Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Yr oes oleu hon,

  • NLW ex 2739.
  • file
  • 1938.

Sgript drama a anfonwyd at Sarah E[len] Griffiths, mam y rhoddwyr, gan y BBC yn Abertawe i'w darlledu o Stiwdio Aberystwyth, 28ain Mawrth 1938, gyda Judith Jones, Sarah E[len] Griffiths, Thomas Evans a David Phillips yn actio ynddi. Roedd y pedwar actor yn byw yn ardal Tynygraig, [Ystrad Meurig, Ceredigion].

Cerddi David Thomas ('Llwydiarth Môn'),

  • NLW Misc. Records 415.
  • file
  • 1933.

Cerddi (printiedig a llawysgrif) yn Gymraeg, gan gynnwys rhai gan David Thomas ('Llwydiarth Môn'). = Items of Welsh verse (ms. and printed) including poems by David Thomas ('Llwydiarth Môn').

Owen Williams, Eglwysbach, cerddor,

  • NLW Misc. Records 405.
  • file
  • [1900x1977].

Geiriau (Cymraeg a Saesneg) a cherddoriaeth cân yn dwyn y teitl 'Nadolig? Pwy a wyr', ynghyd â sgript rhaglen ar fywyd Owen Williams, Eglwysbach, cerddor a chyfansoddwr. = Copy of the words (Welsh and English) and music of a song entitled 'Christmas maybe?'; and a copy of the script of a programme on the life of Owen Williams of Eglwysbach, musician, composer.

CMA: Cofysgrifau Capel Siloh, Porthyrhyd,

  • CMA: Capel Siloh, Porthyrhyd.
  • fonds
  • 1909-2004.

Cofysgrifau Capel Siloh, Porthyrhyd, 1909-2004, yn cynnwys llyfrau ystadegau, 1925-1937; a llyfr cyfrifon, 1909-2004. = Records of Siloh Chapel, Porthyrhyd, 1909-2004, including statistics, 1925-1937; and accounts, 1909-2004.

CMA: Cofysgrifau Capel Bethania, Glanaman,

  • CMA: Capel Bethania, Glanaman.
  • fonds
  • 1843-2001.

Cofysgrifau Capel Bethania, Glanaman, 1843-2001, yn cynnwys llyfr ystadegau, 1909-1930; cofrestr bedyddiadau, 1843-1918; chwe chofrestr priodasau, 1928-2001; cofnodion ariannol, 1907-1955; a llyfr yr Ysgol Sul, 1924-1937. = Records of Bethania Chapel, Glanaman, 1843-2001, including statistics, 1909-1930; register of baptisms, 1843-1918; six registers of marriages, 1928-2001; financial records, 1907-1955; and a Sunday School book, 1924-1937.

Cau Cwmni Adfer Cyf.

Tystysgrifau stoc Adfer, 1971-1973, ynghyd â bonion, derbynebau, 1971-1972, cyfrifon, llythyrau cyfreithiol, 2000-2002, yn ymwneud ag ymddatod y cwmni.

Papurau'n ymwneud â chapeli Patatagonia,

  • NLW Facs 1082.
  • file
  • 1981-1982.

Llungopïau o gofnodion Eglwysi Bethel, Cwmhyfryd, 1924-48, Seion, Esquel, 1904-82, a Moriah, Trelew, 1917-65, ynghyd ag englynion a gopïwyd oddi ar gerrig beddau yn Y Wladfa. Casglwyd y deunydd ynghyd gan y rhoddwr pan dreuliodd chwe mis yn weinidog ym Mhatagonia yn 1982 a cheir gohebiaeth yn ymwneud ag ariannu a threfnu’r daith.

Owen, Goronwy Prys.

Cyfrol o bregethau,

  • NLW ex 2809.
  • file
  • [1900].

Cyfrol fechan o bregethau gan awdur anhysbys.

Llythyron teipiedig gan Thomas Parry,

  • NLW ex 2666.
  • file
  • 1953.

Dau lythyr teipiedig yn cydnabod rhodd o ddau lyfr i'r Llyfrgell Genedlaethol gan Mr J. W. Jones, Blaenau Ffestiniog, wedi eu llofnodi gan Thomas Parry, y Llyfrgellydd.

Papurau cerddorol Haf Morris,

  • NLW ex 2853 (i) & (ii)
  • file
  • [1946]-[2005].

Llyfrau nodiadau Haf Morris (1933-2012) a'i mam Mrs Laura Morris, Eirianfa, Trawsfynydd, yn cynnwys gosodiadau cerdd dant niferus ar ffurf sol-ffa yn bennaf ar gyfer cystadlaethau mewn eisteddfodau, a gosodiadau cyntaf Haf Morris. Bu'r ddwy yn hyfforddi llu o blant ac ieuenctid yn ardaloedd Trawsfynydd ac Ynys Môn dros gyfnod maith mewn cerddoriaeth werin a cherdd dant.

Morris, Haf.

Sgwrs gyda Gwenlyn Parry,

  • NLW ex 2832.
  • file
  • [2013].

Adysgrif, [2013], o sgwrs rhwng Llyr Gwyndaf, mab y rhoddwr, a'r dramodydd Gwenlyn Parry, a gyflwynodd fel rhan o'i gwrs drama yn Ysgol Glantaf, Caerdydd, ar ffurf casét yn 1985.

Gwyndaf, Llyr.

Results 181 to 200 of 59614