Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1891]-1946 / (Creation)
Lefel y disgrifiad
fonds
Maint a chyfrwng
0.029 metrau ciwbig (1 bocs)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd Dr David John de Lloyd (1883-1948), y cyfansoddwr a'r gŵr academaidd, yn Sgiwen, Morgannwg; ymsefydlodd y teulu yn Aberystwyth, Ceredigion, yn ddiweddarach. Oherwydd ei allu cerddorol aethpwyd ag ef ar deithiau darlithio gan J. S. Curwen, 1894-1896. Mynychodd ysgol y sir yn Aberystwyth, 1896-1899, graddiodd mewn Hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1903, ac ef oedd y cyntaf i dderbyn gradd B.Mus. gan y coleg yn 1905. Yn 1906-1907, mynychodd Academi Gerdd Leipzig yn yr Almaen, a derbyniodd ei ddoethuriaeth yn Nulyn yn 1915. Ar ôl bod yn athro yn Woolwich, Llundain, 1908-1911, a Llanelli, 1911-1919, dychwelodd i Aberystwyth i ddarlithio yn yr adran gerdd, a chael swydd Athro Cerdd yn 1926. Roedd ganddo ddiddordeb yn alawon gwerin Cymru, ac arbrofodd gyda rhoi'r gynghanedd ar gân; bu hefyd yn beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymhlith ei weithiau niferus fel cyfansoddwr a threfnydd ceir y cantata Gwlad Fy Nhadau (Llanelli, 1914), yr operâu Gwenllian (Aberystwyth,1925) a Tir na n'Og (Llundain,1932), a Forty Welsh Traditional Tunes (Llundain, [1929]). Bu farw 20 Awst 1948.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Adran Llyfrau Print,; Llyfrgell Genedlaethol Cymru,; Prynwyd a throglwyddwyd,; 1976 a 1978
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Sgorau yn llaw yr awdur o alawon gwerin Cymru wedi eu trefnu gan David de Lloyd [1903x1948]; rhan-ganeuon ganddo yn dwyn y teitl 'Daybreak' a 'Shed No Tear!, 1942-1946; copïau o alawon, rhai ohonynt yn ymddangos yn Forty Welsh Traditional Tunes (1929); caneuon a chyfansoddiadau eraill gan ddisgyblion ysgol, myfyrwyr coleg, a chan cystadleuwyr mewn eisteddfodau lle bu ef yn beirniadu, 1924-1927; nodiadau ar elfennau cerddoriaeth, [1891]-1904; ac amrywiol lyfrau nodiadau a dyddiaduron, 1928-1942 = Holograph scores of Welsh folk tunes arranged by David de Lloyd, [1903x1948]; part-songs by him entitled 'Daybreak' and 'Shed No Tear!', 1942-1946; copies of tunes, some of which appeared in Forty Welsh Traditional Tunes(1929); songs and other compositions by school pupils, college students, and by competitors in eisteddfodau adjudicated by him, 1924-1927; notes on musical theory, [1891]-1904; and miscellaneous notebooks and diaries, 1928-1942.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a brynwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru..
Croniadau
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System o drefniant
Trefnwyd fel a ganlyn: llawysgrifau cerddorol David de Lloyd; cerddoriaeth gan gyfansoddwyr eraill; a deunydd personol amrywiol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Amodau rheoli atgynhyrchu
Amodau hawlfraint arferol.
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Project identifier
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Tachwedd 2003.
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg
Sgript(iau)
Ffynonellau
Nodyn yr archifydd
Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r restr: LlGC, Rhestr o Lawysgrifau David de Lloyd (Schedule of David de Lloyd Manuscripts), Dictionary of Welsh Biography 1941-1970 (Llundain, 2001).