Showing 67 results

Archival description
Papurau Islwyn Ffowc Elis
Print preview View:

Nofelau

Mae'r gyfres yn cynnwys y drafftiau llawysgrif cyntaf o Cysgod y Cryman, Ffenestri Tua'r Gwyll, Yn ôl i Leifior, Blas y Cynfyd, a Tabyrddau'r Babongo, 1953-1961, a chopi teipysgrif o Yn ôl i Leifior: ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg, 1989.

Cysgod y Cryman

Mae'r ffeil yn cynnwys ugain llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Cysgod y Cryman (1953). 'Lle oeda'r Cryman' yw teitl y nofel yn y tri llyfr nodiadau cyntaf, ond mae'r teitl yn newid i 'Cysgod y Cryman' yn y pedwerydd llyfr. Mae'r llyfrau wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur.

Ffenestri Tua'r Gwyll

Mae'r ffeil yn cynnwys naw llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Ffenestri Tua'r Gwyll (1955). 'Y Tŵr Ifori' yw teitl y nofel yn y llyfrau nodiadau. Mae'r llyfrau wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur, 1-8, ac mae llyfr ychwanegol yn cynnwys nodiadau ar gynllun y nofel. Ceir hefyd broflenni o benodau 52 a 53, lle mae'r testun yn wahanol i'r fersiwn gyhoeddedig, a llythyr yn llaw'r awdur at y cyhoeddwr yn trafod cynnwys penodau olaf y nofel.

Yn ôl i Leifior

Mae'r ffeil yn cynnwys wyth llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Yn ôl i Leifior (1956). Ni nodir y teitl ar y llyfrau nodiadau. Rhifwyd y dalennau gan yr awdur.

Blas y Cynfyd

Mae'r ffeil yn cynnwys un llyfr nodiadau yn cynnwys rhan o ddrafft llawysgrif cyntaf y nofel Blas y Cynfyd (1958), sef pennod 1 a 2, a rhan o bennod 3.

Tabyrddau'r Babongo

Mae'r ffeil yn cynnwys pum llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Tabyrddau'r Babongo (1961). 'Tabyrddau'r Babongo' neu 'T.B.' yw'r teitl ar bob llyfr nodiadau, ac maent wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur.

Barddoniaeth a chaneuon

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr barddoniaeth Islwyn Ffowc Elis tra roedd yn chweched dosbarth Ysgol Sir Llangollen. Mae'r cerddi mewn Cymraeg a Saesneg ac yn dyddio rhwng 1940 a 1942. Ceir hefyd 13 dalen rhydd yn cynnwys geiriau caneuon ac alawon mewn nodiant sol-ffa.

Yn ôl i Leifior (fersiwn 1989)

Mae'r ffeil yn cynnwys fersiwn teipysgrif o Yn ôl i Leifior: ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg (1989). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a dogfennau'n ymwneud â'r Cyngor Llyfrau Cymraeg, 1987-1989.

Dramâu

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau nodiadau cymysg yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o ddramâu yn bennaf, ynghyd â rhai caneuon, storïau a beirniadaethau.

'Salvator Jones'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafft llawysgrif drama o'r enw 'Salvator Jones', (hanes yr hynod Salvator Jones, proffwyd y dyfodol). Ceir hefyd nodiant sol-ffa ar gyfer caneuon ac unawdau sy'n rhan o'r ddrama.

'Huws & Co.'

Mae'r ffeil yn cynnwys copi teipysgrif o ddrama gan Islwyn Ffowc Elis o'r enw 'Huws & Co.' a ddarlledwyd gan BBC Cymru ar 19eg Mehefin 1954. Mae'r dudalen glawr yn rhestri enwau'r actorion a'r cantorion.

'Yr Unben'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafft llawysgrif o ddrama o'r enw 'Yr Unben', ac o ddrama di-deitl am 'Syr Alwyn'. Ceir hefyd nodiadau ar gyfer drama dditectif radio, a nodiadau amrywiol eraill.

Dramâu amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau a nifer o ddalennau rhydd, yn cynnwys drafft llawysgrif o ddarnau o ddramâu o'r enw 'Doctor Wyn', 'Yr Anhygoel Huws' ac eraill di-deitl. Ceir hefyd feirniadaeth ar gystadleuaeth y bryddest yn Eisteddfod Trefeglwys, caneuon gyda nodiant sol-ffa, a nodiadau amrywiol eraill.

Sgriptiau radio

Mae'r ffeil yn cynnwys sgriptiau radio'r BBC, 1960-1963, a chopïau teipysgrif o sgyrsiau radio, erthyglau, a deunydd amrywiol.

Storïau byrion

Mae'r ffeil yn cynnwys storïau byrion di-deitl. Mae un stori yn anghyflawn a cheir pymtheg dalen rhydd yn ychwanegol at y llyfrau.

Llyfrau nodiadau cymysg

Mae'r gyfres yn cynnwys drafftiau o ysgrifau a gyhoeddwyd yn Cyn Oeri'r Gwaed (1952), storïau, nodiadau ar bynciau crefyddol, erthyglau gwleidyddol a chaneuon.

Llyfrau nodiadau crefyddol

Mae'r ffeil yn cynnwys chwech llyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau ar bynciau crefyddol yn gyffredinol, nodiadau ar Fwdïaeth ac Islam, nodiadau pregethau, ac erthyglau ar faterion Eglwysig.

Results 1 to 20 of 67