Showing 674 results

Archival description
Only top-level descriptions Welsh
Print preview View:

3 results with digital objects Show results with digital objects

Clod i Feirion,

  • NLW ex 2583.
  • file
  • 1899.

Gwaith barddonol 'Clod i Feirion' gan 'Deudraeth', West Pullman, Illinois, a ddarllenwyd yng nghyfarfod 'meibion a merched' Sir Feirionnydd, 20 Mai 1899, yn yr Occidental Hotel, Stryd Maddison, Chicago.

'Cymwynas y cyfieithydd',

  • NLW ex 2410.
  • file
  • 1980.

Anerchiad teipysgrif Syr Thomas Parry yng Nghanolfan Addysg Bro Cernyw, 27 Medi 1980, ar achlysur dadorchuddio cofeb i'r cyfieithydd J. T. Jones ar ei gartref bore oes - Bron Hwylfa, Llangernyw.

Parry, Thomas, 1904-1985

Llawysgrifau 'Dafydd Morganwg',

  • NLW ex 2417.
  • file
  • [1876]-[1902].

Papurau, [1876]-[1902], David Watkin Jones ('Dafydd Morganwg', 1832-1905), neu a grynhowyd ganddo. Mae rhai ohonynt yn ymwneud â'i gyhoeddiadau Yr Ysgol Farddol (1869) a Hanes Morganwg (1874), a'i waith fel golygydd barddoniaeth y Cardiff Times ac fel beirniad eisteddfodol.

Dafydd Morganwg, 1832-1905

Cymdeithas Gymraeg y Geltaidd,

  • NLW ex 2674.
  • file
  • 1980-1995.

Papurau Cymdeithas Gymraeg y Geltaidd ('Y Geltaidd'), Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1980-1995, gan gynnwys gohebiaeth, tocynnau a rhestri aelodaeth a llyfr cofnodion cyfarfodydd.

Cymdeithas Gymraeg y Geltaidd.

Cariadon y Cei a Gwas dau feistr,

  • NLW ex 2664.
  • file
  • [2007].

Cyfieithiadau gan Gerald Morgan o ddwy ddrama gan Carlo Goldoni sef 'Cariadon y Cei' a 'Gwas dau feistr', [2007].

Goldoni, Carlo, 1707-1793.

Hanes Tal-y-bont, Brycheiniog,

  • NLW ex 2651.
  • file
  • 1881, 1959.

Teipysgif o draethawd gan Thomas Williams, Tal-y-bont, Sir Frycheiniog, 1959, yn olrhain hanes y pentref, wedi ei gyflwyno ar gyfer cystaleuaeth mewn eisteddfod yn y pentref ym 1881, ynghyd â chyfrol yn olrhain hanes ei deulu gan Thomas Williams. Cedwir y fersiwn gwreiddiol o'r traethawd yn y Llyfrgell (NLW MS 16675).

Williams, Thomas.

Llyfr y llanw a'r trai,

  • NLW ex 2650.
  • file
  • 1957.

Cyfrol yn cynnwys cyflwyniad o farddoniaeth a rhyddiaith yn portreadu stori'r Ffydd yng Nghymru gan 'Cefni' a gyflwynwyd i gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Môn a gynhaliwyd yn Llangefni, 1957.

CMA: Cofysgrifau Eglwys Babell, Pont Siôn Norton

  • GB 0210 BABELL
  • fonds
  • 1906-1948

Cofysgrifau eglwys Babell, Pont Siôn Norton, 1906-1948, yn cynnwys cyfrifon a chasgliad y Weinidogaeth.

Eglwys Babell (Pont Siôn Norton, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Borth-y-Gest

  • GB 0210 BORTHG
  • fonds
  • 1905-1929

Mae'r fonds yn cynnwys cofrestr Casgliad y Weinidogaeth, Capel Ebeneser, Borth-y-Gest, 1905-1929.

Capel Ebeneser (Borth-y-Gest, Wales)

CMA: Cofysgrifau Capel Bwlchgwynt, Tregaron

  • GB 0210 BWLTRE
  • fonds
  • 1871-1912

Mae'r fonds yn cynnwys Llyfrau Cyfrifon Casgliadau, 1871-1912, a Llyfr yr Ysgrifennydd, 1898-1902.

