Ffeil / File AC/1 - Llythyrau at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth W. J. Gruffydd = Letters to Robert (Silyn) Roberts from W. J. Gruffydd

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

AC/1

Teitl

Llythyrau at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth W. J. Gruffydd = Letters to Robert (Silyn) Roberts from W. J. Gruffydd

Dyddiad(au)

  • 1899-1918 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Ffeil / File

Maint a chyfrwng

1 amlen / envelope

Ardal cyd-destun

Hanes archifol

Ffynhonnell

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Llythyrau, 1899-1917, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth yr ysgolhaig, bardd, beirniad a'r golygydd W. J. (William John) Gruffydd (1881-1954), ac un llythyr, 1918, oddi wrth Gwenda Gruffydd, gwraig W. J. Gruffydd. Cyfeirir at yrfa academaidd W. J. Gruffydd yn Rhydychen; ei garwriaeth â'i ddarpar-wraig Gwenda Evans ac â merch o'r enw Winnie, a'i briodas yn y pen draw â Gwenda; "Miss P." (sef Mary Parry, wedyn Mary Silyn Roberts); barddoniaeth, gan gynnwys enghreifftiau o waith W. J. Gruffydd, ac yntau'n holi am farddoniaeth o eiddo Silyn; ei waith golygyddol; crefydd, athroniaeth, gwleidyddiaeth a daliadau personol; a'i gyfnod o wasanaeth yn y llynges, ac yntau'n dyheu am gael gadael. Mae llythyr Gwenda Gruffydd yn cyfeirio at ei brwydr i ryddhau ei gŵr o'r llynges, ac yn erfyn ar ddylanwad Silyn i'w chynorthwyo yn hyn o beth, gyda chefnogaeth 'Tom Jones' (sef, mae'n debyg, Dr Thomas Jones (1870-1955)). Ceir yn ogystal broflen o erthygl dan y teitl 'Addysg yng Nghymru' a ysgrifenwyd gan W. J. Gruffydd ar gyfer Barn Cymru Ieuanc (Rhif 2); llythyr printiedig a ysgrifenwyd gan W. J. Gruffydd i'r newyddlen Y Brython; a llythyr printiedig dan y teitl 'W. J. Gruffydd a'r Hen Feirdd' a anfonwyd gan W. J. Gruffydd at gyhoeddiad nas enwir ac a grybwylla enwau Silyn Roberts ac R. Williams Parry. Ynghyd â thrawsgrifiadau teipysgrif o'r llythyrau a disgrifiad cryno o'r deunydd atodol.
= Letters, 1899-1917, to Robert (Silyn) Roberts from the academic, poet, adjudicator and editor W. J. (William John) Gruffydd (1881-1954) and one letter, 1918, from Gwenda Gruffydd, wife of W. J. Gruffydd. References include W. J. Gruffydd's academic career at Oxford; his courtship of Gwenda (Evans, later his wife), his dalliance with a woman named Winnie, and his eventual marriage to Gwenda; "Miss P." (Mary Parry, later Mary Silyn Roberts); poetry, including examples of work by W. J. Gruffydd and his request to receive some of Silyn's poetry; his editorial work; religion, philosophy, politics and personal theories; and his period in the navy and his longing to leave the service. Gwenda Gruffydd's letter refers to her battle to have her husband released from his naval service, requesting Silyn, with the support of "Tom Jones" (most likely Dr Thomas Jones (1870-1955)) to help bring this about. Together with the proof of an article titled 'Addysg yng Nghymru' ('Education in Wales') written by W. J. Gruffydd for Barn Cymru Ieuanc (No. 2); printed letter written by W. J. Gruffydd for Y Brython newspaper; and a printed letter titled 'W. J. Gruffydd a'r Hen Feirdd' ('W. J. Gruffydd and the Old Poets'), sent by W. J. Gruffydd to an unnamed publication and which references Silyn Roberts and R. Williams Parry. Also included are typescript transcripts of the letters and a brief description of the supplementary material.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Deunydd dyddiedig wedi'i drefnu yn ôl dyddiad. Deunydd annyddiedig wedi'i gadw mewn amlen wedi'i nodi. = Dated material arranged chronologically. Undated material kept in marked envelope.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Amodau rheoli atgynhyrchu

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cyflwr ac anghenion technegol

Rhwyg bychan ar ymyl un o'r eitemau atodol. = Small tear at the edge of one of the supplementary items.

Llythyr Gwenda Gruffydd (3 Medi 1918) yn cynnwys rhwygiadau ar ei ymylon. = Letter from Gwenda Gruffydd (3 September 1918) contains two tears at its edges.

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Am W. J. Gruffydd, gweler, er enghraifft, Papurau W. J. Gruffydd; Edward Morgan Humphreys Papers; Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers; ac E. T. John Papers yn LlGC. = For W. J. Gruffydd, see, for example, Papurau W. J. Gruffydd; Edward Morgan Humphreys Papers; Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers; and E. T. John Papers at NLW.

