File 2/3/1/13 - Llythyrau at Dilys Williams oddi wrth Elias, Bont Faen, Llangernyw

Identity area

Reference code

2/3/1/13

Title

Llythyrau at Dilys Williams oddi wrth Elias, Bont Faen, Llangernyw

Date(s)

  • 1985 (Creation)

Level of description

File

Extent and medium

1 amlen

Context area

Name of creator

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Content and structure area

Scope and content

Llythyr, 20 Mawrth 1985, at Dilys Williams oddi wrth 'Elias', Bont Faen, Llangernyw (bellach yng Nghonwy), yn cynnwys copi yn llaw 'Elias' o 'Angharad', sef cywydd coffa Waldo Williams, brawd Dilys, i'w fam, Angharad Williams (née Jones), ynghyd â thrafodaeth yn ei gylch. Cyfeirir at Jean Hunt (gynt Ware, ganed Jones) ac at 'David', o bosib David Williams, nai Dilys.

Llythyr, 10 Ebrill 1985, at Dilys Williams oddi wrth 'Elias'. Cyfeirir at lythyr a dderbyniodd yr anfonydd oddi wrth Jean Hunt (gynt Ware, ganed Jones) yn trafod y cywydd coffa i Angharad Williams (née Jones) a gyfansoddwyd gan Waldo Williams, brawd Dilys, i'w fam. Ceir cyfeiriad at 'David Williams', o bosib nai Dilys (mab ei brawd, Roger), a chyfeiriad at ymgyrch eisteddfodol leol i godi arian tuag at atgyweirio Cwm, sef hen gartref teuluol John Jones, tad Angharad Williams (a thaid Dilys), ar gyrion pentref Llangernyw.

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Conditions governing reproduction

Language of material

  • Welsh

Script of material

Language and script notes

Physical characteristics and technical requirements

Rhwyg yng nghornel dde isaf y ddalen (llythyr dyddiedig 20 Mawrth 1985).

Rhwyg yng nghornel dde ucha'r ddalen (llythyr dyddiedig 10 Ebrill 1985).

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Gweler hefyd Llythyr at Dilys Williams oddi wrth Jean Hunt dan bennawd Dilys Williams - Gohebiaeth at Dilys Williams, lle disgrifir 'Elias' fel 'Lei (our Llangernyw cousin)'.

Am Jean Hunt (gynt Ware, ganed Jones), gweler hefyd Coeden deulu Syr Henry Jones dan bennawd Angharad Williams (née Jones).

Cynhwysir y cywydd 'Angharad' yn Dail Pren (1956), unig gyfrol farddoniaeth gyhoeddiedig Waldo Williams. Am Angharad ei hunan, gweler dan bennawd Angharad Williams (née Jones).

Related descriptions

Notes area

Note

Yn ôl tystiolaeth coeden deulu - gweler Coeden deulu Syr Henry Jones dan bennawd Angharad Williams (née Jones) - 'roedd Jean Hunt (gynt Ware, ganed Jones) yn wyres i Syr Henry Jones, brawd John Jones, tad Angharad Williams (née Jones), mam Waldo Williams a Dilys Williams.

Alternative identifier(s)

Access points

Subject access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Language(s)

Script(s)

Sources

Accession area

Related subjects

Related genres

Related places

Physical storage

  • Text: Papurau Waldo Williams 2/3/1/13 (Bocs 7)