Capel Bwlchgwynt (Tregaron, Wales)

Papurau Cymdeithas Gelfyddyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru,

  • GB 0210 CGLLGC
  • fonds
  • 1965-1985 /

Cofnodion, 1965-1984; gohebiaeth,1974-1985; a phapurau amrywiol, [1977]-1985, yn cynnwys deunydd yn ymwneud ag Eisteddfod y Llyfrgell,1985 = Minutes, 1965-1984; correspondence, 1974-1985; and miscellaneous papers, [1977]-1985, including material concerning the Library Eisteddfod, 1985.

National Library of Wales. Arts Society.

Papurau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Ceredigion,

  • GB 0210 CYMION
  • fonds
  • 1964-1969 /

Papurau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Ceredigion, 1964-1969, yn cynnwys cofnodion sefydlu'r gangen,1964, a chofnodion, gohebiaeth a thorion o'r wasg,1964-1969 = Papers of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Ceredigion, 1964-1969, including records establishing the branch, 1964, and minutes, correspondence and press cuttings, 1964-1969.

Papurau ychwanegol yn perthyn i Gymdeithas yr Iaith a Thafod y Ddraig, gan gynnwys gohebiaeth a thorion papur, 1969-1971. Nid yw'r casgliad hwn wedi ei gatalogio eto.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Rhanbarth Ceredigion.

CMA: Cofysgrifau Capel Mawr, Llanrug

  • GB 0210 LLANRUG
  • fonds
  • 1790, 1833-1976

Mae'r fonds yn cynnwys cofrestr bedyddiadau Capel Mawr Llanrug, 1833-1976; llyfrau rhybudd o gladdedigaethau, 1900-1960; cyfrolau'n ymwneud ag aelodaeth, 1878-1931; llyfrau cofnodion pwyllgorau'r capel, 1891-1970; a phapurau amrywiol, sef llyfr cofnodion temlwyr Glanrhythallt a phapurau'n ymwneud ag Ysgol Bryneryr, 1790, 1854-1911.

Eglwys Llanrug (Llanrug, Wales)

Papurau Cofeb Hywel Dda,

  • GB 0210 HYWDDA
  • fonds
  • 1982-1990 /

Papurau'n ymwneud â chynllunio ac adeiladu Cofeb Hywel Dda a'r ganolfan ddeongliadol, yn cynnwys gohebiaeth, 1982-1990; papurau cyffredinol, 1982-1990; testunau teipysgrif wedi eu dethol o'r Cyfreithiau, [1983]; papurau ariannol yn ymwneud â defnyddiau adeiladu, 1983-1990; cynlluniau ar gyfer y ganolfan ddeongliadol, 1984; deunydd cyhoeddusrwydd, 1984-1985; torion papur newydd, 1982-1990; gwaith celf, [1983]-[1984]; a chofnodion, cyfrifon a phapurau eraill yn ymwneud â Chymdeithas Genedlaethol Cofeb Hywel Dda. = Papers relating to the design and construction of the Hywel Dda Memorial and interpretive centre including correspondence, 1982-1990; general papers, 1982-1990; typescript texts selected from the Laws, [1983]; financial papers relating to construction materials, 1983-1990; plan for the interpretive centre, 1984; publicity material, 1984-1985; newspaper cuttings, 1982-1990; artwork, [1983]-[1984]; and minutes, accounts and other papers relating to Cymdeithas Genedlaethol Hywel Dda, 1982-1987.

Cymdeithas Genedlaethol Hywel Dda.

Papurau'r Parch. E. J. Williams,

  • GB 0210 EJIAMS
  • fonds
  • [1906]-[1952] /

Papurau'r Parch. E. J. Williams a'i wraig Lizzie Eirlys Williams, [1906]-[1952], yn cynnwys gohebiaeth oddi wrth garcharorion rhyfel yn Solfach, sir Benfro yn ystod yr Ail Ryfel Byd; traethawd MA Lizzie Eirlys Evans [Williams] yn ymwneud â'r cysylltiad rhwng Diwygiadau Crefyddol 1730-1859 a llenyddiaeth y cyfnod,[1934]; a phapurau eraill yn gysylltiedig â gwaith enwad y Bedyddwyr yng Nghymru a mannau eraill = Papers of the Rev. E. J. Williams and his wife Lizzie Eirlys Williams, [1906]-[1952], including correspondence from prisoners of war during the Second World War in the Solva, Pembrokeshire; MA thesis by Lizzie Eirlys Evans [Williams] relating to the connection between the Religious Revivals 1730-1850 and the literature of the period, [1934]; and other papers connected with the work of the Baptist denomination in Wales and elsewhere.

