File NLW MS 23933D. - Llythyrau Islwyn Ffowc Elis at T. Robin Chapman

Identity area

Reference code

NLW MS 23933D.

Title

Llythyrau Islwyn Ffowc Elis at T. Robin Chapman

Date(s)

  • 1997-2004 (Creation)

Level of description

File

Extent and medium

118 ff.

Gosodwyd mewn llewys melinecs a blwch modrwyog yn LlGC.

Context area

Name of creator

(1924-2004)

Biographical history

Nofelydd oedd Islwyn Ffowc Elis a ddaeth i amlygrwydd yn dilyn cyhoeddi ei nofel boblogaidd, Cysgod y Cryman. Ynghyd â bod yn awdur toreithiog roedd hefyd yn weinidog, yn gynhyrchydd gyda'r BBC, ac yn ddarlithydd.
Fe'i ganed ar 17 Tachwedd 1924 yn Wrecsam, yn fab i Edward Ifor a Catherine Ellis (née Kenrick). Fe'i magwyd ar fferm Aberwiel, Nantyr, yn Nyffryn Ceiriog, dyffryn y tynnodd llawer o'i ysbrydoliaeth ohono fel awdur. Cafodd ei addysg yn Ysgol Elfennol Nantyr ac Ysgol Ramadeg Llangollen, cyn ennill gradd BA yn y celfyddydau yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1946. Enillodd wobrau yn Eisteddfod Gadeiriol Myfyrwyr Cymru ar gystadleuaeth y ddrama yn 1945 a 1946, a bu'n weithgar yn cyfansoddi a chynhyrchu anterliwtiau yn y Coleg. Bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholegau Diwinyddol Aberystwyth a'r Bala lle enillodd radd BD mewn diwinyddiaeth yn 1949.
Cafodd ei ordeinio yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1950 a bu'n weinidog gyda'r enwad yn Llanfair Caereinion, a Meifod, Sir Drefaldwyn, ac yn Niwbwrch, Môn, cyn penderfynu gadael y weinidogaeth yn 1956 er mwyn llenydda.
Enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 1951 am ei gyfrol o ysgrifau, Cyn Oeri'r Gwaed (1952), a dilynwyd y llwyddiant hwn gan dair nofel, sef Cysgod y Cryman (1953), Ffenestri Tua'r Gwyll (1955) ac Yn Ôl i Leifior (1956). Roedd Cysgod y Cryman yn nofel Gymraeg boblogaidd, gyfoes a gafodd dderbyniad brwd.
Symudodd i Fangor yn 1956 i fod yn awdur a chynhyrchydd gyda'r BBC a bu'n ysgrifennu, cynhyrchu a chymryd rhan mewn nifer fawr o raglenni'r BBC. Profodd yn gyfnod cynhyrchiol iddo o ran ysgrifennu nofelau, ac fe gyhoeddwyd ganddo Wythnos yng Nghymru Fydd, (1957), Blas y Cynfyd (1958) a Tabyrddau'r Babongo (1961).
Yn 1963 aeth yn Ddarlithydd yn y Gymraeg i Goleg Y Drindod, Caerfyrddin, ac fe fu'r cyfnod a ddilynodd yn gymharol dawel o ran llenydda ond yn brysur yn wleidyddol. Bu'n ymgeisydd Seneddol dros Blaid Cymru yn etholaeth Trefaldwyn yn Isetholiad 1962 ac Etholiad Cyffredinol 1964, ac roedd yn weithgar gydag ymgyrchoedd Plaid Cymru. Ef oedd Cyfarwyddwr Cyhoeddiadau Plaid Cymru o tua 1962 i 1969, a bu'n paratoi llawer o lenyddiaeth wleidyddol ar gyfer Gwynfor Evans.
O 1968 hyd 1971 bu'n Olygydd ac yn Gyfarwyddwr cyfieithiadau gyda'r Cyngor Llyfrau Cymraeg, ac yn 1968 cyhoeddwyd Y Blaned Dirion, nofel a addaswyd o ddrama radio BBC a ddarlledwyd yn 1959.
Dychwelodd i Wrecsam i fod yn awdur llawn-amser rhwng 1971 a 1975 a chyhoeddodd ddwy nofel, sef Y Gromlech yn yr Haidd, (1971) ac Eira mawr (1972). Yna yn 1974 cyhoeddodd ddrama am y Diwygiad Methodistaidd, Harris, a chasgliad o storïau byrion, Marwydos.
Yn 1975 fe'i penodwyd yn Ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ac yn 1984 fe'i penodwyd yn Ddarllenydd yno, cyn ymddeol yn 1988. Yn dilyn ei ymddeoliad cyhoeddwyd cyfrol o'i ganeuon ysgafn Caneuon Islwyn Ffowc Elis (1988), maes yr oedd ganddo ddiddordeb mawr ynddo rhwng 1945 a 1970. Yn 1993 derbyniodd radd D.Litt er anrhydedd gan Brifysgol Cymru.
Roedd yn awdur dra chynhyrchiol, ac fe ysgrifennodd amryw raglenni radio a storïau, ac erthyglau ar grefydd a gwleidyddiaeth. Bu'n gyd-olygydd Y Ddraig Goch, cylchgrawn Plaid Cymru, a Taliesin, cylchgrawn yr Academi Gymreig. Enillodd nifer o wobrwyon yn yr Eisteddfod Genedlaethol am farddoniaeth, storïau byrion, ysgrifau a dramâu, a bu'n beirniadu mewn nifer o Eisteddfodau.
Priododd Eirlys Rees Owen o Donfanau ger Tywyn, yn Hydref 1950, a ganwyd eu merch, Sian, yn 1960. Bu farw Islwyn Ffowc Elis ym mis Ionawr 2004.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Dr T. Robin Chapman; Aberystwyth; Rhodd; Medi 2004; 0200409928.

