- P
- sub-fonds
- 1810-1969
Papurau personol D. J. Williams, 1810-1969, gan gynnwys llythyrau ato ac oddi wrtho, dyddiaduron, papurau teuluol, papurau academaidd, torion o'r wasg, papurau a grynhowyd ganddo a phersonalia.
Papurau personol D. J. Williams, 1810-1969, gan gynnwys llythyrau ato ac oddi wrtho, dyddiaduron, papurau teuluol, papurau academaidd, torion o'r wasg, papurau a grynhowyd ganddo a phersonalia.
Llythyrau at W. Anthony Davies
Dau ddeg tri llythyr, 1948-1957, a ysgrifennwyd gan D. J. Williams at W. Anthony Davies ('Llygad Llwchwr'), yn ymateb i'w erthyglau yng ngholofn 'Welsh Gossip' y News Chronicle, a'i adolygiadau o weithiau D. J. Williams yn y wasg. Fe'u dychwelwyd hwy ato gan ei weddw Irene Davies, [1962].
Llythyrau, 1913-1969. Ymhlith y gohebwyr mae H. R. Jones (9), Harri Pritchard Jones (3), Idwal Jones (9), Iorwerth Hughes Jones (3), J. E. Jones (98), J. R. Jones (2), J. T. Jones [John Eilian] (3), J. Tysul Jones (8) a J. Tywi Jones (1).
Jones, H. R. (Hugh Robert), 1894-1930
Llythyrau, [1925]-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Roland Mathias (8), Dillwyn Miles (21), ei frawd-yng-nghyfraith Emlyn Miles (14) a'i chwaer Pegi Miles (31).
Mathias, Roland
Llythyrau, 1926-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Alwyn D. Rees (9), Chris [Rees] (1), Ioan Bowen Rees (3), [J.] Seymour [Rees] (1), Prosser Rhys (14), Keidrych Rhys (5), Brinley Richards (2) a Leslie Richards (3).
Rees, Alwyn D.
Llythyrau, 1914-1969. Ymhlith y gohebwyr mae Syr Ben Bowen Thomas (53), D. Vaughan Thomas (1), Dan Thomas (7), David Thomas (3), Gwyn Thomas (3), J. M. Lloyd Thomas (2), Gwilym R. Tilsley (1) a Gwilym Tudur (1).
Thomas, Ben Bowen, 1899-1977
Llythyrau oddi wrth Siân Williams
Llythyrau, [1925], yn deillio o'r cyfnod pryd y cyfarfu D. J. Williams â'i ddarpar wraig hyd at eu priodas yn ddiweddarach y flwyddyn honno ac yn ymwneud â'u trefniadau priodas.
Llythyrau oddi wrth ei ffrindiau benywaidd
Llythyrau, 1915-1922, oddi wrth ei ffrindiau agos.
Dyddiaduron, 1923-1966, gan gynnwys un yn cofnodi ei daith i Lydaw yng nghwmni Ambrose Bebb yn [1924], a 'Dyddiadur dyn anonest', 1941-1951. Trafodir y Blaid, ei waith llenyddol, ei weithgareddau cyhoeddus, ei iechyd, a'i ymwelwyr ac maent yn tueddu i fod yn llawnach yn ystod degawd olaf ei fywyd. Defnyddiodd y dyddiaduron i gofnodi cyfeiriadau yn fynych iawn.
Williams, D. J. (David John), 1885-1970