Williams, E. J. (Evan John), d. 1993

Papurau Cymdeithas yr Iaith (Rhodri Williams),

  • GB 0210 CYMAMS
  • fonds
  • 1974-1980 /

Cofnodion yn ymwneud â Chymdeithas yr Iaith, 1974-1980, yn cynnwys cofnodion yn ymwneud â Chyfarfodydd Cyffredinol, 1974-1980, a chofnodion cyfarfodydd y Senedd, 1974-1980 = Records relating to the Cymdeithas yr Iaith, 1974-1980, including records relating to General Meetings, 1974-1980; and records of Senedd meetings, 1974-1980.

Williams, Rhodri.

Papurau'r Parch. T. Glyndwr Jones,

  • GB 0210 TGLNES
  • fonds
  • [1934x1985] /

Llyfryddiaeth baledi Cymraeg y 19eg ganrif, mewn wyth cyfrol teipysgrif (cyfrol chwech ar goll),ynghyd â drafftiau a nodiadau, [c. 1938], yn seiliedig ar gasgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a llyfrgelloedd Bangor a Chaerdydd, gan T. Glyndwr Jones; a mynegai i'r cyfnodolyn Cymru, cyfrolau i-lix,[1934x1985] = Bibliography of 19th-century Welsh ballads, in eight typescript volumes (with volume six missing), along with drafts and notes, [c. 1938], based on collections at the National Library of Wales and Bangor and Cardiff libraries, by Rev. T. Glyndwr Jones; and an index to the periodical Cymru, vols i-lix, [1934x1985].

Jones, Thomas Glyndwr.

Papurau Ymgyrch Ysgol Gymraeg Penmaenmawr,

  • GB 0210 YSGOLPEN
  • fonds
  • 1964-1968 /

Papurau Pwyllgor Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaen-mawr,1964-1968, yn ymwneud â sefydlu ysgol feithrin Gymraeg a'r ymgyrch dros ysgol gynradd Gymraeg, yn cynnwys cofnodion,1964-1968, copi o'r cyfansoddiad, gohebiaeth gyffredinol,1964-1967, a gohebiaeth gyda'r awdurdod lleol, sefydliadau rhieni ac athrawon Cymru, ac Aelodau Seneddol, 1964-1967 = Papers of the Penmaenmawr Welsh Primary School Campaign Committee, 1964-1968, relating to the establishment of a Welsh nursery school and the campaign for a Welsh primary school, comprising minutes, 1964-1968, a copy of the constitution, general correspondence, 1964-1967, and correspondence with the local authority, Welsh parents' and teachers' organisations, and Members of Parliament, 1964-1967.

Ymgyrch Ysgol Gynradd Gymraeg Penmaenmawr.

Papurau A. Cadnant Ellis,

  • GB 0210 ACALLIS
  • fonds
  • [20fed ganrif] /

Papurau Arthur Cadnant Ellis [20fed ganrif], yn cynnwys traethodau ar 'Rhai o Enwogion Aberllefenni' a 'John Jones (Jac) Glan-y-gors a'i Amserau (1766-1821)'; braslun o hanes achos y Methodistiaid Calfinaidd yn Harlech a Llanfair, sir Feirionnydd; torion erthyglau, llythyrau, etc., a gyfrannodd i'r wasg; a nodiadau amrywiol = Papers of Arthur Cadnant Ellis, [20th century], including essays on 'Rhai o Enwogion Aberllefenni' and 'John Jones (Jac) Glan-y-gors a'i Amserau (1766-1821)'; a brief history of the Calvinistic Methodist cause in Harlech and Llanfair, Merionethshire; cuttings of articles, letters, etc., which he contributed to the press; and miscellaneous notes.

Ellis, A. Cadnant (Arthur Cadnant), 1909-1984

Results 581 to 600 of 674