1978-[2014]

Papurau Mihangel Morgan, 1978-[2014], yn cynnwys gohebiaeth a drafftiau o'i weithiau llenyddol. = Papers of Mihangel Morgan, 1978-[2014], comprising correspondence and drafts of his literary works.

Morgan, Mihangel

Amrywiol

Papurau amrywiol, gan gynnwys erthyglau ganddi: 'Anfarwoldeb Sian Owen' [a gyhoeddwyd yn Seren Menai, cyfnodolyn Y Coleg Normal, Bangor]; ‘O’r crochan berw’, Seren Cymru, 1987; ynghyd ag englyn gan Robin [Llwyd] ab Owain iddi, un o'i myfyrwyr; teyrnged gan Meic Stephens i Rhiannon Davies Jones a gyhoeddwyd ym mhapur newydd yr i, 29 Hydref 2014; a chopi o deyrnged [Eurfryn Davies a draddododd yn ei hangladd (gw. NLW ex 2979)].

Papurau Eigra Lewis Roberts

  • GB 0210 EIGRALEW
  • Fonds
  • [1965]-[2014]

Papurau'r nofelydd a'r dramodydd llenyddol Eigra Lewis Roberts, [1965]-[2014], yn cynnwys drafftiau llawysgrif ar gyfer y gyfres ddrama deledu 'Minafon'; teipysgrifau addasiadau o nofelau Elena Puw Morgan, Y Wisg Sidan a Y Graith; sgript y ffilm deledu ar O. M. Edwards; sgyrsiau radio; adolygiadau, teipysgrifau o rai o'i llyfrau gan gynnwys Fy Hanes i: Streic: Dyddiadur Ifan Evans, Llwybrmain, Bethesda, 1899-1903. = Papers of the novelist and dramatist Eigra Lewis Roberts, [1965]-[2014], including manuscript drafts of the television drama series 'Minafon'; typescript adaptations of novels by Elena Puw Morgan namely Y wisg sidan [The silk gown] and Y graith [The scar]; script of the television film about O. M. Edwards; radio talks; book reviews and typescripts of some of her books including the diary of Ifan Evans, Llwybrmain, Bethesda, 1899-1903.

Roberts, Eigra Lewis

Papurau Emlyn Evans

  • GB 0200 EMLEVA
  • Fonds
  • 1908-2014

Papurau Emlyn Evans, 1908-2014, yn ymwneud â'i yrfa yn y byd argraffu a'i weithgarwch ym myd llyfrau pan oedd yn byw yn Llundain, Llandybïe, ac yna'n ddiweddarach pan ddychwelodd i fyw i'w fro enedigol ym Methesda.

Evans, Emlyn, 1923-

Llythyrau

Ceir llythyrau yn deillio o'i gyfnod yn rheolwr-gyfarwyddwr Llyfrau’r Dryw, Llandybïe, 1957-1965.

Papurau Rhiannon Davies Jones

  • GB 0210 RHIDAVES
  • Fonds
  • 1878, 1912-2014

Papurau llenyddol a theuluol Rhiannon Davies Jones, 1878-2014 (gyda bylchau), yn cynnwys barddoniaeth, ei thraethawd MA, ysgrifau, ffotograffau, llyfrau ymwelwyr a phapurau amrywiol. = Literary and family papers of Rhiannon Davies Jones, 1878-2014 (with gaps), her MA thesis, articles, photographs, visitor books and miscellaneous papers.

Jones, Rhiannon Davies

Papurau llenyddol

Papurau yn cynnwys cerddi cynnar Rhiannon Davies Jones , llythyrau a chopi o'i thraethawd MA (1975) ar ddychan mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Tachwedd 2013, a Mawrth a Gorffennaf 2014; agendâu, Mawrth, Gorffennaf, a Hydref 2014; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2013-2014 (2014); a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2014), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias; Ann Benson; a Timothy Mowl. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (yn flaenorol y Penaethiaid Prosiectau), Tachwedd a Rhagfyr 2013, ac Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, Mai, Mehefin, a Gorffennaf 2014.

Co-operative Party Wales papers

  • GB 0210 COOPWAL
  • fonds
  • 1977-2013.

Files of Karen Wilkie as deputy general secretary and the board secretary to the Co-operative Party; national organiser of the Co-operative Party in Wales; founder member of Co-operatives & Mutuals Wales; lead on policy in Wales; and close contact of the Co-operative Group of Welsh Assembly Members.

Co-operative Party Wales

Results 121 to 140 of 59614