Print preview Close

Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Hughes A'i Fab, yn Wrecsam,

Gwrthod cais KR i dalu breindal iddi ar y gwerthiant wedi'r ddwy fil gyntaf. Maent yn addo talu decpunt iddi os argreffir y llyfr ganddynt ar ôl gwerthu'r ddwy fil o gopïau sydd ganddi wedi eu hargraffu'n ddalennau.

Llythyr oddi wrth [E.] Prosser Rhys, yn Aberystwyth,

Cydnabod cydymdeimlad ar farwolaeth Bertha. Profiad nad â'n angof iddo oedd gwylio wrth wely'r un fach anymwybodol drwy'r nos ddwy noswaith olaf ei bywyd. Gall ddeall teimlad KR a hithau ar fin priodi. Hoffai eu gweld yn ymgartrefu yn Aberystwyth ond nid oes yno waith i Morris T. Williams ar y pryd. Nid yw'n dymuno bywyd hapus iddi - ni all artist fyw bywyd hapus. Hydera y caiff fywyd dwfn, llawn. Mae yn ei rhybuddio i beidio â disgwyl gormod oddi wrth y bywyd priodasol. Mae Morris T. Williams yn un o ragorolion y ddaear ac y mae ynddo ddefnydd artist mawr.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae'n llawen iawn o glywed mai yng Nghaerdydd y bwriadant fyw ar ôl priodi, yn Rhiwbeina. Y mae wedi ymddiswyddo o fod yn arholwr y Bwrdd Addysg Canol yr haf dilynol er mwyn bod yn rhydd i waith arall. Tybed a hoffai KR y gwaith? Fe gymer ryw fis llawn i'w wneud ac ni ddaw tâl hyd y Nadolig dilynol. Gellid ysgrifennu at glerc y Bwrdd Canol yn dangos diddordeb.

Llythyr oddi wrth Betty [Eynon Davies], Llundain SE23,

Awgrymu y caiff KR fwy o amser i lenydda ar ôl iddi briodi. Mae ei chartref a'r dodrefn yn swnio'n ddelfrydol. Sôn am y profiad o rannu fflat gyda'i chwaer, Hilda. Disgrifiad o'i fflat newydd. Mae hi'n amlinellu ei chostau. Mae llawer o arian yn ddyledus iddi am storïau sydd wedi eu derbyn ond heb eu cyhoeddi eto. Amgau rhai o'i storïau. Mae ganddi dair drama yn ei meddwl. Cynnig llety iddi yn Llundain, ond dim ond lle i un sydd yno. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth 'Winnie', [Winifred Rees], ym Mhontyberem,

Llongyfarch KR ar ei phriodas a'i cheryddu am wneud hynny mor gyfrinachol. Diolch iddi am lythyr caredig. Bydd eu cyfeillgarwch yn parhau er na fydd hynny yn ddyddiol bellach. Ni fydd modd llenwi ei lle yn Aberdâr. Gwahodd KR a Morris T. Williams ati i gael te ac i ymweld â Phenderyn. Diolch am sanau. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth M. S. Cooke, Thornhill, Dumfries-shire,

Diolch am yr anrheg cwbl annisgwyl. Fel arall y dylai pethau fod. Dymuno'n dda i KR yn ei bywyd priodasol. Roedd dull y briodas yn swnio'n addas iawn. Bu'n sâl ac nid yw cyfeiriad KR ganddi. Ysgrifennodd yr arwerthwr o Gaerdydd i ddweud iddo lwyddo i brynu un ryg i KR am £5. Mae am anfon y llythyr at Morris T. Williams yn y Western Mail. Mae criw swnllyd o neiaint a nithoedd o'i chwmpas. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Sal, yn Aberdâr,

Hanes arwerthiant y teulu Davies. Roedd Tabitha Davies yn awyddus iawn i gael rhywbeth. Methodd â mynychu'r arwerthiant oherwydd yr ysgol. Aeth y dreser a'r cwpwrdd cornel yn ddrud ond y gweddill am ychydig iawn. Da o beth na fedrai Miss Moses weld pwy oedd yn trafod ei phethau. Mae sefyllfa pethau yn Aberdâr ac yn enwedig yng Nghwmaman ymhell o fod yn galonogol. Diolch am gydymdeimlad KR i'w brawd a'i deulu, cawsant golled fawr. Dywedodd Mabel fod Miss Moses am iddi hi a'i theulu eistedd yng nghôr Miss Moses yn y capel. Bu hi [Sal] yn eistedd yno erioed. Nid yw yn bwriadu caniatáu iddi tra bydd [Sal] ym Methania.

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams] a Siân [Williams], yn Abergwaun,

Cyfarchion i Kate Roberts a Morris T. Williams yn dilyn eu priodas. Sylwi bod KR wedi mynd yn "ucheldrem ofnadw" yn ei beirniadaethau diweddar. Mae'n bwriadu troi ei gasgliad o straeon byrion yn sbils ar gyfer basâr y Blaid ar ôl gweld ei sylwadau yn Y Faner. Mae'n cytuno â KR ynglyn â'r broblem o gael nofel fawr yng Nghymru. Y Blaid a llywodraeth Gymreig yw'r unig obaith i ddiogelu anhepgorion bywyd yn ddi-os.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae'n bwriadu ei chyfarch o hyn ymlaen wrth ei henw llenyddol - Kate Roberts. Trafod llythyr y bwriedir ei gyhoeddi yn Y Ddraig Goch oddi wrth Mai Roberts. Annog KR i geisio am swydd is-arholwr gyda'r Bwrdd Addysg. Dywedodd cyfaill o fardd wrtho am KR: "Wel, pe na bai gennyf wraig fy hun, fe'i carwn innau hi". Cafodd fwynhad o ddarllen ei hysgrif yn Y Llenor ["Y Nofel Gymraeg", Y Llenor, cyf VIII (1928), tt 211-16]. Anfon cyfarchion blwyddyn newydd dda at fam Kate Roberts.

Llythyr oddi wrth Doris [ ], yn Plymouth,

Llongyfarch Kate Roberts ar ei phriodas. Nid yw wedi clywed ganddi ers amser hir. Dealla i ddodrefn KR gael ei saernïo'n bwrpasol iddi. Sôn am ei merch, Rosemary gan hyderu y caiff KR faban. Anfon dysgl pyrex iddi yn anrheg ac yn ei hannog i wneud pwdin reis i'w gwr. Saesneg/English.

Results 121 to 140 of 2413