Showing 150 results

Archival description
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Print preview View:

Darlithoedd ac erthyglau

Darlithoedd ac erthyglau'n ymwneud â hanes llenyddiaeth Gymraeg. Yn eu plith ceir y canlynol: 'Llenyddiaeth Gymraeg yn yr Ail Ganrif ar Bymtheg', 'Y Ddeunawfed Ganrif', 'Llenyddiaeth Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Rhyddiaith y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Yr Adfywiad Llenyddol yn y Ddeunawfed Ganrif', 'Traddodiad Llenyddol Sir Ddinbych', 'Traddodiadau Llenyddol Sir Aberteifi', 'Traddodiad Cymraeg Gwent', 'Y Ddysg Farddol a'r Dadeni Cymraeg yn yr 16G', 'Dafydd ap Gwilym', 'Telynegwyr y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Yr Anterliwt Cymraeg II', 'Beirniadaeth Lenyddol', 'Llyfrau Prin', 'Diwylliant Cymreig', a 'Cyhoeddi Llyfrau'.

Y llawysgrifau Cymraeg

Mynegeion a slipiau ymchwil G. J. Williams, y mwyafrif yn cyfeirio at enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau Cymraeg; darlithoedd yn olrhain hanes y llawysgrifau; nodiadau ar eu perchnogaeth; a nifer o adysgrifau a llungopïau.

Rhestri llawysgrifau

Rhestr o lawysgrifau, yn llaw G. J. Williams, yn perthyn i'r cyfnod cyn 1400 hyd 1700; ynghyd â chopïau o rai o restri ('Schedules') llawysgrifau sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Papurau amrywiol

Deunydd amrywiol perthynol i weithgaredd G. J. Williams fel ymchwilydd, golygydd a darlledwr, gan gynnwys papurau'n ymwneud â Llên Cymru a'r Llenor; llyfryddiaethau; sgyrsiau radio; almanaciau; memorandwm ar hyrwyddo astudiaethau Cymraeg yn ail hanner yr ugeinfed ganrif; a thorion papur.

Y Llenor

Deunydd amrywiol, 1921-1923, yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, yn ymwneud â chyhoeddi cylchgrawn Cymraeg newydd, yn dwyn y teitl Y Llenor, i lenwi'r bwlch a adawyd gan dranc Y Beirniad. Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd, Henry Lewis ac Ifor Williams.

Llyfryddiaethau

Llyfryddiaeth W. J. Gruffydd yn llaw G. J. Williams, ynghyd â gohebiaeth berthynol, 1935-1936; un dudalen yn cyfeiro'n bennaf at gyhoeddiadau G. J. Williams yn Y Genhinen, 1969-1973; llyfryddiaethau byr unigolion eraill yn nhrefn yr wyddor; a llyfryddiaethau ar bynciau amrywiol. Ceir hefyd ychydig restri yn cynnwys prisiau llyfrau.

Llên Cymru

Ffolder yn dwyn y teitl Llên Cymru yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf o erthyglau ac adolygiadau a ymddangosodd yn ystod y cyfnod y bu G. J. Williams yn olygydd ar y cylchgrawn.

Results 61 to 80 of 150