Showing 47 results

Archival description
Only top-level descriptions file English
Print preview View:

Hanes Eglwys y Boro, Llundain

  • NLW Facs 988
  • file
  • 2004

Casgliad o lungopïau o ysgrifau ar Eglwys Annibynnol y Boro, Llundain a rhai o'i phobl, wedi eu dwyn ynghyd gan Mrs Morfudd Jenkins, South Harrow, Mai 2004.

Llythyrau John Roberts, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol,

  • NLW ex 2842.
  • file
  • 1960-1989.

Grŵp o lythyrau a dderbyniwyd gan John Roberts fel trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 1960au a'r 1970au. Ymhlith y gohebwyr mae Norah Isaac, Idris Foster, Kenneth Rowntree a Dewi-Prys Thomas. = A group of letters received by John Roberts, Caernarfon, as organiser of the National Eisteddfod during the 1960s and 1970s. The correspondents include Norah Isaac, Idris Foster, Kenneth Rowntree and Dewi-Prys Thomas.

Isaac, Norah.

Papurau teuluol Delwyn Tibbott,

  • NLW ex 2831.
  • file
  • 1889-1942, 1977.

Eitemau amrywiol yn ymwneud â theulu'r rhoddwr, gan gynnwys llyfr ymwelwyr Eleazar Tibbott, brawd ei daid, 1910, yn ystod cyfnod ei waeledd, a phregethau ganddo; dyddiadur gwaith, 1912-1913, ei dad-cu fel Arolygwr dan Ddeddf Insiwriant Lloyd George 1911; cyfrol a gyflwynwyd i'w daid yn 1942 ar achlysur ei ymddeoliad o'i swydd fel ysgrifennydd Eglwys y Tabernacl, Aberystwyth; a nodiadau esboniadol i gyd-fynd â hwy.

Papurau W. J. Gruffydd,

  • NLW MS 17305D.
  • file
  • 1899, 1901 /

Papurau gan ac yn llaw W. J. Gruffydd sy'n cynnwys llythyr dyddiedig 12 Medi 1899 oddi wrth W. J. Gruffydd at Thomas Owen Jones, Coventry (rhoddwr y llawysgrifau) sy'n amgau cywydd wedi'i chyfeirio at T. O. Jones ac sy'n dwyn yr un dyddiad â'r llythyr; a cherddi yn dwyn y teitlau 'Baled Bywyd' a 'L'Envoi'. Dynodir fod y ddwy gerdd olaf, yn ôl pob tebyg, wedi'u cyfansoddi yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a dyddir hwynt 4 Ionawr 1901 = Holograph manuscripts of W. J. Gruffydd comprising a letter dated 12 September 1899 from W. J. Gruffydd to Thomas Owen Jones, Coventry (donor of the papers) enclosing a cywydd addressed to T. O. Jones which bears the same date as the letter; and poems entitled 'Baled Bywyd' and 'L'Envoi', both apparently written at Jesus College, Oxford and dated 4 January 1901.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Cofrestr aelodau Capel Seion, Treforris,

  • NLW MS 16640B.
  • file
  • 1888-1900 /

Llyfr cofrestr aelodau Eglwys y Bedyddwyr yn Seion, Treforris, 1888-1900, yn llaw'r Parch. R[obert] Roberts (Meinydd) (ff. 1 verso-45). = A register of members of Seion Baptist Church, Morriston, 1888-1900, in the hand of the Rev. Robert Roberts (Meinydd) (ff. 1 verso-45).
Ceir yn y gyfrol hefyd ambell i nodyn personol neu swyddogol gan Meinydd (ff. 1, 90 verso, 93 verso-95 verso, a thu mewn i'r cloriau). = The volume also includes a few personal and official memoranda by Meinydd (ff. 1, 90 verso, 93 verso-95 verso, and inside the covers).

Roberts, R. (Robert), Meinydd, 1842-1900.

'Randibŵ' a 'Gwifrau'r Gyfraith'

  • NLW ex 2342
  • file
  • 1935-1947

Copi teipysgrif o ddrama i blant gan Eic Davies, c.1947, a chopi teipysgrif o ddrama mewn un act gan Ronald Gow, wedi ei throsi i'r Gymraeg gan Selwyn Jones, 1935.

