fonds GB 0210 BOBOWEN - Papurau Bob Owen, Croesor,

Identity area

Reference code

GB 0210 BOBOWEN

Title

Papurau Bob Owen, Croesor,

Date(s)

  • 1816-1965 (crynhowyd [20 gan., cynnar]-1965) / (Creation)

Level of description

fonds

Extent and medium

44 bocs, 2 gyfrol.

Context area

Name of creator

Biographical history

Roedd Robert (Bob) Owen, Croesor (1885-1962) yn hanesydd, achyddwr a chasglwr llyfrau. Cafodd ei eni yn Llanfrothen, sir Feirionnydd, ar 8 Mai 1885 a'i fagu gan ei fam-gu, Ann Owen. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Elfennol Llanfrothen nes cyrraedd ei 13 mlwydd oed, pan adawodd i weithio ar wahanol ffermydd. Tair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei gyflogi gan Chwarel Lechi Parc a Chroesor fel clerc a bu yno tan i'r chwarel gau yn 1931. Yna fe'i penodwyd yn drefnydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr gan Gyngor Gwledig sir Gaernarfon, a bu'n darlithio yn ogystal. Er gwaethaf ei ddiffyg addysg ffurfiol, datblygodd yn hynafiaethydd, achyddwr ac ymchwilydd. Casglodd lawer o lawysgrifau a llyfrau a gwnaeth adysgrifau o gofnodion plwyf a dogfennau eraill. Roedd ganddo ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o bynciau hanesyddol ond yn arbennig hanes y Cymry yn America a chyfrannodd golofn wythnosol, 'Lloffion Bob Owen' yn Y Genedl Gymreig, 1929-1937. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am ei draethodau ar ymfudiad y Cymry i America yn y cyfnod 1760-1860 ac ar ddiwydiant ardal Dwyryd a Glaslyn yn sir Gaernarfon. Yn 47 mlwydd oed dyfarnwyd iddo radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru a derbyniodd yr OBE. Yr oedd yn ddarlithydd poblogaidd iawn a hefyd yn ddarlledwr. Priododd Nell (Ellen) Jones o Gaeathro, sir Gaernarfon, yn 1923 a chawsant fab a dwy ferch. Bu farw ar 30 Ebrill 1962 a'i gladdu yn Llanfrothen.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Pryniadau oddi wrth Bob Owen Croesor, 1932-1962, ac oddi wrth ei weddw, Mrs Ellen Owen,1963, gydag adneuon gan Mrs Ellen Owen, 1974, a Mr Owain Tudur Owen, 1975.

NLW MS 16257B; Bob Owen; Croesor; Rhodd; Ionawr 1942

NLW MS 16283E; Bob Owen; Croesor; ?Rhodd; [1954x1962]

Content and structure area

Scope and content

Papurau Bob Owen yn cynnwys traethodau eisteddfodol, 1910-1941; beirniadaethau ar draethodau eisteddfodol, 1916-1949; crynodebau o bregethau a glywodd, 1895-1927; teipysgrifau rhaglenni radio yr oedd ynghlwm wrthynt, 1936-1957; gohebiaeth, 1908-1961, yn cynnwys llythyrau Dr Thomas Richards, 1923-1960; dyddiaduron, 1905-1961; papurau personol, 1898-1961; papurau teuluol, 1900-1923; copïau a drafftiau o ddarlithoedd, erthyglau a thraethodau, 1906-1950; nodiadau ac adysgrifau helaeth ganddo o farddoniaeth Gymraeg, ewyllysiau a mynegeion ewyllysiau, cartiau achau ac achresi, cofrestri plwyf ac adysgrifau'r esgob, dyddiaduron, llythyrau, almanaciau, cofnodion llys, yn ymwneud yn bennaf â siroedd Caernarfon a Meirionnydd, a chofiannau, [20 gan., ½ cyntaf]; nodiadau ar anghydffurfiaeth yng Ngogledd Cymru, plwyfi siroedd Meirionnydd a Chaernarfon, llongau a morwyr o Gymru a Chymry Llundain, [20 gan., ½ cyntaf]; nodiadau pwysig ar ymfudo o Gymru, yn enwedig i'r Unol Daleithiau, [20 gan., ½ cyntaf]; copïau teipysgrif o gofnodion corfforaethau yn cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri a Chyngor Sir Feirionnydd, 1922-1962; cofnodion gwreiddiol a ddaeth i feddiant Bob Owen, yn bennaf cofnodion Chwarel Parc a Chroesor, sir Feirionnydd, yn cynnwys cyfrifon a chofnodion, 1891-1941, a chofnodion ysgolion ac ysgolion Sul, 1861-1957; a thorion ac adysgrifau o amrywiol gyfnodolion Cymreig, 1816-1965. = Papers of Bob Owen including eisteddfod essays, 1910-1941; adjudications of eisteddfod essays, 1916-1949; summaries of sermons heard by him, 1895-1927; typescripts of radio programmes involving him, 1936-1957; correspondence, 1908-1961, including letters from Dr Thomas Richards, 1923-1960; diaries, 1905-1961; personal papers, 1898-1961; family papers, 1900-1923; copies and drafts of lectures, articles and monographs, 1906-1950; extensive notes and transcripts by Bob Owen of Welsh poetry, wills and indexes of wills, pedigrees and genealogies, parish registers and bishops' transcripts, diaries, letters, almanacs, court records, mainly relating to Caernarfonshire and Merionethshire, and biographies, [20 cent, first ½]; notes on nonconformists in North Wales, Merionethshire and Caernarvonshire parishes, Welsh ships and sailors and the London Welsh, [20 cent, first ½]; important notes on emigration from Wales, especially to the United States, [20 cent, first ½]; typescript records of bodies including Snowdonia National Park and Merioneth County Council, 1922-1962; original records acquired by Bob Owen, mainly records of Parc and Croesor Quarry, Merionethshire, including accounts and minutes, 1891-1941, and school and Sunday School records, 1861-1957; and cuttings and transcripts from various Welsh periodicals, 1816-1965.

Appraisal, destruction and scheduling

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a roddwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Symudwyd rhai cyfrolau llawysgrif o'r archif gan y Llyfrgell a'u rhoi yng nghyfres NLW MSS..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System of arrangement

Trefnwyd yn fras yn ôl pwnc.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 1998 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh
  • English

Script of material

Language and script notes

Cymraeg, Saesneg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Mae copi caled o restr cynnwys y bocsys ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Gweler hefyd NLW MSS 7355-7398, 7900-7901, 16148-16150, 16306-16314, 16322-16323, 19160-19349 ymysg eraill. Ceir papurau pellach yn Adran y Llawysgrifau ac Archifau, Prifysgol Bangor, Archifdy Gwynedd ac Archifdy Merionnydd.

Related descriptions

Notes area

Note

Teitl yn seiliedig ar y cynnwys.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls003844302

Project identifier

ANW

Access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Mawrth 2003.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Bob Owen Croesor; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001);

Accession area