Ffeil E3/8 - Maniffesto Plaid Cymru

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

E3/8

Teitl

Maniffesto Plaid Cymru

Dyddiad(au)

  • 1997 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Ffeil

Maint a chyfrwng

1 cyfrol

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

(1925-)

Hanes gweinyddol

Ffurfiwyd Plaid Cymru ar 5 Awst 1925 mewn cyfarfod ym Mhwllheli. Ei nod ar y cychwyn oedd hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Erbyn y 1930au yr oedd y blaid yn mabwysiadu agenda gwleidyddol ehangach gyda pholisïau economaidd a chyda'r bwriad o sicrhau newid cyfansoddiadol, a ddisgrifiwyd i gychwyn fel 'statws dominiwn'. Ymladdodd y blaid ei hetholiad gyntaf yn 1929, pan enillodd Lewis Valentine 609 o bleidleisiau yn sir Gaernarfon. Wrth i gefnogaeth i'r Blaid gynyddu, cyflwynwyd mwy o ymgeiswyr a dechreuodd ennill seddi ar gynghorau lleol. Gwynfor Evans oedd AS cyntaf Plaid Cymru, trwy ennill isetholiad Caerfyrddin yn 1966. Yn 1970 ymladdodd y blaid pob sedd yng Nghymru yn yr Etholiad Cyffredinol, gan ennill dros 175,000 o bleidleisiau. Yn 1974, enillodd y blaid dwy sedd, Caernarfon a Meirionnydd. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 2001 yr oedd ganddi bedair sedd. Dioddefodd ymgyrch datganoli y blaid ergyd dirfawr yn dilyn ei threchu yn Refferendwm 1979. Er hynny, agorodd Refferendwm 1997 y ffordd i Gynulliad Cymru. Enillodd Plaid Cymru 17 o'r 60 sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn 1999, i'w gwneud yr ail grŵp fwyaf yn y Cynulliad. Hefyd yn 1999, enillodd Plaid Cymru dwy o'r pum sedd yn yr Etholiadau Ewropeaidd. Trefnir y blaid yn lleol yn ganghennau a phwyllgorau a elwir yn rhanbarthau, sydd yn cyfateb i etholaethau San Steffan neu ffiniau llywodraeth leol, a ffurfir o gynrychiolwyr o'r canghennau. Mae'r strwythur cenedlaethol yn cynnwys y Gynhadledd Flynyddol, y Cyngor Cenedlaethol, a ffurfir o gynrychiolwyr y canghennau a'r rhanbarthau, a Phwyllgor Gwaith Cenedlaethol, sydd yn rheoli cyllid a gweinyddiaeth y blaid. Cyflogir chwe aelod o staff, yn cynnwys ei phrif weithredwr, yn swyddfa genedlaethol Plaid Cymru yng Nghaerdydd,. Mae wyth swyddfa gyflogedig arall ar hyd a lled Cymru ynghyd â swyddfeydd etholaethol. Llywydd cyntaf Plaid Cymru oedd Lewis Valentine, a olynwyd gan Saunders Lewis, 1926-1939, J.E. Daniel, 1939-1945,Gwynfor Evans,1945-1981, Dafydd Wigley, 1981-1984 a 1991-2000, Dafydd Elis Thomas, 1984-1991, Ieuan Wyn Jones, 2000-2003 a Dafydd Iwan ers 2003. J. E. Jones (1905-1970) oedd yr ysgrifennydd cyffredinol a threfnydd, 1930-1962, ac ymunodd Elwyn Roberts ag ef ar ôl Yr Ail Ryfel Byd. Teitl swyddogol y blaid (ers 1999) yw is Plaid Cymru - The Party of Wales.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Copi o faniffesto Plaid Cymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1997 (Y Gorau i Gymru = The Best for Wales) yn cynnwys nodiadau Ieuan Wyn Jones.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Readers consulting modern papers in the National Library of Wales are required to abide by the conditions set out in information provided when applying for their Readers' Tickets, whereby the reader shall become responsible for compliance with the Data Protection Act 2018 and the General Data Protection Regulation 2018 in relation to any processing by them of personal data obtained from modern records held at the Library. = Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Saesneg
  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Cyfeirnod: Papurau Ieuan Wyn Jones E3/8.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: Papurau Ieuan Wyn Jones E3/8 (Bocs 185)