Davies, Eic, 1910-1993

Ysgrifau a cherddi amrywiol

  • NLW Facs 983
  • file
  • 1928-1966

Llungopi o ddau draethawd mewn llawysgrif ar bynciau cerddorol o bosibl ar gyfer Cerddoriaeth Cymru, y naill yn dwyn y teitl 'Yr ymdaith gerddorol' gan Ben Bowen Thomas a'r llall yn dwyn y teitl 'Ceisio dysgu' gan Kate Roberts.Yn ogystal, mae copi o gerdd mewn llawysgrif gan Nansi Richards, a gyflwynwyd i'r Faner o bosibl, ynghyd â mân bethau yn ymwneud yn bennaf â Chymry Llundain megis bwydlen cinio Cymdeithas Ceredigion Llundain 1928.

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

Soar y Mynydd : llyfrau ymwelwyr,

  • NLW ex 2514.
  • file
  • 2000-2011.

Llyfrau ymwelwyr Eglwys Bresbyteraidd Soar y Mynydd, Llanddewibrefi, Ceredigion, 2000-2011, yn cynnwys cofnod am y gwasanaethau a gynhaliwyd. = Visitors' books of Soar y Mynydd Presbyterian church, Llanddewibrefi, Ceredigion, 2000-2011, with notes on the services held.

Effemera gwleidyddol Hywel ap Robert,

  • NLW ex 2408.
  • file
  • [1970].

Anerchiad etholiadol a thaflenni Hywel ap Robert fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Ceredigion [Etholiad Cyffredinol 1970], ynghyd â phapurau'n trafod y sefyllfa dai a swyddi yng Nghymru, [1970]. = Election address and leaflets of Hywel ap Robert as the candidate for Plaid Cymru in Ceredigion [General Election 1970], together with papers relating to housing and employment in Wales, [1970].

Hywel ap Robert, b. 1923.

Llyfr y Datguddiad : : Cyfieithiad/Llawysgrif,

  • NLW MS 17419E.
  • file
  • [1931x1933] /

Proflenni gali, [1931x1933], o gyfieithiad o Lyfr y Datguddiad gan ac yn llaw yr Athro Gwilym Arthur Edwards, rhoddwr y llawysgrif = Autograph galley proofs, [1931x1933], of a translation of the Book of Revelation by Dr Gwilym Arthur Edwards, donor of the manuscript.
Ceir nodiadau ar themäu diwinyddol a beiblaidd, yn Saesneg ac mewn sawl llaw wahanol, ar verso pob dalen (ff. 27verso-29 verso, testun â'i wyneb i waered); ymddengys fel pe bai'r deunydd hyn yn amherthnasol i'r prif gynnwys oherwydd fod daleniad y testun verso allan o ddilyniant ac ar chwâl = There are notes on theological and biblical themes, in English and in several different hands, on the verso of each folio (ff. 27verso-29 verso inverted text); this material is apparently unrelated to the main contents as the foliation of the verso text is out of sequence and haphazard.

Edwards, G. A. (Gwilym Arthur), 1881-1963

Yr Argyfwng : Rhagair a Diweddglo/Llawysgrif,

  • NLW MS 16954E.
  • file
  • [1953]-1954 /

Llawysgrif ddrafft, 1954, o Ragair a Diweddglo 'Yr Argyfwng' gan W. Ambrose Bebb yn ei law ei hun; un llythyr, 1954, a phedwar cerdyn post, 1954, oddi wrth Bebb at Alan Talfan Davies, rhoddwr y llawysgrif, yn ymwneud â chwblhau a chyhoeddi 'Yr Argyfwng'; torion o'r Herald Cymraeg, 1953, sef pigion o Golofn y Llenor a ysgrifennwyd gan Bebb, gan gynnwys rhai o'r wyth o ysgrifau a gyhoeddwyd yn yr Herald dan y teitl 'Yr Argyfwng' yn ystod gwanwyn 1953; sylwadau, 1954, ar 'Yr Argyfwng', fel y'i cyhoeddwyd yn wreiddiol ar ffurf erthyglau yn yr Herald Cymraeg, gan y Parchedig J. P. Davies, Porthmadog, yr Athro Oliver Stephens, John Charles Jones, Esgob Bangor, y Parchedig E. Tegla Davies, a'r Parchedig Lewis Valentine. Cyhoeddwyd 'Yr Argyfwng' ar ffurf llyfr flwyddyn wedi marw Bebb, ym 1956 = Autograph draft manuscript, 1954, of the Foreword and Conclusion to 'Yr Argyfwng' by W. Ambrose Bebb; one letter, 1954, and four postcards, 1954, from Bebb to Alan Talfan Davies, the donor of the manuscript, relating to the completion and publication of 'Yr Argyfwng'; press cuttings from the Herald Cymraeg, 1953, which consist of some of Bebb's weekly columns and including some of the series of eight pieces of writing which were published in the Herald under the title 'Yr Argyfwng' during the spring of 1953; comments and observations, 1954, on 'Yr Argyfwng', in its original form of printed articles in the Herald Cymraeg, by the Reverend J. P. Davies, Porthmadog, Professor Oliver Stephens, John Charles Jones, Bishop of Bangor, the Reverend E. Tegla Davies, and the Reverend Lewis Valentine. 'Yr Argyfwng' was published in book form posthumously in 1956.

