Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 5 Mehefin 1941. (Creation)
Level of description
item
Extent and medium
5 ff.
Context area
Name of creator
Biographical history
Ganwyd Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd, newyddiadurwr, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd, beirniad ac ysgolhaig, yn y Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos, sir Ddinbych. Yn 1899 priododd Margaret Davies, a chawsant ferch a dau fab. Heblaw am addysg elfennol, yr oedd Jones yn hynanddysgedig, er iddo dderbyn gwersi mewn mathemateg, Lladin a Groeg gan gymydog. Rhwystrwyd ei uchelgais o astudio yn Rhydychen gan afiechyd, a gweithiodd fel newyddiadurwr gyda Baner ac Amserau Cymru, Y Cymro (y daeth yn olygydd arno faes o law), Yr Herald Gymraeg a phapurau newydd eraill rhwng 1891 a 1909, pan gymerodd swydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1913, a'i ddyrchafu i Gadair Gregynog mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 1919; ymddeolodd yn 1937. Derbyniodd y CBE yr un flwyddyn. Dylanwadwyd Jones yn gryf gan y llenor Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan,1851-1906) ac yn arbennig gan y newyddiadurwr a'r cyfieithydd Daniel Rees (1855-1931), gyda'r hwn y magodd berthynas glos. Yn ogystal ag ymhyfrydu mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg cyfoes ac o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar, a hefyd llên gwerin ac ieithoedd tramor, yn enwedig Gwyddeleg ac ieithoedd Celtaidd eraill; bu ar ymweliad ag Iwerddon deirgwaith rhwng 1892 a 1913, daeth i gysylltiad ag ysgolheigion Gwyddelig, a defnyddiodd lysenwau fel Fionn mhac Eóghain yn ei ohebiaeth atynt. Ei brif lwyddiant oedd fel bardd pwysicaf ei genhedlaeth, yn cyfansoddi'n bennaf yn y mesurau caeth. Cyfansoddodd a chyhoeddodd farddoniaeth yn y 1880au, ac enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1902 a 1909 (am 'Ymadawiad Arthur a 'Gwlad y bryniau'); ymhlith gweithiau eraill o'i eiddo mae 'Tir na nOg', 'Madog' ac 'Y Dwymyn'. Cyfieithodd Jones waith Goethe, Ibsen, Shakespeare ac eraill i'r Gymraeg, a chyhoeddodd gyfieithiad Saesneg o Gweledigaethau y Bardd Cwsc Ellis Wynne (1670/1-1734). Mae ei brif gyhoeddiadau academaidd yn cynnwys astudiaeth ar waith y bardd Tudur Aled (bl. 1480-1526), ac roedd yn awdur nofelau, dramâu, cofiannau a llyfr taith hefyd. Yn ogystal, yr oedd yn beirniadu a darlithio mewn eisteddfodau yn rheolaidd, ac yn athro dylanwadol.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Canon D. Ryland Olicer; Llanelli; Rhodd; Tachwedd 2009; 004935529.
Content and structure area
Scope and content
Llythyr, 5 Mai [recte Mehefin] 1941, oddi wrth yr Athro [Emeritws] T. Gwynn Jones at yr Athro Ganon W. H. Harris, a oedd newydd ei benodi yn Athro'r Gymraeg, Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, yn bennaf yn trafod ei hen gwrs Llenyddiaeth Gymraeg yn Aberystwyth, a'r darpar offeiriaid a gweinidogion a ddysgodd yno. = Letter, 5 May [recte June] 1941, from [Emeritus] Professor T. Gwynn Jones to Professor Canon W. H. Harris, who was newly appointed Professor of Welsh at St. David's College, Lampeter, mainly concerning Jones's former course in Welsh literature at Aberystwyth and the trainee clergy and ministers he taught there.
Mae Jones yn ateb llythyr gan yr Athro Harris, dyddiedig 31 Mai 1941, yn gofyn iddo am gopi o brospectws ei hen gwrs (gw. NLW, Papurau Thomas Gwynn Jones G1930). = The letter is in reply to that of Professor Harris, dated 31 May 1941, asking Jones for a copy of the prospectus for his former course (see NLW, Papurau Thomas Gwynn Jones G1930).
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
Script of material
Language and script notes
Cymraeg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.
Note
Preferred citation: NLW MS 23981E, ff. 21-25.