Showing 173 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau D. Tecwyn Lloyd, file Welsh
Print preview View:

Llythyrau N-S,

Ymhlith y gohebwyr mae T. E. Nicholas (1); Iorwerth Peate (7); Thomas Parry (2), Kate Roberts (1); a Keidrych Rhys (1).

Nicholas, T. E. (Thomas Evan)

Llythyrau,

Llythyrau oddi wrth gyfranwyr i Taliesin gan gynnwys rhai oddi wrth Euros Bowen (13), Harri Pritchard Jones (2), Gareth [Alban Davies] (3), Rhydwen Williams (2), Gwyn Williams, Steve Eaves (3), Gerallt [Jones] (4), Gwilym R. [Jones], [R.] Bryn [Williams] (2), [T.] Llew [Jones], Hafina Clwyd, J. Gwyn Griffiths (3), Prys [Morgan] (3), Aled Jones-Williams, Gwyn Thomas (15), J. R. Jones, Bedwyr [Lewis Jones], John Rowlands, Mari [Ellis], Leslie [Richards], Eluned Phillips, Nesta [Wyn Jones] (2), Bryan [Martin Davies] (7), Derec [Llwyd Morgan] (3), Siôn Eirian (3), B[en] B[owen] T[homas], W. D. [Williams] (4), Iorwerth [Peate] (3), Kate Roberts, Caradog [Prichard] (5), Eigra [Lewis Roberts], Meic [Stephens], Harri [Gwynn], Islwyn [Ffowc Elis] (2), Gwenallt, John [Gwilym Jones], a Dyddgu [Owen].

Bowen, Euros.

Llythyrau G-J,

Ymhlith y gohebwyr mae Raymond Garlick (1); W. R. P. George (3); R. Geraint Gruffydd (5); Dafydd Iwan (2); Bedwyr Lewis Jones (5); John Gwilym Jones (3); Nesta [Wyn Jones] (6); a T. Llew Jones (1).

Papurau amrywiol,

Ymhlith y papurau ceir copi teipysgrif o'r deyrnged, 1970, a luniwyd gan y Parch. Robin Williams yn dilyn marwolaeth John Lloyd, tad D. Tecwyn Lloyd, a phenillion a luniodd D. Tecwyn Lloyd er cof am Bob Roberts, Tairfelin, [1951].

Dyddiadur,

Yn cynnwys cofnodion achlysurol rhwng 24 Hydref 1938 a 11 Chwefror 1941 mewn llyfr nodiadau.

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 30 Rhagfyr 1958 a 29 Awst 1963 mewn llyfr cofnodion. Ceir llythyr oddi wrth T. E. Nicholas, 1962, yn rhydd yn y gyfrol a thorion o'r wasg pan ddyfarnwyd MA iddo yn 1961.

Nicholas, T. E. (Thomas Evan)

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 14 Gorffennaf 1968 a 6 Ionawr 1992 mewn llyfr cofnodion.

Tystysgrifau,

Tystysgrifau, 1914-1992, gan gynnwys tystysgrif geni Tecwyn Lloyd, 1914, tystysgrifau priodas, 1955 a 1984, tystysgrif marwolaeth Frances Lloyd, 1980, a Tecwyn Lloyd, 1992.

Tystysgrifau,

Tystysgrifau, 1927-1938, gan gynnwys rhai arholiadau'r Ysgol Sul, am ennill gwobrau llenyddol yn Eisteddfod Myfyrwyr Colegau Bangor, 1937, ac am lwyddo mewn arholiad cwrs ymarfer dysgu, 1938.

Llyfr lloffion,

Llyfr lloffion yn cynnwys teyrngedau a cherddi coffa i Llwyd o’r Bryn, 1962; taflen cyfarfod dadorchuddio tabled goffa iddo yn Ysgol y Sarnau, 1968; torion am foddi Tryweryn, 1964-1965; a thorion eraill.

Papurau Coleg,

Ei draethawd 'Yr elfen bersonol yng Nghanu Taliesin, Llywarch Hen a'r Canu Gwirebol', 1936, ynghyd â phapurau eraill o'i ddyddiau coleg fel bwydlenni Cinio'r Gymdeithas Gymraeg, 1936-1937, wedi'u llofnodi gan y rhai oedd yn bresennol.

'Cymry alltud y Gwrthddiwygiad',

Darlith a draddododd wrth Gymrodorion yr Wyddgrug, Ionawr 1950, ynghyd â manylion, 1951, am amodau'r ysgoloriaeth a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Eidalaidd yn Llundain, adroddiad am ei gyfnod astudio a deunydd mewn Eidaleg gan gynnwys tocynnau darllen Llyfrgell ac Archifau'r Fatican, 1952.

Results 1 to 20 of 173