Am Dr Thomas Jones, gweler Gohebiaeth rhwng Swyddfa Ranbarthol Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, Bangor a Choleg Harlech = For Dr Thomas Jones, see Correspondence between the Workers' Educational Association District Office, Bangor and Coleg Harlech.

Am R. Williams Parry, gweler Gohebiaeth rhwng Robert (Silyn) Roberts ac R. Williams Parry a Llythyr oddi wrth R. Williams Parry at Y Dinesydd Cymreig = For R. Williams Parry, see Correspondence between Robert (Silyn) Roberts and R. Williams Parry and Letter from R. Williams Parry to Y Dinesydd Cymreig.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Nodyn iaith: Un llythyr (3 Medi 1918) yn Saesneg; ambell gymal Saesneg yng ngweddill y llythyrau = Language note: One letter (3 September 1918) in English; remaining letters include occasional phrases in English.

Nodiadau

Ganed yr ysgolhaig, bardd, beirniad a'r golygydd William John Gruffydd (1881-1954) ym Methel, sir Gaernarfon, yn fab i John a Jane Elisabeth Griffith, a'i addysgu yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Ym 1904 fe'i penodwyd yn athro yn ysgol ramadeg Beaumaris ac, ym 1906, yn ddarlithydd yn adran Gelteg Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd. Wedi cwblhau gwasaneth fel swyddog yn y llynges o 1915 hyd 1918, fe'i penodwyd yn Athro'r adran Gelteg yng Nghaerdydd yn dilyn ymddeoliad Thomas Powel (1845-1922), swydd a barhaodd nes ymddeoliad Gruffydd yntau ym 1946. Ym 1900, cyhoeddodd ef a Robert (Silyn) Roberts gyfrol o'u cerddi dan y teitl Telynegion, a chyhoeddodd hefyd ddwy gyfrol o'i gerddi ei hunan, sef Ynys yr hud a chaneuon eraill (1906) a Caniadau (1932). Cynigiodd am y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1902 ar y testun 'Trystan ac Esyllt', cystadleuaeth a ennillwyd gan Robert (Silyn) Roberts, ond fe gipiodd yr un wobr ar y testun 'Yr Arglwydd Rhys' yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1909. Cyhoeddwyd cyfres o'i ysgrifau yn Y Llenor o 1930 hyd 1935 dan y teitl 'Hen Atgofion', a'u cyhoeddi'n llyfr ym 1936. Ysgrifennodd gofiant i'r llenor O. M. Edwards (1858-1920), a gyhoeddwyd ym 1937, a thair drama, sef Beddau'r Proffwydi (perfformwyd gyntaf 1913), Dyrchafiad arall i Gymro (1914) a Dros y dŵr (1928), yn ogystal â chyfieithiad o Antigone gan Sophocles (1950). Bu'n feirniad eisteddfodol, yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod, ac yn llywydd Llys yr Eisteddfod o 1945 hyd ei farw. Priododd, 1909, Gwenda Evans, Abercarn, a chawsant un mab.
= The academic, poet, adjudicator and editor William John Gruffydd (1881-1954) was born in Bethel, Caernarfonshire, the son of John and Jane Elisabeth Griffith, and educated at Jesus College, Oxford. In 1904, he began teaching at Beaumaris grammar school and, in 1906, was appointed lecturer in the Celtic Department of University College of Wales Cardiff. Following service as a naval officer from 1915 to 1918, he was appointed Professor of Celtic at University College of Wales Cardiff on the retirement of Professor Thomas Powel (1845-1922), remaining in this post until Gruffydd's own retirement in 1946. In 1900, he and Robert (Silyn) Roberts published an anthology of their poetry titled Telynegion; Gruffydd also published two volumes of his own poetic works, namely Ynys yr hud a chaneuon eraill (1906) and Caniadau (1932). He competed unsuccessfully for the crown at Bangor National Eisteddfod in 1902 on the subject of 'Trystan ac Esyllt' ('Tristan and Isolde'), the winner that year being Robert (Silyn) Roberts, but was successful in his attempt at the same competition at the London National Eisteddfod in 1909 on the subject of 'Yr Arglwydd Rhys' ('The Lord Rhys'). A series of articles by Gruffydd titled 'Hen Atgofion' ('Reminiscences') were published in the literary periodical Y Llenor from 1930 to 1935, and subsequently published in book form in 1936. He wrote a memoir of the author and writer O. M. Edwards (1858-1920), which was published in 1937, and three plays, namely Beddau'r Proffwydi (first performed in 1913), Dyrchafiad arall i Gymro (1914) and Dros y dŵr (1928), as well as a translation into Welsh of Sophocles' Antigone (1950). He was an eisteddfod adjudicator, a member of the eisteddfod Council, and president of the eisteddfod governing body from 1945 until his death. In 1909, he married Gwenda Evans, Abercarn, with whom he had one son.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Ardal derbyn

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: AC/1 (Box 1)