Showing 150 results

Archival description
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Print preview View:

Y llawysgrifau Cymraeg

Mynegeion a slipiau ymchwil G. J. Williams, y mwyafrif yn cyfeirio at enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau Cymraeg; darlithoedd yn olrhain hanes y llawysgrifau; nodiadau ar eu perchnogaeth; a nifer o adysgrifau a llungopïau.

Rhestri llawysgrifau

Rhestr o lawysgrifau, yn llaw G. J. Williams, yn perthyn i'r cyfnod cyn 1400 hyd 1700; ynghyd â chopïau o rai o restri ('Schedules') llawysgrifau sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Papurau amrywiol

Deunydd amrywiol perthynol i weithgaredd G. J. Williams fel ymchwilydd, golygydd a darlledwr, gan gynnwys papurau'n ymwneud â Llên Cymru a'r Llenor; llyfryddiaethau; sgyrsiau radio; almanaciau; memorandwm ar hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif; a thorion papur.

Y Llenor

Deunydd amrywiol, 1921-1923, yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, yn ymwneud â chyhoeddi cylchgrawn Cymraeg newydd, yn dwyn y teitl Y Llenor, i lenwi'r bwlch a adawyd gan dranc Y Beirniad. Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd, Henry Lewis ac Ifor Williams.

Llyfryddiaethau

Llyfryddiaeth W. J. Gruffydd yn llaw G. J. Williams, ynghyd â gohebiaeth berthynol, 1935-1936; un dudalen yn cyfeiro'n bennaf at gyhoeddiadau G. J. Williams yn Y Genhinen, 1969-1973; llyfryddiaethau byr unigolion eraill yn nhrefn yr wyddor; a llyfryddiaethau ar bynciau amrywiol. Ceir hefyd ychydig restri yn cynnwys prisiau llyfrau.

Llên Cymru

Ffolder yn dwyn y teitl Llên Cymru yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf o erthyglau ac adolygiadau a ymddangosodd yn ystod y cyfnod y bu G. J. Williams yn olygydd ar y cylchgrawn.

Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg

Copi llawysgrif o'r memorandwm a luniodd G. J. Williams, [c. 1950], ynglŷn â sefydlu Adran Ymchwil i Astudiaethau Cymraeg. Mae'r memorandwm, a oedd i'w drafod ym Mhwyllgor Iaith a Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd y Brifysgol, yn cynnwys ei weledigaeth o'r modd y dylid hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Ceir hefyd gopi teipysgrif o'r cyfieithiad Saesneg. Cyhoeddwyd y memorandwm yn Aneirin Lewis (gol.), Agweddau ar hanes dysg Gymraeg (Caerdydd, 1985).

Results 61 to 80 of 150