Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyrau at S.R., &c.

Saith llythyr a deugain, 1824-1881, y rhan fwyaf at Samuel Roberts a'i dad, John Roberts, oddiwrth teulu a ffrindiau. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Edward Davies, Drenewydd, 1833-1834 (ff. 4-13), Griffith a Maria Griffith, [c. 1858] (ff. 19-20), Richard Griffith, 1858 (ff. 21-23), Samuel Griffith[s], 1858-1859 (ff. 24-31), S. L. Lewin, Amwythig, [1833]-1834 (ff. 42-45), D. Morgan, Ogof, 1834 (ff. 46-49), David Rees, Llanelly, 1865, 1867 (ff. 53-56), J.R. a Rees Griffiths, 1834 (ff. 64-67), Thomas Weaver, Amwythig, 1825-1826 (ff. 80-83), a Sarah Yallowley, [1820au] (ff. 89-92). = Forty-seven letters, 1824-1881, mostly addressed to Samuel Roberts and John Roberts, senior, from family and friends. The correspondents include Edward Davies, Newtown, 1833-1834 (ff. 4-13), Griffith a Maria Griffith, [c. 1858] (ff. 19-20), Richard Griffith, 1858 (ff. 21-23), Samuel Griffith[s], 1858-1859 (ff. 24-31), S. L. Lewin, Shrewsbury, [1833]-1834 (ff. 42-45), D. Morgan, Ogof, 1834 (ff. 46-49), David Rees, Llanelly, 1865, 1867 (ff. 53-56), J.R. and Rees Griffiths, 1834 (ff. 64-67), Thomas Weaver, Shrewsbury, 1825-1826 (ff. 80-83), and Sarah Yallowley, [1820s] (ff. 89-92).
Mae yna lythyrau drafft gan S.R., 1824, 1827, [1870au] (ff. 68-75), dau yn ymwneud a dadl gyda'r Parch. Richard Shut, Drenewydd, ac un at John Rylands. Mae rhai llythyrau yn cynnwys atebion drafft ac arnodiadau eraill gan S.R. = There are several draft letters from S.R., 1824, 1827, [1870s] (ff. 68-75), two concerning a dispute with the Rev. Richard Shut, Newtown, and one to John Rylands. Some letters include draft replies and other annotations by S.R.

Roberts, John, 1767-1834

Lears; Halfords; Lloyds Chemist; Littlewoods; Lakeland; Laura Ashley; PC World; Panasonic; Partners; Peacocks

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1986-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a storfeydd cenedlaethol yn trafod polisi iaith Gymraeg, yn cynnwys llythyrau (1995-1996), o’r Arglwydd Hooson. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiad i’r wasg (1996); cofnodion cyfarfod (1990); a nifer o ffotograffau o arwyddion siop.

Spar; Staples; Stead & Simpson; Toys R Us; Thorntons; Thomas Cook; JJB Sports; River Island; Arthur Llewelyn Jenkins; Ladbrokes; a nifer o siopau lleol ac annibynnol

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1994-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o siopau a busnesau lleol yng Nghaerdydd, a storfeydd cenedlaethol, yn trafod polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1994-1997); a nifer o ffotograffau o arwyddion siop.

Archfarchnadoedd

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1994-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o archfarchnadoedd yng Nghymru yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1996-1997); a nifer fach o dorion o’r wasg.

Colegau

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1988-1997, yn trafod polisïau iaith Gymraeg o fewn sefydliadau addysgol yng Nghaerdydd. Mae’n cynnwys gohebiaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a'r Swyddfa Gymraeg; y Gymdeithas Myfyrwyr De-ddwyrain Cymru; Coleg Cerdd a Drama Cymru; Coleg Glan Hafren; Coleg Castell Nedd; a Phrifysgol Morgannwg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys copi o’r Cynllun Iaith Gymraeg (1997) Cyngor Hyfforddi a Menter Morgannwg Canol; copi o adroddiad interim ‘Cwricwlwm Cenedlaethol Y Gweithgor Cymraeg’ (1988); datganiad i’r wasg (1989); a chopi o Gynllun Strategol y Coleg Cerdd a Drama Cymru (1990).

