Gohebiaeth a nodiadau, 1978-1979, yn trafod archebu cyfnodolion o’r Comisiwn Llawysgrifau Gwyddeleg ar gyfer Llyfrgell y Ganolfan, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Brian Howells ac Eithne Morrissey. Yn ogystal, ceir rhestr o gyhoeddiadau’r Comisiwn (1978).
Rhestr gwaith y Llyfrgell, [1978]; rhestrau o gyfeirlyfrau, cyfnodolion, a chyhoeddiadau Gwasg Prifysgol Cymru yn eisiau yn Llyfrgell y Ganolfan, [1978]; copïau o llyfryddiaethau (1976; 1978); rhestr o gyhoeddiadau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion [1921x1930]; rhestr o roddion Y Foneddiges Amy Parry Williams (1978); Adroddiad y Llyfrgellydd (1978); agendâu a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Gwaith y Ganolfan (1978-1979); a dau lythyr (1978), oddi wrth A. Kumbria ac Ieuan Gwynedd Jones.
Rhestr o lyfrau a chylchgronau Llydaweg o ddiddordeb i Lyfrgell y Ganolfan, 1979, a dau lythyr, oddi wrth Y Parch. Dafydd Wyn Wiliam (1978), ac A. J. Griffiths (1979).
Llythyrau, 1968-1979, yn ymwneud â pharatoi'r gyfrol Erthyglau ac ysgrifau llenyddol Kate Roberts (Abertawe, 1978) a olygwyd gan Dr David Jenkins, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Kate Roberts ac Alan Llwyd, Pennaeth yr Adran Gymraeg, Gwasg Christopher Davies, Abertawe.
Sgriptiau gan gynnwys ‘New lamps for old’, 1948; ‘Home sweet home’ (translation of ‘Cartref’), [1961]-[1963]; ‘The lilac tree’, 1968; ‘Escape route’; 'A fight for boyo', 'The milestone' ac 'At the milestone' ; 'The green parrot'; 'Black pastures'; 'Muted strings' a ‘Not without honour’ (drafft cyntaf, 1979).
Sgript ‘Y lle i mi’ (drama fer yn ymwneud ag agwedd arbennig ar yr her i fywyd Cymru heddiw), cystadleuaeth y fedal ryddiaith, Eisteddfodau Teulu Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid, 1965. [Cyhoeddwyd y ddrama yn 1965] a 'Gair yn ei le', pantomeim Nadolig, 1979.
Anerchiad etholiad, cerdyn galw, gohebiaeth a phapurau ynglyn ag ymgyrch Ieuan Wyn Jones fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Gogledd Cymru yn Etholiad Senedd Ewrop yn 1979.
Cofnodion cyfarfod ac agendâu Pwyllgor Gwaith y Ganolfan, (1978-1979); Cyfansoddiad drafft y Ganolfan (1978); Adroddiad y Llyfrgellydd (1978-1979); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1978-1979) oddi wrth J. E. Caerwyn Williams; Gareth Butler; a W. W. Dieneman.
Gohebiaeth rhwng R. Tudur Jones a Gwenllian Edwards (Gwenllian Jones wedi iddynt briodi ar 19 Ebrill 1948), 1942-1980, wedi eu trefnu yn ôl blynyddoedd, ac yn cynnwys llythyrau oddi wrth y naill at y llall.
Cofnodion cyfarfod ac agendâu Corff Llywodraethol y Ganolfan; adroddiad ariannol 1979-1980; Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1979-1980; cofnodion cyfarfod i drafod Apêl Syr Thomas Parry-Williams; a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol, oddi wrth Martin Davies; Syr Thomas Parry; David Jenkins; ac R.R. Davies.
Llythyrau, 1978-1980, yn rhoi diolch am roddion i lyfrgell y Ganolfan, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Brian Howells; J. Haulfryn Williams; S. E. Lloyd; ac Iorwerth Howells.
Llyfryn heb glawr [hunan cyhoeddiad?], sy'n cynnwys geiriau a sgôr i'r caneuon 'Cân diolch', 'Croeso'r gwanwyn', Cân i'r gwanwyn', 'Gwanwyn', 'Y deffro', 'Cân y tylwyth teg', 'Y coedlan', 'Y glöwr'.
Teipysgrif gyda chywiriadau mewn llawysgrif (rhan olaf pennod 9 a penodau 10-15) o'r nofel Seren Gaeth gan Marion Eames (Llandysul, 1985). = Typescript with manuscript corrections (last part of chapter 9 and chapters 10-15) of Marion Eames's novel Seren Gaeth (Llandysul, 1985).