Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1936 (Creation)
Lefel y disgrifiad
eitem
Maint a chyfrwng
2 ff. (plygwyd f. 10 yn wreiddiol yn ddwy ddalen)
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Ganwyd y Parch Lewis Valentine (1893-1986), gweinidog y Bedyddwyr, heddychwr a chenedlaetholwr, yn Llanddulas, sir Ddinbych. Bu'n astudio Cymraeg ac ieithoedd Semitig yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ac yn ddiweddarach cyhoeddodd waith ar destunau Hebraeg o'r Hen Destament. Gwasanaethodd Valentine fel cynorthwywr meddygol gyda'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn dilyn cyrch nwy yn 1917 symudodd i Blackpool, swydd Gaerhirfryn, yn 1918, a dychwelodd i'r coleg ym Mangor yn 1919. Yn 1921 ordeiniwyd ef yn weinidog capel Tabernacl, Llandudno, sir Gaernarfon, a bu yno tan 1947, pan symudodd i gapel Seion, Ponciau, Rhosllannerchrugog, sir Ddinbych, lle safodd tan ei ymddeoliad yn 1970. Bu farw yn 1986. Yr oedd Lewis Valentine yn un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru yn ddiweddarach), a ffurfiwyd ym Mhwllheli yn 1925, a safodd fel ymgeisydd cyntaf y blaid, yn etholaeth Caernarfon, yn 1929. Ef hefyd oedd ei Llywydd cyntaf, a'r Is-Lywydd yn 1936 pan gymerodd ran, gyda Saunders Lewis (1893-1985) a D. J. Williams, mewn gweithred symbolaidd o losgi Ysgol Fomio i Beilotiaid y Llu Awyr Brenhinol a oedd newydd ei sefydlu ym Mhenyberth, ger Pwllheli, Llŷn, sir Gaernarfon, fel protest heddychlon, cenedlaetholgar ac amgylcheddol. Ildiodd y protestwyr i'r heddlu, gan amddiffyn ei gweithredu ar dir moesol. Symudwyd yr achos i'r Old Bailey, wedi i reithwyr yng Nghaernarfon fethu â chytuno ar ddedfryd. Dedfrydwyd y tri i naw mis o garchar; cawsant gefnogaeth a hysbysrwydd eang. Yr oedd yn ffrind i Lewis, Williams a Kate Roberts (1891-1985) ar hyd ei oes. Yn 1983, golygodd John Emyr y gyfrol 'Lewis Valentine yn cofio'. Yn 1988, ar ôl ei farwolaeth, cyhoeddwyd 'Dyddiadur milwr a gweithiau eraill' (Llandysul), sef hanes ei brofiadau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Hanes archifol
Ffynhonnell
Mr Morris Alger; British Columbia; Rhodd; Ionawr 2014; 006701580.
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Llythyr teipysgrif, 15 Rhagfyr 1936, oddi wrth y Parch. Lewis Valentine, Llandudno, at Frank Morris, [Prince Rupert, British Columbia, gynt o Lansantffraid Glyn Ceiriog, sir Ddinbych], yn diolch iddo am ei lythyr ac arian, ac yn cyfeirio at symud achos llys Valentine am losgi'r Ysgol Fomio i'r Old Bailey (f. 9); ynghyd a cherdyn Nadolig oddi wrth Valentine, [?1936] (f. 10). = A typescript letter, 15 December 1936, from the Rev. Lewis Valentine, Llandudno, to Frank Morris, [Prince Rupert, British Columbia, formerly of Llansantffraid Glyn Ceiriog, Denbighshire], thanking him for his letter and money, and referring to the removal of Valentine's trial for arson to the Old Bailey (f. 9); together with a Christmas card from Valentine, [?1936] (f. 10).
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cymraeg, Saesneg.
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Cymorth chwilio a gynhyrchir
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Nodiadau
Preferred citation: NLW MS 24044D, ff. 9-10.
Dynodwr(dynodwyr) eraill
Virtua system control number
Pwyntiau mynediad
Pwyntiau mynediad pwnc
Pwyntiau mynediad lleoedd
Pwyntiau mynediad Enw
Pwyntiau mynediad Genre
Ardal rheolaeth disgrifiad
Dynodwr disgrifiad
Dynodwr sefydliad
Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd
Statws
Lefel manylder disgrifiad
Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead
Iaith(ieithoedd)
- Cymraeg