Showing 1587 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers,
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol: 1971

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas. Mae'n cynnwys llythyrau oddi wrth Bryan Martin Davies. Ceir cyfeiradau at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Nesta Wyn Jones am ei chyfrol Cannwyll yn Olau.

Thomas, Gwyn, 1936-

Gohebiaeth gyffredinol: 1971-1974

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth Gwyn Thomas a John Rowlands. Ceir cyfeiriadau at drefniadau Cynhadledd Taliesin, at berthynas yr Adran Gymraeg a'r Adran Saesneg, at y trefniadau ar gyfer penodi ysgrifennydd cyflogedig cyntaf Adran Gymraeg yr Academi ac at gyfraniad yr Academi i'r ymgyrch ddarlledu. Mae'n cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus ac at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Owain Owain, yn 1971, am ei gyfrol Bara Brith ac i Einir Jones, yn 1972, am ei chyfrol Pigo Crachan.

Thomas, Gwyn, 1936-

Gohebiaeth gyffredinol: 1972-1974

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd dan ysgrifenyddiaeth John Rowlands. Ceir cyfeiriadau at drefniadau Cynhadledd Ryngwladaol 1974, pryd y gwahoddwyd awduron o Iwgoslafia draw i Gymru; at adolygu llyfrau Cymraeg yn y Western Mail, at sefydlu papur dyddiol Cymraeg ac at sefydlu Undeb Awduron Cymru. Mae'n cynnwys cyfeiriadau at gyhoeddi Taliesin a dadansoddiad daearyddol manwl gan Tecwyn Lloyd o'r cyfrannwyr i'r chwe chyfrol ar hugain cyntaf. Ceir gohebiaeth rhwng yr Academi a sefydliadau eraill yng Nghymru ynglŷn â sefydlu archif o raglenni radio a theledu - cynnig a osodwyd ger bron Cynhadledd Taliesin ym 1973. Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau gan, a chyfeiriadau at, nifer fawr o lenorion adnabyddus, ac at gyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Moses Glyn Jones, yn 1973, am ei gyfrol Y Ffynnon Fyw.

Rowlands, John, 1938-2015

Gohebiaeth gyffredinol: Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, ac yn arbennig felly ei chysylltiad â Chyngor Celfyddydau Cymru, dan ysgrifenyddiaeth John Rowlands. Ceir trafodaeth ar fanylion ariannol yr Academi ac ar y trefniadau i benodi Swyddog Gweinyddol cyflogedig am y tro cyntaf, yn ogystal â sylwadau penodol Tecwyn Lloyd ar y pwnc.

Rowlands, John, 1938-2015

Gohebiaeth gyffredinol: 1974-1979

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd ac sydd, o'r herwydd, yn cynnwys cofnodion ac adroddiadau ar gyfer llawer o bwyllgorau. Mae'n cynnwys gohebiaeth fer rhwng R. Bryn Williams, oedd am ymddiswyddo fel aelod, a'r Cadeirydd, Bobi Jones.

Williams, R. Bryn

Gohebiaeth gyffredinol: 1975-1978

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd. Mwyafrif yr ohebiaeth yw llythyrau at, ac oddi wrth, y Cadeirydd, Bobi Jones, yn trafod y newidiadau cyfansoddiadol a gynigiwyd ganddo a'r syniad o ddefnyddio Bodiwan, Y Bala, fel canolfan i'r Academi.

Jones, Bobi, 1929-2017

Gohebiaeth gyffredinol: 1978

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau sy'n trafod gwaith yr Academi o ddydd i ddydd, ynghyd â phapurau rhai o'r pwyllgorau, yn trafod, ymysg pethau eraill, cychwyn y gwaith ar y Cydymaith i lenyddiaeth Gymraeg a chyflwyno Gwobr Goffa Griffith John Williams i Dafydd Rowlands am Mae Theomemphus yn hen ac i Aled Islwyn am Lleuwen.

Rowlands, Dafydd

Results 81 to 100 of 1587