Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Jennie [Jones], yng Nglyndyfrdwy,

Diolch am ddau lythyr. Bu'n sâl iawn ers wythnosau. Daeth Mr a Mrs Evans i'w nhôl o Dal-y-sarn. Oerodd yn sydyn ar ôl dod i Lyndyfrdwy. Bu yn y ty a'r gwely gydol yr amser. Bu Dr Benjamin, Llangollen, yn ei gweld deirgwaith. Hyderu bod coes KR yn gwella. Gobeithio mynd adref y Sul dilynol.

Llythyr oddi wrth G. J. W[illiams], yng Ngwaelod-y-garth,

Adrodd cefndir y cais am bensiwn y rhestr sifil i KR. Gohebodd Saunders Lewis â Henry Brooke a chafodd ymateb caredig a chalonogol a bu Blaise Gilley [sic] yn gweithredu drosto - gwr mwyn yn eiddgar i gynorthwyo. Mae'r hanes am Wasg Gee yn ddifrifol iawn a dylai barhau i ysgrifennu i'r Faner - dyna ran o'r papur y mae pawb yn edrych ymlaen ato. Paham na chaiff D. Llywelyn Jones adolygu llyfrau? Mae safon adolygiadau wedi disgyn yn enbyd. Mae ei wraig yn sâl yn ei gwely a'i chwaer hithau'n wael iawn. Da ganddo glywed bod KR am ysgrifennu nofel hanesyddol yn ymwneud â dechrau'r ganrif ddiwethaf. Mae defnyddiau gwerthfawr i'w phwrpas yn Llyfrgell y Coleg ym Mangor. Mae Saunders Lewis am oedi cyn diolch i [Henry] Brooke nes bydd y cyhoeddiad wedi ei wneud yn y Senedd.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Mae'n llawen iawn o ddeall bod KR i dderbyn pensiwn y rhestr sifil. Hi fydd y llenor Cymraeg cyntaf erioed i gael y gydnabyddiaeth hon. Mae'r diolch i Mr Henry Brooke. Mae'n diolch bod KR bellach yn rhydd oddi wrth Y Faner. Y mae'r dirywiad yn drychinebus a syfrdanol. Bu'n darllen Cofiant Idwal Jones gan Gwenallt - ei waith gorau ar wahân i Ysgubau'r Awen. Mae'n gryn gampwaith ac yn rhyfeddol ddifyr. Bu Cathrin Daniel yn beryglus o sâl.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], Llundain NW8,

Cydymdeimlo â KR ar golli ei hanner chwaer. Mae'n dda bod gan KR gysylltiad â daear ei hynafiaid wrth i'w chydnabod brinhau. Mae'n darllen rhai tudalennau o'r Mabinogion bob dydd. Trafod cymeriadau nofel KR sydd ar y gweill. Mae'n deall ei hymlyniad i'r Faner - mae'n 'blentyn ysbrydol' i KR. Sôn am farwolaeth Dr [Ernest] Jones. Iechyd ei gwr. Mae'n hyfforddi i fod yn ddadansoddwraig seicolegol. Mae Daisy a'i gwr yn disgwyl teulu ac wedi cael fflat hwylus yn agos i Baker Street. Ni chlywodd ddim hanes am ei nith yn Hwngari. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Ni chyhoeddwyd dim eto ynglyn â phensiwn rhestr sifil KR. Mae'n amgau llythyr Blaise Gillie ato [rhif 1099 uchod], gall KR ysgrifennu ato yn Gymraeg. Bu'n cywiro proflenni ei ddrama Brad dros y Sulgwyn. Mae'n wael am gywiro proflenni. Mae'n ddiflas ganddo ddarllen ei ddramâu, maent yn ei siomi ac yn ei ddadrithio. Mae wrth ei fodd yn derbyn clod ond yn y gwaelod ni all ei gymryd ei hun o ddifri. Tybiai wrth ysgrifennu Brad fod mawredd ynddi ond wedi cywiro'r proflenni nid yw'n debyg o fynd i Lynebwy. Mae'r Faner yn mynd yn dristach, dristach. Y mae polisi Plaid Cymru wedi mynd yn bell iawn oddi ar y llwybr a geisiodd ef ei dorri ers talwm. Hoffai fynd i'r Eidal i orffen ei ddyddiau.

