Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [c.1890s]-1995 / (Creation)
Level of description
fonds
Extent and medium
0.186 metrau ciwbig (12 bocs)
Context area
Name of creator
Biographical history
Ganwyd Dafydd Orwig Jones (1928-96), addysgwr a gwleidydd, yn Neiniolen, sir Gaernarfon. Ar ôl treulio ei flynyddoedd cynnar yn Kilcavan, Swydd Wicklow, Iwerddon, derbyniodd ei addysg ym Mrynrefail, sir Gaernarfon, ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac aeth yn athro Daearyddiaeth mewn ysgolion uwchradd ym Mlaenau Ffestiniog a Bethesda, sir Gaernarfon, cyn mynd yn ddarlithydd yn y Coleg Normal, Bangor. Yn genedlaetholwr ymroddedig, roedd yn danbaid dros addysg, llyfrau Cymraeg a chyhoeddi, ac ymddeolodd yn y 1970au hwyr er mwyn canolbwyntio ar ei weithgareddau diwylliannol a gwleidyddol. Bu'n ymgyrchydd a threfnydd gweithgar dros Blaid Cymru gydol ei fywyd, a safodd fel ymgeisydd y blaid yng Nghaernarfon yn etholiad cyffredinol 1959. Roedd yn aelod o nifer o bwyllgorau, yn cynnwys Cydbwyllgor Addysg Cymru, Cyngor Llyfrau Cymraeg a Phwyllgor y Deyrnas Unedig o Fiwro Ewropeaidd yr Ieithoedd Llai. Gwasanaethodd ar Gyngor Sir Gwynedd a bu'n gadeirydd Pwyllgor Addysg y cyngor.
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Mrs Beryl Orwig, gweddw Dafydd Orwig; Bethesda, Gwynedd; Adnau; Awst 1997
Content and structure area
Scope and content
Papurau, [c.1890au]-1995, a gasglwyd gan Dafydd Orwig, yn ymwneud yn bennaf â Phlaid Cymru, yn cynnwys deunydd yn ymwneud â chenedligrwydd, diwylliant, gwleidyddiaeth ac economeg Cymru, yn eu plith amrywiaeth o adroddiadau, datganiadau a chyhoeddiadau Plaid Cymru, 1958-1995, a hefyd peth ddeunydd yn ymwneud â'r Alban ac Iwerddon. = Papers,[c.1890s]-1995, collected by Dafydd Orwig, relating mainly to Plaid Cymru, and comprising material relating to nationality, culture, politics and economics in Wales, including a variety of Plaid Cymru reports, manifestos and publications, 1958-1995, and also some material relating to Scotland and Ireland.
Appraisal, destruction and scheduling
Action: Cadwyd yr holl gofnodion a adneuwyd i'r Llyfrgell.
Accruals
Ni ddisgwylir ychwanegiadau.
System of arrangement
Trefnwyd fel a ganlyn: papurau ac adroddiadau; deunydd printiedig a chyhoeddiadau; amrywiol.
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
- English
Script of material
Language and script notes
Cymraeg, Saesneg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau 1998 yn LlGC.
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Project identifier
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Plaid Cymru -- Archives. (Subject)
- Plaid Cymru (Subject)
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Mehefin 2003.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd gan David Moore i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr Mân Restri a Chrynodebau 1998; Wyn, Ieuan, Cofio Dafydd Orwig (Caernarfon, 1997);