Bebb, W. Ambrose (William Ambrose), 1894-1955

Canmlwyddiant y Wladfa,

  • NLW ex 2480.
  • file
  • 1961-1981.

Deunydd a grynhowyd gan John Roberts, trefnydd ac ysgrifennydd cyffredinol yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ymwneud yn bennaf â dathlu canmlwyddiant y Wladfa yn 1965, gan gynnwys llythyrau at y rhoddwr am y 'bererindod i Batagonia' a drefnwyd gan Undeb Cymry Ariannin ac ag ymweliad chwech ymwelydd o Batagonia i Gymru y flwyddyn honno. Ceir llyfr lloffion yn cynnwys ffotograffau yn ymwneud â’r daith i'r Wladfa a llungopi o erthygl Lewis H. Thomas, 'From the pampas to the prairies. The Welsh migration of 1902', a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Saskatchewan History.

Agoriad swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

  • NLW ex 2426.
  • file
  • 1999.

Deunydd yn ymwneud ag agoriad swyddogol y Cynulliad, 26 Mai 1999, gan gynnwys rhaglen swyddogol y seremoni agoriadol, rhaglen y gwasanaeth dathlu yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, amserlenni o weithgareddau’r diwrnod, gwahoddiadau a bwydlenni. = Material relating to the official opening of the National Assembly, 26 May 1999, including the official programme of the opening ceremony, programme of the service of celebration held in Llandaff Cathedral, timetables of events, invitations and menus.

Is-Bwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1988,

  • NLW ex 2141
  • file
  • 1986-1989.

Papurau, 1986-1989, a grynhowyd gan Arwyn Thomas fel Is-Gadeirydd Is-Bwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988, gan gynnwys gohebiaeth; cofnodion cyfarfodydd yr Is-Bwyllgor; dadansoddiad o gystadleuaeth 'y nofel', 1951-1984, a'r cefndir i benderfyniad y Pwyllgor Llên ynglŷn â'r Nofel a Gwobr Goffa Daniel Owen, a llythyr oddi wrth Islwyn Ffowc Elis yn ymateb i hwn; rhaglen y Babell Lên; ynghyd â thorion o'r wasg.

Papurau Rhiannon Francis Roberts

  • Ychwanegwyd at Papurau Rhiannon Francis Roberts
  • file
  • 1944-1988

Papurau ychwanegol Rhiannon Francis Roberts (1923-1989) yn cynnwys llythyrau, 1944-1988, oddi wrth R. T. Jenkins, Thomas Parry, Griffith John Williams, Ifor Williams ac eraill.

Additional papers of Rhiannon Francis Roberts (1923-1989) including letters, 1944-1988, from R. T. Jenkins, Thomas Parry, Griffith John Williams, Ifor Williams and others.

Roberts, Rhiannon Francis, 1923-1989

Drafft o lyfr emynau'r Bedyddwyr Cymraeg,

  • NLW MS 16881D.
  • file
  • 19 gan.

