Dangos 42 canlyniad

Disgrifiad archifol
CMA: Cofysgrifau Eglwys Philadelphia, Treforus
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys tystysgrifau Sal Jenkins, 1908, am bresenoldeb da, ac am lwyddo mewn arholiad yr Ysgol Sul yn 1912; rhaglenni cyfarfodydd sefydlu'r Parchedigion T. P. Nicholas, 1934, R. Hugh Evans, 1944, T. Hywel Davies, 1950 ac Ieuan Jones, 1957; llungopïau o dorion yn adrodd hanes ailagor y capel yn 1935; ffeithiau am y gweinidogion a fu'n bugeilio'r eglwys a'r traddodiad cerddorol yno gyda nodyn bywgraffyddol am yr organydd a'r cyfansoddwr D. E. Williams; nodiadau am y ffenestri lliw o raglen 'Masterpieces in stained glass' a ddarlledwyd gan HTV, 1996; llungopi o hanes yr achos a ddarllenwyd i'r Henaduriaeth yn 1993; ynghyd â llythyrau, 2002, yn ymwneud â symud y ffenestri lliw a'r organ o'r eglwys.

Llythyrau'r pensaer

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau, 1995-1999, oddi wrth Alwyn Jones, pensaer ac ymgynghorwr ar adeiladau hanesyddol, yn ymwneud â chostau, ac amcangyfrifon am y gwaith atgywerio; llythyr, 1999, oddi wrth Heddlu De Cymru ynglŷn â fandaliaeth ar adeiladau'r eglwys; a llythyr, 2003, oddi wrth ysgrifennydd Henaduriaeth Gorllewin Morgannwg, ynghyd ag adroddiad blynyddol am 2002-2003.

Canlyniadau 1 i 20 o 42