Showing 1 results

Archival description
Evans, D. Tecwyn (David Tecwyn), 1876-1957 World War, 1939-1945 -- Conscientious objectors -- Wales
Print preview View:

W. J. Gruffydd

Gohebiaeth, 1928-1952, rhwng Iorwerth Peate a W. J. Gruffydd. Yn eu plith ceir llythyrau gan Jim Griffiths, William George, a H. J. Fleure; llawysgrif o ddarllediad W. J. Gruffydd, 'Yeoman's English' (1935); torion yn ymwneud ag erthygl W. J. Gruffydd 'The case against a National Council of Education for Wales', 1935; a llythyrau yn trafod achos Iorwerth Peate yn wrthwynebydd cydwybodol. -- Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau, 1942-1943 a 1945, yn ymwneud ag ymgyrch etholiadol W. J. Gruffydd ar gyfer sedd Prifysgol Cymru yn y senedd, gan gynnwys llythyrau gan E. G. Bowen; David Davies (2); D. J. Llewelfryn Davies (4); E. Tegla Davies; Clement Davies; Leonard Twiston-Davies; D. Owen Evans; D. Tecwyn Evans (2); David Lloyd George (telegram); William Thomas Havard; Ernest Hughes; R. T. Jenkins (2); W. Goscombe John; E. K. Jones (4); Tom Jones (2); Thomas Artemus Jones; John Edward Lloyd; J. Dyfnallt Owen; Thomas Parry; Percy E. Watkins; J. Lloyd Williams; a Stephen J. Williams. Ceir hefyd ddatganiadau wedi'u harwyddo yn cefnogi ymgeisyddiaeth W. J. Gruffydd; anerchiadau etholiadol; a deunydd amrywiol, yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd Pwyllgor Lleol Caerdydd i gefnogi W. J. Gruffydd, a thaflenni printiedig.

Gruffydd, W. J. (William John), 1881-1954