Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1986 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 amlen
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llythyr, 25 Awst 1986, at Dilys Williams oddi wrth y bardd a'r llenor Nigel Jenkins, yn cydnabod ymateb gadarnhaol Dilys i'w ddrama 'Waldo's Witness'.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Ganed y bardd a'r llenor Eingl-Gymreig Nigel Leighton Rowland Jenkins yng Nghorseinon, Abertawe a'i fagu ym Mhenrhyn Gŵyr. Fe'i addysgwyd ym Mhrifysgol Essex, lle'r astudiodd llenyddiaeth gymharol a ffilm. Gweithiodd am gyfnod fel newyddiadurwr a theithiodd yn eang drwy Ewrop, Affrica a'r Unol Daleithiau. Erbyn iddo ddod i'r amlwg fel bardd gyda chyhoeddiad Three Young Poets ym 1974, sef blodeugerdd o weithiau gan Jenkins, Tony Curtis a Duncan Bush, 'roedd eisioes wedi'i wobrwyo â Gwobr Beirdd Ifanc Cyngor y Celfyddydau. Tra'r ysbrydolwyd y rhan helaeth o'i fynych weithiau barddonol a rhyddieithol gan fro ei febyd yn Abertawe a Gŵyr, ffrwyth ei arhosiad mewn mannau mwy pellennig o'r byd oedd y cyfrolau teithio Gwalia in Khasia (1995), a ennillodd Lyfr y Flwyddyn 1996, a Footsore on the Frontier (2001). Bwriadodd Jenkins i'w farddoniaeth, a oedd yn aml yn ddadleuol ddi-flewyn-ar-dafod, ysbrydoli yn ogystal â chondemnio a chyfeirio bys. 'Roedd ei bresenoldeb carismataidd a'i berfformiadau o'r galon yn sicrhau ei boblogrwydd fel arweinydd gweithdai a thrafodaethau cyhoeddus yn ogystal ag fel darlithydd o fewn rhaglen Ysgrifennu Creadigol a Chyfryngol Prifysgol Abertawe. Bu'n ymgyrchu ar hyd ei fywyd dros hawliau ac anghyfiawnderau gwleidyddol a chymdeithasol ac 'roedd hefyd yn weithredol o fewn y mudiad heddwch - treuliodd gyfnod yng Ngharchar Abertawe am wrthod talu dirwy a ddyfarnwyd iddo tra'n gwrthdystio yn erbyn y gwersyll milwrol ym Mreudeth - ac o fewn mudiadau gwerinol megis y Swansea Writers and Artists Group (a sefydlwyd gan Jenkins) a'r Welsh Union of Writers. Mynegodd ei hoffter o gerddoriaeth gwerin a'r felan trwy berfformio barddoniaeth i gyfeiliant cerddorol gyda'r Salubrious Rhythm Company. Astudiodd y ffurf farddonol Siapanëaidd a elwir haiku, a bu'n gyfrifol am y gyfrol gyntaf o farddoniaeth haiku i'w chyhoeddi yng Nghymru.
Nodiadau
Un frawddeg yng Nghymraeg.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
- Jenkins, Nigel, 1949-2014 (Pwnc)