Showing 5 results

Archival description
Only top-level descriptions Fonds Welsh literature -- 20th century Welsh
Print preview View:

Papurau Angharad Tomos

  • GB 0210 ATOMOS
  • Fonds
  • 1979-1998

Mae'r fonds yn cynnwys nodiadau a drafftiau llawysgrif a theipysgrif o rai o gyfrolau a sgriptiau Angharad Tomos, 1986-1997, gan gynnwys dau ddarn sylweddol o waith anghyflawn ac anghyhoeddedig. Ceir un ffolder o'i herthyglau ar gyfer Y Faner a Tafod y Ddraig, 1979-1983, ac un ffolder yn cynnwys ei darlithoedd a'i hareithiau cyhoeddus, 1996-1998. Mae'r llawysgrifau, ar brydiau, yn cynnwys nodiadau ar y broses o greu a sylwadau rhai aelodau o'i theulu ar ei gwaith, ynghyd ag ychydig o ohebiaeth berthynol. Nid yw'r archif yn gyflawn. Gwerthwyd llawysgrifau llawer o'i llyfrau cynharaf yn arwerthiannau blynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sy'n golygu eu bod bellach mewn dwylo preifat. Ffeiliau unigol o gyfnodau penodol sydd yma o'i herthyglau i'r wasg, a'i hareithiau a'i darlithoedd, ac un llyfr nodiadau ar gyfer cyfnod yn awdur preswyl mewn ysgolion cynradd ym Mro Dysynni. Nid yw'r archif yn cynnwys unrhyw ohebiaeth bersonol. Gall yr archif hon fod o ddiddordeb neilltuol i ysgolheigion sy'n astudio gwaith Angharad Tomos a'r mudiad iaith yng Nghymru yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif.

Tri chopi draft o'r nofel 'Rhagom' gan Angharad Tomos, 2004-05. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.

Papurau ychwanegol y rhoddwr, yn cynnwys gwaith ymchwil ar gyfer ei nofelau 'Wrth fy Nagrau i' (Hydref 2007) a 'Rhagom'; papurau yn ymwneud â rhaglen radio i blant, a thair drama, hefyd i blant, gan gynnwys Pasiant y Plant, 2005; a phapurau a deunyddiau yn ymwneud â Rwdlan, gan gynnwys copïau o gyfieithiadau o'r gwaith i Aeleg yr Alban a Gwyddeleg. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.

Pecyn o bapurau ychwanegol yn ymwneud gan mwyaf â gweithiau Angharad Tomos, 'Rhagom', 2002, ac 'Wrth fy Nagrau', 2006. Nid yw rhain wedi eu catalogio eto.

Papurau ychwanegol Angharad Tomos, gan gynnwys nodiadau ar gyfer Pan Rodiwn Rhyw Fore Ddydd - ar gyfer cystadleuaeth Daniel Owen, 2008 (nofel nas cyhoeddwyd), ac erthyglau'r rhoddwr o'r Herald, 1993-1999 a 2002-2007. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Papurau ychwanegol o waith, a phapurau wedi eu casglu ynghyd gan Angharad Tomos, gan gynnwys dyddiaduron; gohebiaeth; torion o'r wasg; gweithiau cynnar, 1972-1990 (a gyhoeddwyd mewn cylchgronau) ;storiau i'r BBC; papurau yn ymwneud â Rala Rwdins; a gweithiau gwreiddiol. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto.

Papurau ychwanegol a roddwyd Mai 2022: gweler y disgrifiad o dan y Gyfres a ychwanegwyd.

Tomos, Angharad, 1958-

Papurau Islwyn Ffowc Elis

  • GB 0210 ISFFEL
  • Fonds
  • 1923-2010 (1940-1970 yn bennaf) (crynhowyd 1940-1994)

Mae'r fonds yn cynnwys drafft cyntaf Cysgod Y Cryman, a rhai o nofelau eraill Islwyn Ffowc Elis, 1953-1989, drafftiau llawysgrif o ysgrifau a gynhwysir yn Cyn Oeri'r Gwaed, a llyfrau nodiadau yn cynnwys barddoniaeth, caneuon, storïau, dramâu, nodiadau diwinyddol, sgriptiau radio, erthyglau a gwaith celf, [c.1940]-[c.1970]. -- Ceir hefyd nifer o lythyrau oddi wrth Robin Williams, Kate Roberts, E. Tegla Davies, Dyddgu Owen, D. Tecwyn Lloyd ac eraill, 1949-1994, a phapurau am Blaid Cymru yn cynnwys gohebiaeth â Gwynfor Evans, 1966-1969. Papurau ychwanegol, 1937-2010, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Kate Roberts ac R. S. Thomas, sgriptiau a phregethau, ynghyd a chyfres o ddeg englyn a luniwyd iddo gan Alan Llwyd ar achlysur dathlu ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain mlwydd oed (Ionawr 2017).

Elis, Islwyn Ffowc

Papurau Mathonwy Hughes

  • GB 0210 MATHES
  • Fonds
  • [?1847]-2019 (crynhowyd [1920au]-1999)

Mae'r fonds yn cynnwys ei lawysgrifau llenyddol; gohebiaeth bersonol, [?1903]-1992; papurau'n ymwneud â'i deulu, yn enwedig ei ewythr R. Silyn Roberts, [?1847]-[?1986]; papurau'n gysylltiedig â'i waith fel golygydd cynorthwyol Y Faner, 1949-1992; ynghyd â nodiadau a darlithoedd a baratowyd ganddo ar gyfer dosbarthiadau Mudiad Addysg y Gweithwyr, [?1936]-1991.
Mae'r papurau ychwanegol (Rhodd Medi 2021), 1894-2019 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, barddoniaeth, ysgrifau, papurau'n ymwneud â'r Faner, ffotograffau a phapurau pobl eraill.

Hughes, Mathonwy, 1901-1999

Papurau W. J. Gruffydd

  • GB 0210 WJGRUFFYD
  • Fonds
  • [1903]-[1952]

Papurau W. J. Gruffydd,[1903]-[1952], yn cynnwys drafftiau o erthyglau'n ymwneud â'r Mabinogi; nodiadau darlith ar gyfer ei gyrsiau Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd; nodiadau darlithoedd ac erthyglau eraill; sgyrsiau a darlledwyd gan y BBC; personalia; a grŵp sylweddol o ohebiaeth oddi wrth ffigurau llenyddol blaenllaw = Papers of W. J. Gruffydd, [1903]-[1952], including drafts of articles relating to the Mabinogi; lecture notes for his Welsh courses at University College of Wales, Cardiff; other lecture notes and articles; BBC broadcast talks; personalia; and a substantial group of correspondence from notable literary figures.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954

Papurau'r Parch. T. J. Davies

  • GB 0210 TJDAVIES
  • Fonds
  • [c. 1957]-[1983]

Papurau T. J. Davies, [c. 1957]-[1983], yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o rai o'i weithiau cyhoeddedig ynghyd â deunydd ymchwil cysylltiedig, [1974]-[1983]; cerddi, erthyglau a gweithiau eraill; torion papur newydd o'i golofn 'O Ben Dinas', 1965-1978; a llythyrau,1958-1961. = Papers of T. J. Davies, [c. 1957]-[1983], including manuscript and typescript copies of some of his published works along with associated research material, [1974]-[1983]; poems, articles and other writings; cuttings of his newspaper column 'O Ben Dinas', 1965-1978; and letters, 1958-1961.

Davies, T. J. (Thomas James)