Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 23 Medi [1980] (Creation)
Level of description
Item
Extent and medium
1 f.
Context area
Name of creator
Biographical history
Yr oedd Cassie Davies yn addysgydd a chenedlaetholwraig. Fe'i ganwyd ym Nghae Tudur, Blaencaron, ger Tregaron, ar 20 Mawrth 1898. Astudiodd Saesneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a phenderfynodd wneud gradd uwch mewn Cymraeg. Bu'n darlithio yng Ngholeg y Barri, 1923-1938, ac yn 1938 fe'i penodwyd hi yn Arolygydd Ysgolion, gyda gofal arbennig dros y Gymraeg. Ymddeolodd yn 1958. Yr oedd yn llais cyfarwydd hefyd ar y radio. Bu farw 17 Ebrill 1988.
Name of creator
Biographical history
Ganwyd Kate Roberts (1891-1985), un o'r ffigurau pwysicaf yn hanes llenyddiaeth Cymru, yn Rhosgadfan, Llanwnda, pentref yn ardal y chwareli yn sir Gaernarfon. Yr oedd yn nofelydd, yn awdur storiâu byrion ac yn newyddiadurwraig lenyddol. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle bu'n astudio o dan Syr John Morris-Jones a Syr Ifor Williams. Wedi hynny bu'n athrawes Gymraeg yn Ystalyfera ac Aberdâr, ac yn 1928 priododd Morris T. Williams a phrynodd y ddau Wasg Gee, cyhoeddwr Baner ac Amserau Cymru. Yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn 1946, parhaodd i redeg y busnes ar ei phen ei hun am ddeng mlynedd arall. Cyhoeddodd nifer fawr o nofelau a storiâu byrion o 1925 hyd 1937 ac o 1949 hyd 1981. Yr oedd hefyd yn aelod gweithgar o Blaid Genedlaethol Cymru a chyfrannodd yn rheolaidd i bapur newydd misol y blaid, Y Ddraig Goch. Mae nifer o'i gweithiau yn adlewyrchu cymdeithas y chwarel y magwyd Kate Roberts ynddi. Mae rhai o'i gweithiau yn ymwneud â gwragedd neu hen bobl yn byw ar eu pennau eu hunain. Yr oedd hefyd yn awdures llyfrau ar gyfer ac am blant. Yr oedd themâu ei gwaith cyhoeddedig yn cynnwys pynciau llenyddol, gwleidyddol a theuluol.
Archival history
Daethpwyd o hyd i'r llythyr gan Catrin Stevens ymysg papurau ei thad.
Immediate source of acquisition or transfer
Catrin Stevens (trwy law Mari Elin Jones, LlGC); Abertawe; Rhodd; Hydref 2022; 994345492202419.
Content and structure area
Scope and content
Llythyr, 23 Medi [1980], oddi wrth Cassie [Davies], Tregaron, at Kate [Roberts], yn trafod ei hiechyd, newyddion teuluol, a'i methiant i fynd i Melin y Wîg ar gyfer y cyfarfod i gofio J. E. Jones ac i ddadorchuddio cofeb iddo [ar yr 20 Medi].
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Cymraeg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Alternative identifier(s)
Rhif rheoli system Alma
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Davies, Cassie, 1898-1988 -- Correspondence (Subject)
- Roberts, Kate, 1891-1985 -- Correspondence (Subject)
- Jones, J. E. (John Edward), 1905-1970 (Subject)