Showing 2 results

Archival description
Print preview View:

Llythyr Gerallt Lloyd Owen

Llythyr, 18 Gorffennaf 1966, at William H. Owen oddi wrth y bardd Gerallt Lloyd Owen, yn trafod y syniad o ddechrau comic yn y Gymraeg i blant hŷn yn dwyn y teitl Yr Hebog. Bu'r ddau yn gyfeillion yn y Coleg Normal, Bangor, 1963-1966 (f. 71). = A letter, 18 July 1966, to William H. Owen from the poet Gerallt Lloyd Owen, discussing the idea of starting a comic in Welsh for older children entitled Yr Hebog. The two men were friends as students at the Normal College, Bangor, 1963-1966 (f. 71).
Ceir hefyd ffotograff o'r criw ffrindiau coleg a dynnwyd rhywbryd ar ôl i Gerallt ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1965 (yn sefyll, o'r chwith i'r dde: William Henry Owen, Dyffryn Ardudwy, William Lloyd Davies, Melin-y-Wig, Trefor Bertram Owen, Llanberis, a Walter Glyn Davies, Amlwch; yn y canol, yn cael ei gario: Gerallt Lloyd Owen; yn eistedd: Edward Morris Jones, Llanuwchllyn) (f. 72). = Also included is a photograph of their circle of college friends, taken following Gerallt's victory in the chair competition at the 1965 Urdd National Eisteddfod (standing, left to right: William Henry Owen, Dyffryn Ardudwy, William Lloyd Davies, Melin-y-Wig, Trefor Bertram Owen, Llanberis, and Walter Glyn Davies, Amlwch; centre, carried aloft: Gerallt Lloyd Owen; sitting: Edward Morris Jones, Llanuwchllyn) (f. 72).

Owen, Gerallt Lloyd, 1944-2014