Dangos 25 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llen Cymru,

A draft of the introduction to Llen Cymru: Detholiad o ryddiaith a phrydyddiaeth at wasanaeth myfyrwyr gwlad ac ysgol, Rhan I-IV (Caernarfon, 1921-7), in the hand of Thomas Gwynn Jones, together with drafts of some of the poems and prose passages selected for inclusion in the series.

Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949

Llyfr yn cynnwys drafft o 'Gwlad y Bryniau'

Llyfr poced yn cynnwys rhannau o ddrafft, [1909], yn llaw T. Gwynn Jones, o'i awdl 'Gwlad y Bryniau'.
Tynnwyd nifer fawr o ddalennau allan o'r gyfrol gan y bardd a'u cyfuno gyda dalennau newydd i greu'r drafft gorffenedig, sydd nawr yn NLW MS 24054A. Er mwyn gweld y drafft cynharach yn ei chyfanrwydd dylid felly astudio'r ddwy gyfrol ochr wrth ochr.

Cerdd gan Waldo Williams,

  • NLW MS 23897B.
  • ffeil
  • 1955-1956.

Copi o E. Llwyd Williams a Waldo Williams, Cerddi'r Plant, 2il arg. (Aberystwyth, 1955), yn cynnwys cerdd ddi-deitl, 6 Mai 1956, gan Waldo Williams, yn llaw yr awdur, wedi ei gyflwyno i Enid Jones (t. 2). Cyhoeddwyd a thrafodwyd y gerdd yn erthygl ei mam Anna Wyn Jones, 'Waldo', yn Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, gol. gan James Nicholas (Llandysul, 1977), tt. 37-49 (t. 45). = A copy of E. Llwyd Williams and Waldo Williams, Cerddi'r Plant, 2nd edn (Aberystwyth, 1955), containing an untitled autograph poem, 6 May 1956, by Waldo Williams, dedicated to Enid Jones (p. 2). The poem is published and discussed in her mother Anna Wyn Jones's article 'Waldo', in Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, ed. by James Nicholas (Llandysul, 1977), pp. 37-49 (p. 45).

Williams, Waldo, 1904-1971

Llythyrau Waldo Williams,

  • NLW MS 23896D.
  • ffeil
  • 1943-1998 /

Saith llythyr a dau gerdyn, 1943-1968, oddi wrth Waldo Williams at Anna Wyn Jones (née Richards), Mynachlog Nedd, ei gyd-athro yn Ysgol Botwnnog, 1942-1944 (ff. 1-38). = Seven letters and two cards, 1943-1968, in Welsh, from Waldo Williams to Anna Wyn Jones (née Richards), Neath Abbey, his colleague at Botwnnog School, 1942-1944 (ff. 1-38).
Cyhoeddwyd dau o'r llythyrau (ff. 11-16, 20-24) yn Waldo Williams: Rhyddiaith, gol. gan Damian Walford Davies (Caerdydd, 2001), tt. 101-104. Cynhwysir hefyd lythyr, 29 Mehefin 1972, oddi wrth James Nicholas at Anna Wyn Jones (ff. 39-41); nodiadau ganddi, [1971]-[1980au], rhai ohonynt ar gyfer ei herthygl 'Waldo', yn Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, gol. gan James Nicholas (Llandysul, 1977), tt. 37-49 (ff. 42-64); ac effemera yn ymwneud â Waldo Williams, 1978-1998 (ff. 65-74). Ceir cerddi gan Williams ar ff. 1, 6-7, 29 verso, 42-44. = Two of the letters (ff. 11-16, 20-24) are published in Waldo Williams: Rhyddiaith, ed. by Damian Walford Davies (Cardiff, 2001), pp. 101-104. Also included is a letter, 29 June 1972, from James Nicholas to Anna Wyn Jones (ff. 39-41); notes compiled by her, [1971]-[1980s], some in preparation for her article 'Waldo', in Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, ed. by James Nicholas (Llandysul, 1977), pp. 37-49 (ff. 42-64); and ephemera relating to Waldo Williams, 1978-1998 (ff. 65-74). Poems by Williams are on ff. 1, 6-7, 29 verso, 42-44.

Williams, Waldo, 1904-1971

Papurau Caradog a Mati Prichard

  • GB 0210 CARADOG
  • Fonds
  • 1921-1982

Mae grŵp 1983 yn cynnwys: dyddiaduron Caradog Prichard,1963-1980 (bylchog); gohebiaeth, yn cynnwys llythyrau, 1942-1946, oddi wrth Caradog at ei wraig Mati, tra'r roedd yn gwneud ei wasanaeth milwrol, llythyrau a negeseuon yn ei longyfarch ar ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962, llythyrau amrywiol,1954-1979, a gyfeiriwyd at Caradog Prichard, llythyrau o gydymdeimlad a dderbyniwyd ar farwolaeth Caradog Prichard yn 1980 a phapurau eraill yn ymwneud â'i farwolaeth; copïau o'i farddoniaeth, yn cynnwys cyfieithiadau Saesneg o'r tair cerdd a enillodd y Goron i Caradog Prichard yn Eisteddfodau Cenedlaethol 1927, 1928 a 1929; dramâu a sgriptiau teledu a radio; gweithiau rhyddiaith ac anerchiadau a baratowyd gan Caradog Prichard, 1963-1977, yn cynnwys nifer heb ddyddiad; deunydd printiedig, 1921-1974, yn cynnwys llawer o dorion o'r wasg; papurau personol, yn cynnwys cyfrifon,1951-1981. Mae grŵp 1994 yn cynnwys: llythyrau, 1945, a ysgrifennodd Caradog Prichard at ei wraig Mati yn ystod ei gyfnod yn y fyddin yn New Delhi, llythyrau, 1946-1987, a anfonwyd at Mati Prichard, llythyrau, cardiau a thelegramau, 1940-1970, a anfonwyd at Caradog a Mati Prichard, cardiau post, 1929-1987, a anfonwyd at Caradog a Mati Prichard; cerddi, rhyddiaith ac anerchiadau yn bennaf gan Caradog Prichard; deunydd personol Caradog Prichard, 1927-1980; a deunydd personol ac amrywiol, 1926-1978, rhan ohono yn ymwneud â Mati Prichard. = The 1984 group comprises: Caradog Prichard's diaries, 1963-1980 (with gaps); correspondence, including letters, 1942-1946, from Caradog Prichard to his wife Mati, during his period of military service, letters and messages congratulating him on winning the chair at the Llanelli National Eisteddfod in 1962, miscellaneous letters, 1954-1979, addressed to Caradog Prichard, sympathy letters received on the death of Caradog Prichard in 1980 and other papers relating to his death; copies of his poetry, including English translations of the three poems which won the Crown for Caradog Prichard at the National Eisteddfodau of 1927, 1928 and 1929; plays and television and radio scripts; prose works and addresses prepared by Caradog Prichard, 1963-1977, including many undated; printed matter, 1921-1974, including many press cuttings; personal papers, including accounts, 1951-1981. THe 1994 group comprises: letters, 1945, from Caradog Prichard to his wife Mati during his army service at New Delhi, letters, 1946-1987, addressed to Mati Prichard, letters, cards and telegrams, 1940-1970, addressed to Caradog and Mati Prichard, postcards, 1929-1987, addressed to Caradog and Mati Prichard; poems, prose writings and addresses mainly by Caradog Prichard; Caradog Prichard's personalia, 1927-1980; and general personalia and miscellanea, 1926-1978, some concerning Mati Prichard.

Prichard, Caradog, 1904-1980

Canlyniadau 21 i 25 o 25