Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Laudamus te,

Brasluniau anghyflawn o drefniant Gilmor Griffiths o'r gân diolchgarwch 'Laudamus te' (heb ei orffen).

Early one morning,

Trefniant o'r alaw 'Early one morning' ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llawysgrif o sgôr, sol-ffa a geiriau.

Ganwyd Crist i'r byd,

Trefniant o'r alaw 'Ganwyd Crist i'r byd', geiriau gan J. Arnold Jones, ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau.

Green sleeves,

Llungopi o drefniant Gilmor Griffiths o'r alaw draddodiadol 'Green sleeves' perfformiwyd gan Gantorion y Wledd Ganoloesol, Castell Ruthun, yng Nghastell Rhuthun. Sgôr gyda geiriau.

June is bustin out all over,

Trefniant o'r alaw 'June is bustin out all over' ar gyfer y Rhyl Operatic Society. Llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o gyfansoddiad Rogers and Hammerstein (Carousel). Sgôr yn yr hen nodiant a chopi sol-ffa. Hefyd llungopi o sgôr 'Out of my dreams' o 'Oklahoma'.

Hwiangerddi (ix)

Mae’r ffeil yn cynnwys bocs mynegai glas ar yr Hwiangerddi sydd mewn pedwar cyhoeddiad y cyfeirir atynt fel (HH, HW, HC, YH). Trefnwyd fesul hwiangerdd A-Y (ff. 1-342) gan nodi enw'r hwiangerdd, y cyhoeddiad a rhif tudalen, brawddeg gyntaf yr hwiangerddi ac weithiau’r pennill cyfan.
Y pedwar cyhoeddiad y gyfeirir atynt yw:
HH - J. Ceiriog Hughes, ‘Hen Hwian-gerddi’, Oriau’r Haf (Wrecsam: Hughes a’i Fab, [1870]),
HW - Hwiangerddi'r Wlad (Eluned Bebb) Llyfrau'r Dryw. Gorff 1942.
HC - Hwian Gerddi Cymru Casglwyd gan Owen M Edwards, Argraffwyr R E Jones a'i frodyr Conwy (120 o eitemau) Darluniau gan Winifred Hartley (Lowri Wynn) Llanuwchllyn Ac Owen.
YH - Yr Hwiangerddi casglwyd gan Owen M Edwards . Edwards, O. M. (1911), Yr Hwiangerddi (Llanuwchllyn: Ab Owen).

'Welsh Folk Song', J. Lloyd Williams (xiii)

Mae’r ffeil yn cynnwys un bocs mynegai coch gan Merêd ar ‘Welsh Folksongs in the J Lloyd Williams Collection’ wedi eu trefnu A-Z (ff. 1-52). Mae’n cynnwys gwybodaeth am enw’r alaw, a gyhoeddwyd y gwaith ai peidio, ble cyhoeddwyd, ffynhonnell, geiriau a nodiadau eraill.

Bu Merêd yn gwneud llawer o waith ymchwil ar archif J Lloyd Williams (1854-1945) sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol: https://archives.library.wales/index.php/dr-j-lloyd-williams-music-mss-and-papers-2

Papurau amrywiol

Llythyr printiedig, 1954, wrth iddo ffarwelio â’r eglwys yn Llanfair Caereinion, sgwrs am ‘Tegla’ ar gyfer Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1980, ynghyd â manylion am ei yrfa a’i gyhoeddiadau, [1983] a llungopi o bapur bro Nene, Ebrill 2000, yn cofnodi 'Cinio llenyddol efo Islwyn Ffowc Elis'.

Taflen briodas a phapurau eraill

Taflen briodas Eirlys Rees Owen a'r Parchedig Islwyn Foulkes Ellis, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Rhoslefain, Towyn, 28 Hydref 1950; llungopïau o bortreadau pensil ganddo o’i gefnder R. Glynne Lloyd; taflen gyfrannu at apêl Cronfa Gŵyl Ddewi Plaid Cymru un [1969] a'r neges gan Islwyn Ffowc Elis - 'Dyma’r amser ... '; rholyn: 'The ancient history of the distinguished surname Kenrick', [1993]; a thoriad o’r Tyst yn cynnwys adroddiad am ddadorchuddio plac ar ei gartref Pengwern yn 2010.

Dyddiadur S.R.

Almanac a Dyddiadur am y flwyddyn 1843, gol. gan Josiah Thomas Jones, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno yn Saesneg (tt. 17-69) yn nodi manylion pregethau, enwau gohebwyr a gwaith golygu Y Cronicl. = Almanac a Dyddiadur am y flwyddyn 1843, ed. by Josiah Thomas Jones, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries in English (pp. 17-69) recording preaching and other engagements, names of correspondents and the editing of Y Cronicl.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1846, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno yn bennaf yn Saesneg (tt. 3-55) yn nodi manylion pregethau ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1846, ed. by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries, mostly in English (pp. 3-55), including preaching engagements and names of correspondents.
Mae eitemau rhydd (5 ff.) wedi eu tipio i mewn ar ddiwedd y gyfrol. = Loose items (5 ff.) have been tipped in at the end.

Dyddiadur S.R.

Dyddiadur yr Annibynwyr am 1849, gol. gan H. Pugh, o eiddo i Samuel Roberts, Llanbrynmair, yn cynnwys cofnodion cryno yn bennaf yn Saesneg (tt. 3-55) yn nodi manylion pregethau a darlithoedd, gwaith golygu ac enwau gohebwyr. = Dyddiadur yr Annibynwyr am 1849, ed by H. Pugh, belonging to Samuel Roberts, Llanbrynmair, containing brief entries mostly in English (pp. 3-55) including sermons preached, other engagements, editing work and names of correspondents.

Dyddiadur S.R.

Y Dyddiadur Annibynol am 1883, gol. gan D. Evans a D. Stanley Davies, o eiddo Samuel Roberts, Conwy, yn cynnwys cofnodion cryno yng Ngymraeg a Saesneg (tt. 9-61). = Y Dyddiadur Annibynol am 1883, ed. by D. Evans and D. Stanley Davies, belonging to Samuel Roberts, Conwy, containing brief entries in Welsh and English (pp. 9-61).
Cofnodir marwolaeth Gruffydd Rhisiart ar 25 Gorffennaf (t. 38). Ceir hefyd nodiadau a chofnodion (tt. ii, 145-153, 155, 172-175 a tu mewn i'r clawr cefn). = The death of Gruffydd Rhisiart is recorded on 25 July (p. 38). There are also notes and memoranda (pp. ii, 145-153, 155, 172-175 and inside back cover).

Llyfr casglu Eglwys Annibynol Carno

Llyfr casglu swyddogol, 1828 (dyfrnod 1824), a ddefnyddiwyd gan Samuel Roberts ar gyfer casglu arian i Eglwys Annibynol Carno, sir Drefaldwyn (ff. 1-13). = An official collecting book, 1828 (watermark 1824), used by Samuel Roberts to collect money for Carno Congregational Church, Montgomeryshire (ff. 1-13).
Ceir hefyd llythyr ddrafft, 12 Hydref 1841, oddiwrth S.R. i David Jones ynghlyn a sefydlu ysgol Sul yn Bont Dolgadfan (ff. 15 verso-17). = Also contains a draft letter, 12 October 1841, from S.R. to David Jones concerning establishing a school room in Bont Dolgadfan (ff. 15 verso-17).

Canlyniadau 101 i 120 o 1033