Showing 9 results

Archival description
Parri, Dafydd.
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol 1980,

Ymhlith y gohebwyr mae Dyfed Thomas, Dafydd Parri yn trafod Y Llewod, Derrick K. Hearne, Eleri Llewelyn Morris yn trafod Pais a bod Robat Gruffudd yn tynnu lluniau ar gyfer y cylchgrawn, a Catrin Stevens. Trafodir hefyd Y Camau Cyntaf: Dwylo ar y Piano a threfniadau Te Parti'r Taeogion, sef noson LOL yn Abertawe yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1980. Ceir hefyd restr, 1982, a luniwyd gan staff Archifdy Dyfed (Ceredigion), o gofnodion yr heddlu yn Nhalybont a roddwyd i'r archifdy gan Robat Gruffudd.

Gohebiaeth gyffredinol 1987,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis yn trafod ei lyfr caneuon, Judith Maro, Bobby Freeman a Dafydd Parri yn trafod eu llyfrau a materion eraill, Royston James yn trafod llyfr ar hiwmor rygbi, a Huw Vaughan Jones gan gynnwys copïau o'i waith: stribed gomic 'Mot Mellten'. Ceir hefyd lythyrau yn trafod y llyfr Trwy Ogof Arthur.

Gohebiaeth gyffredinol 1990-1992,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Dafydd Parri yn trafod Cailo 5 a llythyrau yn trafod Gwobr Goffa Daniel Owen, 1990, Leopold Kohr, Angharad Tomos a Bobby Freeman ac ymateb Robat Gruffudd i Strategaeth Genedlaethol y Celfyddydau, 1991-1992. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys ail-gyhoeddi cyfrol Gwynfor Evans, Land of my Fathers, cyflwyno gwaith ar ddisg yn electronig, cytundeb gyda Cwmni Ffilmiau Elidir i wneud rhaglen deledu o Rala Rwdins a'i marchnata, a phenblwydd y Lolfa yn 25 mlwydd oed, 1992. Ceir copïau o lythyrau oddi wrth Robat Gruffudd yn ymwneud â chael cystadleuaeth i ddewis pwy fydd yn cyhoeddi cyfrol y Fedal Ryddiaith.

Llawysgrifau Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru,

  • GB 0210 CANCYMRU
  • fonds
  • [c. 1953]-[c. 1975] (crynhowyd 1979-1990) /

Copiau llawysgrif a theipysgrif o lyfrau plant gan Dafydd Parri, Mary Vaughan Jones, J. Selwyn Lloyd, R. Lloyd Jones, Irma Chilton, Gweneth Lilly a nifer o awduron eraill a gasglwyd gan Ganolfan Llenyddiaeth Plant Cymru, [c. 1953]-[c. 1975] = Manuscripts and typescripts of children's books by Dafydd Parri, Mary Vaughan Jones, J. Selwyn Lloyd, R. Lloyd Jones, Irma Chilton, Gweneth Lilly and many others collected by Canolfan Llenyddiaeth Plant Cymru, [c. 1953]-[c.1975].

Llawysgrifau ychwanegol gan gynnwys llyfr lloffion yn eiddo i Jennie Thomas, un o gyd-awduron 'Llyfr Mawr y Plant', yn cynnwys toriadau o'r wasg yn ymwneud a chyhoeddi'r llyfr; nodiadau a theipysgrif yn llaw Mary Vaughan Jones ar 'Llyfr Bach Culhwch'; llawysgrif yn llaw Mary Vaughan Jones o 'Llyfr Mawr Culhwch' a chyfieithiad yn ei llaw o 'Dan Hwyaden', a llythyron oddi wrthi hi at wahanol bobl. Nid yw'r papurau hyn wedi eu catalogio eto (Awst 2011).

Welsh National Centre for Children's Literature.

Gohebiaeth gyffredinol 1975-1979,

Ymhlith y gohebwyr mae Meg Ellis yn trafod cynnig Robat Gruffudd i wrthod siarad Saesneg a straeon ganddi, Eric Wyn Roberts, Judith Maro, Dafydd Parri yn trafod Y Llewod a Marc Daniel, Bernard Knight yn trafod ei lyfr Lion Rampant, Meic Stephens ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru yn trafod y cynllun newydd er cynorthwyo cyhoeddwyr i gyflogi staff gweinyddol neu olygyddol, John Jenkins o garchar Albany ynghylch cardiau celtaidd, Derrick K. Hearne ar y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru, datganoli, Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith; Harri Webb ar gyfrifoldeb y llywodraeth i ariannu cyhoeddiadau Cymraeg; ac Emily Huws yn trafod ei nofelau diweddaraf. Hefyd ceir cerdd gan Alan Llwyd 'Awdl archebol i'r Lolfa'; llythyrau yn trafod Cymdeithas Emrys ap Iwan, y galw am bosteri a chardiau Cymraeg, disgo'r Llewod yn 1976, a chasglu deunydd i LOL ar ei newydd wedd. Yn y ffeil ceir hefyd bapurau yn ymwneud ag 'Ymgyrch Cymreigio Ysgol Penweddig yn cynnwys deiseb gan rieni a chopi o 'Y Gymraeg yng Ngwyddoniaeth a Thechnoleg ein Colegau – y Ffordd Ymlaen', Adroddiad Gweithgor y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.

Gohebiaeth gyffredinol 1983,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Eleri Llewelyn Morris yn trafod Pais, Teledu Twf a llyfr ffasiwn, John Morris ynghylch llun a brynwyd gan Robat Gruffudd a'r posibilrwydd o hysbysebu gwaith John Morris, Judith Maro, Catrin Stevens ynghylch Sgorio 1000, Dafydd Parri ynghylch Marc Daniel gan gynnwys sylwadau Dylan Williams o'r Cyngor Llyfrau. Ceir hefyd gerdyn post gan Harri Webb yn gwerthfawrogi LOL a chopïau o lythyrau at Angharad Tomos ynghylch cyfres Rala Rwdins.

Gohebiaeth gyffredinol 1985,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Angharad Tomos yn trafod Diwrnod Golchi, Strempan a llyfr cartŵn ar hanes Cymru, Dafydd Parri, Richard Morris Jones ynglŷn â stori yn LOL, y Cyngor Llyfrau. Ceir hefyd lythyrau yn trafod deunydd hysbysebu 'Police Conspiracy?' a'r problemau yn sgîl ei gyhoeddi, llythyrau oddi wrth Robat Gruffudd yn ymwneud â 'Chyfres Byw Heddiw', a chopïau o lythyrau oddi wrth reolwr marchnata'r Lolfa a Robat Gruffudd yn trafod posibiliadau ar gyfer cyhoeddi.

Gohebiaeth gyffredinol 1984,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Eleri Llewelyn Morris, Dafydd Ladd a llungopi o'i sylwadau ar y llyfr Police Conspiracy?, Judith Maro, Dafydd Parri yn cynnwys crynodeb o Doethion Aberdwli, ac Emrys Roberts. Ceir hefyd lythyrau yn trafod y posibilrwydd bod Dafydd Ladd am ddylunio cerdyn Nadolig o'r carchar a beirniadaeth Nesta Wyn Jones ar 'Cymland', llun-gopïau o'r lluniau, ac un llun gwreiddiol.

Gohebiaeth gyffredinol 1981,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Dyfed Thomas, Dafydd Parri, a Nia Rhosier, ac Ifan Wyn Williams sy'n trafod erthyglau yn LOL. Ceir trafodaethau ynghylch cyhoeddiadau posibl a digwyddiadau LOL.