- G2/1
- ffeil
- 1864-1887
Yn cynnwys gwybodaeth, 1864-1887, am enwau a chyfeiriadau'r aelodau a'u cyfraniadau misol.
Yn cynnwys gwybodaeth, 1864-1887, am enwau a chyfeiriadau'r aelodau a'u cyfraniadau misol.
Nodir y dechreuwyd defnyddio'r gyfrol o 1 Ionawr 1905 ymlaen ond ceir dyddiadau cynt na hwn fel y dyddiad y derbyniwyd yr aelodau i gymundeb. Rhestrir yr aelodau a'u cyfeiriadau, ynghyd ag unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â'u symudiadau, a dyddiad marwolaeth. Yng nghefn y gyfrol ceir manylion am swyddogion yr Eglwys ac am lyfrau casgliad misol y weinidogaeth, 1905-1936.
Defnyddiwyd cefn y gyfrol i gofnodi ffeithiau megis enwau'r blaenoriaid yn 1915.
Rhestrir yr aelodau a'u cyfeiriadau, ynghyd ag unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â'u symudiadau, a dyddiad marw.
Yn y gyfrol a ddisgrifir fel 'scrap book' ceir rhestri, 1916-1939, o'r aelodau newydd a dderbyniwyd a'r dull o wneud hynny ac o ba Eglwys, ynghyd â phapurau rhydd, 1947-1948, yn ymwneud â galw'r Parch. D. Tudor Jones yn weinidog i'r eglwys yn 1948. Yng nghefn y gyfrol ceir rhestr o'r rhai a fu farw, 1916-1938.
'Cofnodau Eglwysig': 1882-1895
Llyfr cofnodion: 1934-1978 (Ebrill)
Ymhlith y cofnodion mae adroddiadau am ddathliadau canmlwyddiant yr achos yn 1942, teyrngedau i Anthropos a thaflen y cyfarfod coffa a gynhaliwyd iddo yn 1944, ynghyd â thaflenni sefydlu gweinidogion yr Eglwys.
Llyfr cofnodion: 1978 (Medi)-1999
Ceir llawer o gofnodion yn trafod cyflwr a dyfodol yr Eglwys, 1998. Nodir fod y cofnodion yn gorffen yn Rhagfyr 1998 ar glawr y gyfrol ond ceir cofnodion ar gyfer Chwefror 1999 yn ogystal.
Ceir gorgyffwrdd rhwng y cofnodion a geir yma a'r rhai sydd yn G3/1.
Cymdeithasfa Caernarfon: Pwyllgor Ymborth
Cofnodion yn ymwneud â'r trefniadau arlwyo yn y cymdeithasfaoedd a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yn 1956, 1959 a 1962. Ceir cofnodion ar gyfer 1962 yn yr ail gyfrol.
Cymdeithasfa'r Gaeaf 1967, 1970
Llythyrau'n ymwneud â'r Pwyllgor Bugeiliol, 1989-1991, yn arbennig dewis olynydd i'r Parch. Trefor Jones i fod yn gyfrifol am Ofalaeth Bresbyteraidd Caernarfon (Eglwysi Beulah, Engedi a Phenygraig). Ceir hefyd gofnodion y pwyllgor a phwyllgorau eraill, 1989-1996, gan gynnwys Pwyllgor y Tair Eglwys.
Papurau'n ymwneud â'r organ, gan gynnwys llyfrau cofnodion Pwyllgor yr Organ, 1893-1900, 1900-1908, a 1909-1911; llythyrau cais, 1910, am swydd organydd; llyfr cofnodion dewis organydd, 1946, a chofnodion y Pwyllgor Cerdd 1947; ynghyd â llythyr, 1985, am gyflwr yr organ.
Llyfr cofnodion pwyllgor gofalu am yr Eglwys
Trafodir materion fel cynnal a chadw'r Eglwys a'r ysgoldy, 1905-1908.
Llyfr cofnodion a llythyrau, 1909, yn ymwneud â galw gweinidog newydd pan ddewiswyd y Parchedig John Owen.
Nodir enwau'r aelodau, cofnodion pwyllgor a'r derbyniadau a'r taliadau, 1917-1939.
Eglwys Engedi (Caernarfon, Wales) Gobeithlu