Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Howell E. James, yn Llandaf, Caerdydd,

Dyfynnu o Haydn's Dictionary of Dates ynglyn â dyddio, e.e. newid dechrau'r flwyddyn i Ionawr y cyntaf yn 1752 yn hytrach na'r 25 Mawrth, dyddio dwbl, etc. Nodi dyddiadau talu rhenti ffermydd yng Nghymru. Gellir prynu copïau ail-law o'r llyfr dyddiadau mewn siopau llyfrwerthwyr.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae'n addo mynd i Hirwaun ar gais KR. Mae wrthi fel lladd nadroedd yn gorffen ei lyfr ar Bantycelyn. "Y mae'n bur dda, os goddefwch imi fragio! O leiaf bydd yn dipyn o sioc i'r bobl na ddarllensant Williams drwyddo erioed". Mae Saunders Lewis yn ofni ei fod yn cytuno â KR ynglyn â nofel Morris Williams. Mae'n hyderu y caiff ei chyhoeddi er mwyn iddo fynd ymlaen i gyhoeddi un arall "lle na fydd ef ei hun yn brif fater ei waith. Nofel llanc, adolescent yw hon. Rhaid mynd heibio i lencyndod cyn y galler ei drin yn null Joyce neu neb arall o'r meistriaid". Hwyrach y bydd rhaid galw pwyllgor y Blaid tua'r Pasg yn Aberystwyth. Hydera y bydd hynny'n gyfleus iddi. Mae'n teimlo fel petai "trol wedi mynd drosof a'm gadael yn fflat a sych". Mae'n bwriadu rhoi copi o'i lyfr [ar Bantycelyn] i KR ac i Prosser Rhys a dau neu dri arall pan fydd yn ymddangos. Iddynt hwy yr ysgrifennwyd ef.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae'n derbyn gwahoddiad i de gyda KR y dydd Gwener canlynol yn Aberdâr. Diolch am ddau lun. Bu'n cyfieithu straeon Kate Roberts i'w wraig a thybiai hi eu bod yn anghyffredin. Yr oedd hi yn falch iawn o weld ei llun felly. Dywedodd fod gan KR "wyneb da yn gystal â wyneb ffeind".

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Anfon i longyfarch KR ar y newydd ei bod am briodi Morris Williams. Mae popeth sy'n digwydd iddi yn bwysig iawn ac yn ei gyffwrdd yn agos a dwfn. Cael ei hadnabod hi fu un o freintiau mawr ei fywyd. Priodas dau arwr fydd hi. Bydd bywyd yn gyfoethog os hefyd yn ystormus. Hoffai Saunders Lewis fod yna i wasgu ei llaw.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Darllenodd stori Nadolig KR yn Y Genedl a'i mwynhau er ei fod yn cytuno â barn R. W[illiams] P[arry] nad yw hi ymysg pethau gorau KR ["Y Gwynt", Y Genedl (26 Rhag. 1927), t 6]. Mae'n bwriadu dehongli meddwl KR rhyw ddydd mewn ysgrif yn Y Llenor. Bydd yn dda ganddo ddarllen cyfrol ei brawd ar y chwareli hefyd. Diolch iddi am gofiant i 'Glasynys' [Owen Wynne Jones, 1828-70], y mae'n gampus. Nodi ei brysurdeb a'r gwaith sydd ganddo ar ei feddwl. Hoffai pe bai rhywun yn cymryd Y Ddraig Goch oddi arno ond y mae am gadw ymlaen nes bo'r Blaid ar ei thraed. Cafodd gip ar Garadog Prichard ychydig ddyddiau yng nghynt.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Ymateb i gais gan KR iddo ysgrifennu rhagymadrodd i'w llyfr [Rhigolau Bywyd]. Pwrpas hynny fel arfer yw rhoi hwb i'r llyfr. Nid oes angen hynny ar un o lyfrau KR "Yr ydych yn fwy na mi, Miss Roberts, yr ydych yn artist ac yn athrylith; y mae eich gwaith hefyd wedi ei gydnabod bellach". Os gwêl y cyhoeddwr fod angen rhagymadrodd y mae'n fodlon ysgrifennu cyflwyniad i'w straeon byrion hi. Gofyn am gopi o'r straeon i'w darllen ymlaen llaw. Mae'n diolch iddi am feddwl amdano yn y mater hwn.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Anfonodd at H. R. Jones i ofyn a gaiff weld ei anerchiad. Siom fawr oedd yr etholiadau sirol. Dim ond pynciau dibwys a drafodwyd ynddynt ar wahân i'r De, lle trafodwyd problemau Sosialaeth. Mae'r toriad o'r Genedl a anfonodd Kate Roberts ato yn profi hynny hefyd. Clywodd gan W.J.G. bod ganddi ysgrif ar gyfer Y Llenor ["Caeau", Y Llenor, cyfrol VII (1928), tt 93-5]. Saunders Lewis yn ymateb i sylw KR ei bod yn rhy hapus i ysgrifennu. Nid yw wedi dechrau ysgrifennu am "Lasynys". Mae'n ysgrifennu am Ddaniel Owen ar hyn o bryd. Cafodd hwyl ar bennod gyntaf Daniel Owen. Ar ôl gorffen ysgrifennu y diwrnod cynt fe brynodd bum potel o win ardderchog 1916 o winllan Chateau Beychevelle. Mae'n holi pa anrheg priodas y caiff ei anfon iddi. Hen siwg gwrw a anfonodd i Brosser Rhys. Mae'n hoffi prynu pethau i'w rhoi i gyfeillion sy'n yfwyr. Mae'n bwrw'r Pasg yn Lerpwl gyda hen gyfaill sy'n fardd Saesneg da ac yn feddyg. Yna mae'n mynd i sir Gaerfyrddin i weithio dros y Blaid am wythnos gron, un rhan o waith y Blaid sy'n gwbl ffiaidd ganddo. Mae Cynan yn ôl ymhlith y Rhyddfrydwyr, ychydig ynghynt dywedid ei fod wedi ymuno â'r Blaid Genedlaethol. Y mae Ein Tir yn bapur da iawn, yn llawn lluniau ac ysgrifau poblogaidd. Mae ganddo'r holl rinweddau y mae'r Ddraig Goch yn ddiffygiol ynddynt. Mae cyfieithu Prosser Rhys yn wych.

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,

Ymateb i'r newydd fod KR am briodi Morris T. Williams. Ei ymateb ef i briodi. Dylai ei huniad fod yn batrwm o gydnawsedd a chyd-ddealltwriaeth ysbrydol. Hyderu y caiff y cyfle i'w croesawu i Abergwaun yn y dyfodol agos. Englyn gan Waldo a gyfansoddwyd yn fyrfyfyr pan fu ar ymweliad â chyfarfod o'r Blaid yn sir Gaerfyrddin a neb yn bresennol. Sylwi mai yn Aberystwyth y maent yn bwriadu byw ar ôl priodi. Mae cynnyrch Gwasg Aberystwyth yn dal i swyno a synnu dyn.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Awgrym cellweirus am stori fer. Cafodd bennod gyntaf ei nofel yn ôl oddi wrth E. Prosser Rhys [Monica]. Hanesyn creulon oedd hwnnw am ei brawd a'r dyledwr. Canmol ei herthyglau yn Y Ddraig Goch. Nid yw'n dymuno llwyddiant llenyddol er bod y gwaith politicaidd yn ei ddwyn i sylw'r werin. Mae hefyd yn ofni tipyn ei fod yn Babydd er mwyn ei esgymuno ei hun.

Results 101 to 120 of 2413