Fonds GB 0210 DAELTH - Papurau Dafydd Elis Thomas

Identity area

Reference code

GB 0210 DAELTH

Title

Papurau Dafydd Elis Thomas

Date(s)

  • 1971-1992 (Creation)

Level of description

Fonds

Extent and medium

1.305 metrau ciwbig (145 bocs)

Context area

Name of creator

(1946-2025)

Biographical history

Ganwyd Dafydd Elis Thomas ar 18 Hydref 1946 yng Nghaerfyrddin, sir Gaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, sir Gaernarfon, ac astudiodd y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, gan raddio yn 1967. Bu'n ddarlithydd Astudiaethau Cymreig yng Ngholeg Harlech, 1971, ac yn Adran Saesneg Bangor, 1974, ac roedd hefyd yn ddarlithydd annibynnol rhan amser. Bu'n AS Plaid Cymru dros sir Feirionnydd, 1974-1983, a thros Feirionnydd Nant Conwy, 1983-1992, ac yn llywydd y blaid, 1984-1991. Yn 1987, dyfarnwyd iddo radd PhD gan Brifysgol Cymru. Yn 1992, fe'i dyrchafwyd yn Arglwydd Elis-Thomas o Nant Conwy, ac wedi hynny bu'n Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 1994-1999. Yn 1999, cafodd ei ethol yn Aelod y Cynulliad dros Feirionnydd Nant Conwy yn etholiad cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yna yn Llywydd y Cynulliad. Priododd Elen M.Williams yn 1970 ac mae ganddynt dri mab. Priododd ei ail wraig, Mair Parry Jones, yn 1993.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Dr Dafydd Elis Thomas; Dolgellau; Rhodd; 1992.

Content and structure area

Scope and content

Papurau gwleidyddol Dafydd Elis Thomas, yn cynnwys adroddiadau a datganiadau i'r wasg, 1975-1991; areithiau ac erthyglau, 1980-1990; gohebiaeth gyffredinol a gwahoddiadau, 1974-1992; gohebiaeth, nodiadau ar drafodaethau a phapurau eraill yn ymwneud â gwaith Tŷ'r Cyffredin, 1974-1992, a Llyfrgell Tŷ'r Arglwyddi, 1980-1991; gohebiaeth â'r Swyddfa Gymreig, 1974-1990; papurau'n ymwneud â Phlaid Cymru, 1974-1992; papurau'n ymwneud â materion lleol, yn bennaf rhai Meirionnydd Nant Conwy a Gwynedd, 1972-1991, a materion rhyngwladol, 1971-1991; a phapurau'n ymwneud ag addysg yng Nghymru, yn cynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol ac addysg bellach, 1974-1991, amaethyddiaeth ac Undeb Amaethwyr Cymru, gan gynnwys lles anifeiliaid ac effaith trychineb Chernobyl ar ffermio defaid yng Nghymru, 1975-1991, diwydiant yng nghefn gwlad, Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, ac effaith ail-gartrefi,1976-1991, papurau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r celfyddydau, 1974-1991, datganoli, 1977-1992, cyfathrebu a'r cyfryngau, 1976-1992, cyfraith a threfn, 1975-1989, problemau alcohol a phroblemau cymdeithasol, 1975-1991, yr iaith Gymraeg, 1973-1992; diwydiant, 1974-1989, yr economi, 1972-1990, iechyd a nawdd cymdeithasol, 1971-1990, trafnidiaeth, 1975-1989, ac ynni niwclear, 1971-1991 = Political papers of Dafydd Elis Thomas, including reports and press releases, 1975-1991; speeches and articles, 1980-1990; general correspondence and invitations, 1974-1992; correspondence, notes on debates and other papers relating to the business of the House of Commons, 1974-1992, and to the House of Commons Library, 1980-1991; correspondence with the Welsh Office, 1974-1990; papers relating to Plaid Cymru, 1974-1992; papers relating to local matters, mostly Meirionnydd Nant Conwy and Gwynedd, 1972-1991, and international matters, 1971-1991; and papers concerning education in Wales, including National Curriculum and further eduaction, 1974-1991, agriculture and the Farmers' Union of Wales, including animal welfare and the effect of the Chernobyl disaster on sheep farming in Wales, 1975-1991, rural industry, Development Board for Rural Wales, and the effect of second homes, 1976-1991, National Trust and the arts papers, 1974-1991, devolution, 1977-1992, communications and the media, 1976-1992, law and order, 1975-1989, alcohol and social problems, 1975-1991, the Welsh language, 1973-1992, industry, 1974-1989, the economy, 1972-1990, health and social security, 1971-1990, transport, 1975-1989, and nuclear power, 1971-1991.

Appraisal, destruction and scheduling

Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Accruals

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

System of arrangement

Trefnwyd fel a ganlyn: amrywiol; seneddol/llywodraethol; Plaid Cymru; addysg, amaethyddiaeth; cefn gwlad; y Celfyddydau/Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; cyfansoddiad Cymru; cyfathrebu; cyfraith a threfn; cymdeithasol, yr Iaith Gymraeg; diwydiant; yr economi; iechyd a nawdd cymdeithasol; llywodraeth leol; trafnidiaeth; ynni; materion rhyngwladol; a materion lleol.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Cyfyngwyd ar yr hawl i weld rhai papurau tan y flwyddyn 2002. Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh
  • English

Script of material

Language and script notes

Cymraeg, Saesneg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Ceir copi caled o'r catalog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Ceir papurau pellach yn LlGC, Archif Plaid Cymru; ac yn Archifdy Meirionnydd, Z/DDR.

Related descriptions

Notes area

Note

Teitl yn seiliedig ar gynnwys y fonds.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls003844385

Project identifier

ANW

Access points

Place access points

Name access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Rhagfyr 2003.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Dafydd Elis Thomas, A. S.; Who's Who (2002); gwefan Plaid Cymru the Party of Wales (www.plaidcymru.org), gwelwyd 5 Rhagfyr 2003.

Archivist's note

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW.

Accession area