Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1911-2010 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Is-fonds
Maint a chyfrwng
10 bocs
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes bywgraffyddol
Gweinidog, bardd a golygydd oedd Thomas Eirug Davies a anwyd ar 23 Chwefror 1892 yng Ngwernogle, Sir Gaerfyrddin. Mynychodd Ysgol y Tremle, Pencader, cyn mynd i astudio ym Mhrifysgol Bangor gan raddio mewn athroniaeth yn 1916 a diwinyddiaeth yn 1919 yng Ngholeg Bala-Bangor. Dyfarnwydd iddo MA yn 1931 ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Fe’i ordeiniwyd yn weinidog yng Nghwmllynfell am saith mlynedd, 1919-1926, ac yn Eglwys Soar, Llanbedr Pont Steffan, ac Eglwys Bethel, Parc-y-rhos, 1926-1951. Priododd Jennie Thomas yn 1921. Ganwyd iddynt wyth o blant.
Bu’n olygydd Y Dysgedydd, 1943-1951. Yr oedd yn gystadleuydd brwd yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ennill ei wobr gyntaf am rieingerdd yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri yn 1920 a’r goron yn Aberafan yn 1932 a Chastell Nedd yn 1934. Enillodd wobr o £100 Syr John Edward Lloyd am ei draethawd ar Gwilym Hiraethog yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor a MA Prifysgol Cymru yn 1931. Bu’n feirniaid y goron bedair o weithiau yn eisteddfodau 1936, 1945, 1948 a 1950. Bu farw 27 Medi 1951 yn ei gartref yn Llanbedr Pont Steffan.
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Papurau T. Eirug Davies yn cynnwys ei ohebiaeth, dyddiaduron, barddoniaeth, a chyfansoddiadau a anfonodd i gystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Trefnwyd yn wyth cyfres.