Showing 338 results

Archival description
Papurau'r Parch. J. Dyfnallt Owen
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Toriadau Papur Newydd, ayb,

'Rupert Brooke' allan o The Welshman Supplement, ? Ebrill, 1920. 'Awen y Rhondda gynt.' (Proflenni gali). Yn cynnwys rhagor o hanes 'Clic y Bont', a defnyddiau a gafwyd gan William Jones. 'Emyn George Matheson'. Y Dysgedydd, Medi, 1926. 'Brut yr Enwad' (Proflenni gali gan mwyaf, yn cynnwys 'Genesis a Threigl yr Achos yng Ngwynfe', a defnyddiau ar 'Stephen Hughes, Apostol Sir Gaerfyrddin'). Dechreuad Undeb yr annibynwyr Cymraeg, 1872: Cyfres o lythyrau. (Proflenni gali). 'Y Dadeni Llenyddol yng Nghymru, 'Pennod yn hanes y nofel Gymraeg', 'Y Celtiaid yn y Drych', 'Teithio Rhufain' ayb. (Proflenni gali). 'Taith Pererin yn Llydaw'. (Proflenni gali). Cyffredinol. O'r Listener,. Llithiau ar: Goronwy Owen. Mazzini. Hefyd ysgrif neu ddarlith yn dwyn y teitl 'Gwir Werinwr. Joseph Mazzini - Proffwyd yr Eidal Gyfan'. Eifion Wyn. Syr J. Morris Jones. R. Williams Parry. Llên ac Awen Cymru' gan J. Roberts Williams, o'r Cymro, 1937-38. 'Y Golofn Gymraeg' gan y Parch R. Hughes, Valley, o'r Goleuad. Hefyd ysgrifau gan yr un gwr ar 'Briod-ddulliau'r Gymraeg', o'r Drysorfa. 'Yr Ysgol Gymraeg' o'r Darian. 'Y Gongl Gymraeg' o'r Eurgrawn Wesleaidd. 'Iachawdwriaeth ac Iechydwriaeth', o'r Goleuad, 1928. Cyffredinol, Cymraeg a Saesneg. Hefyd rhai erthyglau. Personol. 'Y Wasg a'r Archdderwydd'. Cuttings ynglyn ag Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 1954. 'Cronicl Hanes ac Archdderwyddiaeth Dyfnallt' ac Adolygiadau ar y gyfrol Ar y Twr. (1953). Amrywiol. Ychydig bapurau ynglyn â'r Gyngres Geltaidd, Glasgow, 1953. Personalia a mân bapurau. Un ddalen o ddyddiadur 1922. Llechen a gyflwynwyd i Dyfnallt yng Nghynfal, Gorff. 23, 1949, gan J.W. Jones, Minffordd, Oakely Square, Blaenau Ffestiniog, ac arni gopi o'r geiriau sydd ar y tabled a osodwyd i gofio man geni Morgan Llwyd. 'Memorandwm. Achos y Wladfa. Y Sefyllfa yn Grefyddol', gan J. Dyfnallt Owen. Printiedig. 'Y Gymraeg a Diwylliant. Anerchiad a draddodwyd yn Heol Awst. Caerfyrddin, ar achlysur ymweliad Pwyllgor Ymchwil yr Iaith Gymraeg, Ionawr 27-29, 1926, Gan Ddyfnallt'. Printiedig.

Llythyrau Amrywiol,

Llythyrau, Mai-Mehefin 1916, oddi wrth Dyfnallt at Mrs. Owen, gydag un neu ddau o rai diweddarach (o Baris). Llythyrau, c. 1931-56, oddi wrth Dr. Geraint Dyfnallt Owen at ei rieni, ynghyd â rhai llythyrau at Dr. Geraint Dyfnallt Owen oddi wrth yr Athro T. Gwynn Jones ac eraill. Llythyrau at Dyfnallt, Awst 1953, yn ei longyfarch ar gael ei ethol yn Archdderwydd Cymru. (Un oddi wrth 'Myfyr Hefin'). Llythyrau at Dyfnallt, 1953-6, ynglyn â chyhoeddiadau. Llythyrau a dderbyniwyd pan oedd Dyfnallt yn yr ysbyty yn Aberystwyth Chwef.-Ebrill 1956. Gorsedd Llydaw; Gohebiaethau at Dyfnallt, 1952-5, yn cynnwys llythyrau oddi wrth P. Loisel, 'Eostig Sarzhaw', F. Taldir Jaffrennou, Mme. Galbrun, 'Iona', A.J. Raude, 'Rhon Peniarth', Francois Ters, H.H. Yellen, y Parch A. .E. Jones, 'Cynan', a'r Athro Morgan Watkin, ynghyd â phapurau eraill (cylchlythyrau, etc.). Gorsedd Cernyw: Llythyrau a phapurau eraill oddi wrth Edwin Chirgwin, 'Map Melyn', at Dyfnallt ynglyn â'r trefniadau ar gyfer Gorsedd Cernyw, Castle Dore, 1954. Cyfarchion i Dyfnallt ar ôl chwarter canrif fel Golygydd Y Tyst. Gweler Y Tyst, Ion. 3, 1952. Galwadau, a llythyrau ynglyn â galwadau, 1898-1910.

Results 41 to 60 of 338