Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 2413 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Clywodd ddrama radio KR "Cynddrws" dan amgylchiadau tra rhyfedd. [Rhaglen Cymru, nos Fawrth, 25 Mai 1954, 7-7.45 pm]. Dihangodd o "At Home" gwraig y prifathro am ddau funud i saith, gyrru ei gar rownd y gornel i lecyn tawel ar ymyl cae lle y canai'r gog a gwrando'r ddrama ar radio'r car. Hoffodd y ddrama a'i syniad o burdan, drama yn llawn dwyster a myfyrdod a phrofiad ynddi, ei harddull yn gain a'i chymeriadau (heblaw Goronwy Owen) yn fyw ac yn wir. Aeddfedrwydd oedd rhinwedd y ddrama. Cafwyd tri chwarter awr o wrando tawel - drama radio iawn. Drama i glust gyfrin atgof a myfyrdod, a barddoniaeth.

Llythyr oddi wrth Henry Brooke (at Rhys Hopkin Morris), Y Trysorlys, Llundain,

Ateb ymholiad ynglyn â dyledion treth incwm Kate Roberts. Mae'r swyddfa yn fodlon iddi dalu fesul tipyn ond bod 30 swllt yr wythnos yn rhy isel. Bydd yn rhaid iddi dalu hynny a hanner pob ffi a gaiff oddi wrth y BBC a chyhoeddwyr. Ynglyn â'r dreth sy'n ddyledus yn dilyn marwolaeth Morris Williams fe ganfuwyd bod gormod o amser wedi mynd heibio ers hynny bellach ac na allant hawlio'r £524-17s-2c. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Diolch i KR am ei llythyr a'r Faner. Nid fel drama radio y meddyliodd gyntaf am Siwan ond ar gyfer llwyfan Garthewin. Wedyn daeth y BBC a gofyn am ddrama Gwyl Ddewi. Bydd erthygl KR yn Y Faner yn hwb nid yn unig i Saunders Lewis ond i actorion Garthewin. [" 'Siwan' yng Ngwyl Ddrama Garthewin - Drama fythgofiadwy Saunders Lewis", Y Faner 25/8/1954, t 1]. Torrodd ei gar a hynny a'i rhwystrodd rhag dod i'r perfformiad. Mi weithiodd yn galed iawn ar y ddrama, yn enwedig Act III. Tipyn o tour de force oedd mentro act olaf heb ddim i ddigwydd ynddi o gwbl ond dau'n siarad ac yna mymryn o basiantri rhoi'r goron ar ei phen i gloi.

Canlyniadau 61 i 80 o 2413