Llythyr oddi wrth Blaise Gillie, yng Nghaerdydd,

Mae'n falch ganddo iddo fedru cynorthwyo KR [i gael y pensiwn rhestr sifil]. Y mae wedi darllen ei storïau gyda llawer o bleser ac edmygedd. Laura Jones oedd un o'r pethau cyntaf iddo ei ddarllen yn Gymraeg. Mr Saunders Lewis oedd y cyntaf i awgrymu ei henw i'r llywodraeth. Bu ei ddylanwad yn bwysig iawn.

Llythyr oddi wrth J. E. D[aniel], ym Mryn-teg,

Aeth llythyr KR i Durham ac yna i Bodfari cyn cyrraedd yna. Nid yw'n medru helpu gyda'r ymdrech i gael ysgol Gymraeg yn Ninbych. Yn nes ymlaen bydd yn rhaid iddo [fel Arolygwr Ysgolion] fynegi barn. Yr adeg honno y caiff gyfle i weithredu'n fwy effeithiol. Gobeithio ei gweld yn [Eisteddfod] Glynebwy ar y dydd Iau neu'r dydd Gwener.

Llythyr oddi wrth B. Haydn Williams, yn Yr Wyddgrug,

Ni fyddai'n briodol iddo ef fel Cyfarwyddwr Addysg sir gyfagos ddod i annerch cyfarfod cyhoeddus ynglyn â sefydlu ysgol Gymraeg [yn Ninbych]. Bydd yn barod i roi pob cymorth answyddogol pe bai galw am hynny. Awgrymu enw'r Henadur H. R. Thomas, Y Rhyl, fel rhywun i annerch y cyfarfod.

Llythyr oddi wrth H. R. Thomas, yn Y Rhyl,

Diolch am wahoddiad i annerch y cyfarfod cyhoeddus yn Ninbych, nos Wener, 19 Medi. Yn anffodus mae'n gadeirydd y Cyd-bwyllgor Addysg Cymreig a bydd raid iddo fod mewn cyfarfod o'r corff hwnnw. Dymuno pob llwyddiant i'r ysgol Gymraeg.

Llythyr oddi wrth Norah Isaac, yn Aberystwyth,

Mae'n rhydd i ddod i'r cyfarfod cyhoeddus yn Ninbych ar 19 Medi. Hoffai ddychwelyd i Aberystwyth y noson honno. Mae ar ganol cwrs Cymraeg ym Mhantycelyn. Mae'n drist wrth feddwl bod angen ysgol Gymraeg yn nhref Thomas Gee.

Llythyr oddi wrth 'Meredydd' [Meredith Edwards], Llundain SE23,

Gresyn bod Llundain ar y blaen i Ddinbych ynglyn â chael ysgol Gymraeg. Mae'n bwysig cael ysgolion Cymraeg ledled Cymru er mwyn i bawb gadw eu gwreiddiau. Daeth y rhan helaethaf o'r gefnogaeth o du'r di-Gymraeg. Nid yw dysgu Cymraeg i blant yn dreth arnynt fel y cwyna rhai. Bu ysgol Llundain ar agor am wythnos yn unig ac y mae'r plant eisoes yn medru canu caneuon Cymraeg, gwybod eu lliwiau a chyfrif. Nid oes angen poeni am arholiad yr 11+. Hoffai ddod i'r cyfarfod yn Ninbych. Cafodd agoriad yr ysgol yn Llundain sylw yn y Pakistani Times hyd yn oed. Cofion at Norah Isaac. Rhaid gwylio'r Cymry - hwy fydd yn codi bwganod. Rhannol yn Saesneg/Partly in English.

Results 101 to 120 of 2413