Content and structure area

Scope and content

Cyfres o 31 llythyr, 1997-2003, oddi wrth Islwyn Ffowc Elis at ei gofiannydd, T. Robin Chapman, yn ymwneud yn bennaf ag astudiaeth feirniadol Chapman, Islwyn Ffowc Elis (Caerdydd, 2000) a'r bywgraffiad Rhywfaint o Anfarwoldeb (Llandysul, 2003) (ff. 1-71). = Thirty-one letters, 1997-2003, from Islwyn Ffowc Elis to his biographer, T. Robin Chapman, mostly relating to the latter's critical study Islwyn Ffowc Elis (Cardiff, 2000) and biography Rhywfaint o Anfarwoldeb (Llandysul, 2003) (ff. 1-71).
Cynhwysir hefyd nodiadau hunangofiannol gan Islwyn Ffowc Elis, [2001], [2003] (ff. 76-91); copïau o ddau lythyr gan Elis, 1975, 1976 (ff. 72-75, 92-93); a deuddeg llythyr perthynol, 1998-2004, at Chapman oddi wrth amryw o ohebwyr (ff. 94-116), gan gynnwys Huw Ethall, 2004 (f. 99), Harri P[ritchard] J[ones], 2001 (f. 101), Eigra Lewis Roberts, [2002] (f. 102), Robin Williams, 2001 (ff. 109-110), Bobi Jones, 1998 (f. 111), Derec Llwyd Morgan, 1998 (f. 113), a Brynley F. Roberts, 2003 (ff. 115-116). Ceir yn llythyrau Elis atgofion am ei amser yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (1942-7) (ff. 48-52), a’i ymddangosiadau o flaen tribiwnlysoedd gwrthwynebwyr cydwybodol ym 1943 (ff. 53-54), yn ogystal â chyfeiriadau at Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (1975-1980au) (ff. 55 verso-56, 74, 85 verso-90), Daniel Owen (f. 14), Kate Roberts (f. 14), T. J. Morgan (f. 54) ac E. Tegla Davies (ff. 72-75). = Also included are autobiographical notes by Islwyn Ffowc Elis, [2001], 2003 (ff. 76-91); copies of two letters from Elis, 1975, 1976 (ff. 72-75, 92-93); and twelve related letters, 1998-2004, to Chapman from various correspondents (ff. 94-116), including Huw Ethall, 2004 (f. 99), Harri P[ritchard] J[ones], 2001 (f. 101), Eigra Lewis Roberts, [2002] (f. 102), Robin Williams, 2001 (ff. 109-110), Bobi Jones, 1998 (f. 111), Derec Llwyd Morgan, 1998 (f. 113), and Brynley F. Roberts, 2003 (ff. 115-116). Elis's letters include reminiscences of student life at the University College of North Wales, Bangor (1942-7) (ff. 48-52) and his appearances before tribunals for conscientious objectors in 1943 (ff. 53-54), as well as references to the Department of Welsh at St David's University College Lampeter (1975-[1980s]) (ff. 55 verso-56, 74, 85 verso-90), Daniel Owen (f. 14), Kate Roberts (f. 14), T. J. Morgan (f. 54) and E. Tegla Davies (ff. 72-75).

Appraisal, destruction and scheduling

Accruals

System of arrangement

Trefnwyd yn LlGC fel a ganlyn: llythyrau oddi wrth Islwyn Ffowc Elis; nodiadau; llythyrau at T. Robin Chapman oddiwrth ohebwyr eraill.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol. Ceir gwybodaeth am ddeiliaid hawlfraint Islwyn Ffowc Elis yn http://tyler.hrc.utexas.edu/ (gwelwyd Ebrill 2012).

Language of material

Script of material

Language and script notes

Cymraeg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Related descriptions

Notes area

Note

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Note

Preferred citation: NLW MS 23933D.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004363811

GEAC system control number

(WlAbNL)0000363811

Access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Ebrill 2012.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd y disgrifiad gan Maredudd ap Huw, a'i adolygu gan Rhys Morgan Jones;

Accession area