Hanes Cymry Birmingham

  • NLW MS 14340B.
  • Ffeil
  • 1905-1933

Llyfr nodiadau, 1905-1933, y Parch. J. Roberts-Evans, Birmingham, yn cynnwys nifer o ysgrifau yn ymwneud a hanes y Cymry, ac yn benodol y Methodistiaid Calfinaidd, yn ardal Birmingham. = Notebook, 1905-1933, of the Rev. J. Roberts-Evans, Birmingham, containing various texts relating to the history of the Welsh, in particular the Calvinistic Methodist causes, in the Birmingham area.
Mae'r gyfrol yn cynnwys adysgrif, [1906], o hanes y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig ym Mirmingham gan Evan Thomas, Handsworth (gweler NLW MS 18151A am y llawysgrif gwreiddiol) (ff. 1-92, rectos yn unig); darlith gan J. Roberts-Evans, 1906, ar y pwnc 'Birmingham Cymreig o 1800 i 1850' (ff. 5 verso-40 verso, versos yn unig); ac adysgrifau, [?1920au], o gofnodion cyfarfodydd Dosbarth y Trefi Seisnig o Gyfarfod Misol Trefaldwyn Isaf, 1885-1915 (ff. 41 verso-58 verso, versos yn unig). Ceir hefyd ddeunydd yn ymwneud â Dr John Birt Davies, [c. 1905] (tu mewn i'r clawr blaen), Humphrey Lloyd, Bala, 1905 (f. 106 verso, tu mewn i'r clawr cefn), a'r Methodistiaid Calfinaidd yn Walsall, 1926-1933 (ff. 58 verso-63 verso, versos yn unig). = The volume contains a transcript, [1906], of a history of the Welsh Calvinistic Methodists in Birmingham by Evan Thomas, Handsworth (see NLW MS 18151A for the original manuscript) (ff. 1-92, rectos only); a lecture by J. Roberts-Evans, 1906, entitled 'Birmingham Cymreig o 1800 i 1850' (ff. 5 verso-40 verso, versos only); and transcripts, [?1920s], of minutes of meetings of the English Towns District of the Lower Montgomeryshire Presbytery, 1885-1915 (ff. 41 verso-58 verso, versos only). Also included is material relating to Dr John Birt Davies, [c. 1905] (inside front cover), Humphrey Lloyd, Bala, 1905 (f. 106 verso, inside back cover), and the Calvinistic Methodists in Walsall, 1926-1933 (ff. 58 verso-63 verso, versos only).

Roberts-Evans, J. (John), d. 1939.

Halsingod

  • NLW MS 14579A.
  • Ffeil
  • 1730-1733

Casgliad o naw deg dau o halsingod o ardal Llandysul, Dyffryn Teifi, wedi eu copïo gan John Evan rhwng 1730 a 1733. Cyfansoddwyd y mwyafrif o'r halsingod rhwng 1654 a 1722 gydag ychydig o enghreifftiau cyfoes ar ddiwedd y gyfrol. = A collection of ninety-two carols of a religious or moral nature ('halsingod') from the Llandysul, Teifi Valley, area, transcribed by John Evan between 1730 and 1733. The majority of the poems were composed between 1654 and 1722 with a few contemporary examples included at the end of the volume.
Priodolir y cerddi i'r awduron canlynol: David Davies [?ficer Bridell, sir Benfro], James Richard, David Lewis [?Llanllawddog], Sampson Lloyd, Evan Griffith, Syr John Owen, David Jones, David Evanes [sic], John Hughes, John Evan, a'r 'hen Glark Einion' (ceir cyfeiriadau at rai o'r unigolion hyn, ynghyd â rhestr o halsingod eraill a gyfansoddwyd ganddynt, yn Geraint Bowen, 'Yr Halsingod', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, (1945), 83-108). = The poems are attributed to the following authors: David Davies [?vicar of Bridell, Pembrokeshire], James Richard, David Lewis [?Llanllawddog], Sampson Lloyd, Evan Griffith, Sir John Owen, David Jones, David Evanes [sic], John Hughes, John Evan, and 'yr hen Glark Einion' (references to some of these individuals, together with a list of other 'halsingod' composed by them, are in Geraint Bowen, 'Yr Halsingod', Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, (1945), 83-108).

Evan, John, fl. 1730-1733.

Canlyniadau 721 i 740 o 1033