Drafft pedwaredd ganrif ar bymtheg o lyfr emynau'r Bedyddwyr Cymraeg, sy'n cynnwys emynau llawysgrif a theipysgrif gan Joseph Harris ('Gomer'), William Rees ('Gwilym Hiraethog'), Morgan Rhys, William Williams, Pantycelyn, Christmas Evans, Titus Lewis, James Spinther James, Ann Griffiths, Benjamin Francis ac eraill, yr oll o'r emynau wedi'u pastio'i mewn i'r gyfrol. Ceir hefyd gyfieithiadau i'r Gymraeg, rhai ohonynt gan Gethin Davies, o emynau gan Isaac Watts, Charles Wesley, Bernard o Clairvaux, James Montgomery, Sarah Flower Adams ac eraill. Yn rhydd yn y gyfrol ceir copi o bryddest yn dwyn y teitl 'Gerddi y Beibl' gan ac yn llaw Robert Jones ('Meigant'), a ddyfarnwyd yn ail orau yn Eisteddfod Aberhosan, Nadolig 1880, ynghyd â beirniadaeth gan ac yn llaw Richard Davies ('Cyfeiliog') = A nineteenth century draft of a Welsh Baptist hymn book, containing manuscript and typescript hymns by Joseph Harris ('Gomer'), William Rees ('Gwilym Hiraethog'), Morgan Rhys, William Williams, Pantycelyn, Christmas Evans, Titus Lewis, James Spinther James, Ann Griffiths, Benjamin Francis and others, all of which are pasted into the volume. There are also translations into Welsh, some by Gethin Davies, of hymns by Isaac Watts, Charles Wesley, Bernard of Clairvaux, James Montgomery, Sarah Flower Adams and others. Loose in the volume is a copy of an autograph pryddest entitled 'Gerddi y Beibl' by Robert Jones ('Meigant'), judged second best at Aberhosan Eisteddfod, Christmas 1880, together with an autograph adjudication by Richard Davies ('Cyfeiliog').

Baledi ac emyn-donau,

  • NLW MS 16796D.
  • file
  • [1900x1951]

Baledi printiedig, sef torion o'r County Echo (Abergwaun) wedi'u pastio ar bapur, yn dwyn y ffugenwau 'Y Giach', 'Christy', 'Gwynodl' a 'Glynfab'; ac emyn-donau mewn llawysgrif gan [?ac yn llaw] Christopher B. Williams ('Alaw Ingli') = Printed ballads in the form of cuttings from the Fishguard County Echo pasted onto paper and bearing the pseudonyms 'Y Giach', 'Christy', 'Gwynodl' and 'Glynfab'; and manuscript hymn-tunes by [?and in the hand of] Christopher B. Williams ('Alaw Ingli').

[?Christopher B. Williams ('Alaw Ingli')].

Tystysgrif ordeiniad ac atgofion Capel y Dysteb a Chapel Coffa,

  • NLW MS 16712D.
  • file
  • [1903x1956] /

Tystysgrif ordeiniad, yn Saesneg, y Parchedig John Luther Thomas, dyddiedig 19 Awst 1903, ac atgofion teipysgrif gan John Luther Thomas, yng Nghymraeg, o Gapel Annibynwyr Seion (Capel y Dysteb), Conwy a'r Capel Coffa (Annibynwyr), Cyffordd Llandudno, 1903-1921, ynghyd â nodiadau bywgraffyddol yn ymwneud â'r Parchedigion R. Conwy Pritchard a Henry Richard Lloyd, Conwy. = The ordination certificate, in English, of the Reverend John Luther Thomas, dated 19 August 1903, and typescript memoirs by John Luther Thomas, in Welsh, of Seion Independent Chapel (Capel y Dysteb), Conway and of Capel Coffa (Independent) Chapel, Llandudno Junction, 1903-1921, together with biographical notes relating to the Reverends R. Conwy Pritchard and Henry Richard Lloyd, Conway.
Ceir cyfeiriadau at yr Athro R. Tudur Jones, Coleg Bala-Bangor (ff. 2, 11); y Parchedig John Roberts ('J.R.') (ff. 2, 5); y Parchedig W. E. Penllyn Jones, Hen Golwyn (ff. 7, 10); Richard Owen ('Myfyrian') (f. 10), ac eraill. = There are references to Dr R. Tudur Jones, Bala-Bangor College (ff. 2, 11); the Reverend John Roberts ('J.R.') (ff. 2, 5); the Reverend W. E. Penllyn Jones, Old Colwyn (ff. 7, 10); Richard Owen ('Myfyrian'), and others.

Thomas, J. Luther (John Luther), 1881-1970.

Results 1 to 20 of 47