fonds GB 0210 TREFIN - Papurau Trefin, Archdderwydd Cymru,

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 TREFIN

Teitl

Papurau Trefin, Archdderwydd Cymru,

Dyddiad(au)

  • 1914-1971 / (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.043 metrau ciwbig (25 bocs, 1 ffolder, 1 cyfrol).

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Ganwyd Edgar Phillips ('Trefin', 1889-1962) ar 8 Hydref 1889 yn Nhre-fin, sir Benfro, ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd Trefin yn un ar ddeg mlwydd oed, a mynychodd Ysgol Sloper Road yn y ddinas, lle cafodd gyfle i ddysgu elfennau sylfaenol y Gymraeg. Pedair blynedd yn ddiweddarach dychwelodd i Dre-fin yn brentis i deiliwr, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio fel teiliwr yn Nhreletert a Hendy Gwyn ar Daf. Ar yr un pryd meistrolodd gymhlethdodau astrus y gynghanedd. Yn 1912 aeth i weithio fel teiliwr yn Llundain cyn dychwelyd yn fuan i Gaerdydd i weithio fel prif deiliwr yn un o siopau mwyaf y ddinas, ac wedyn agorodd ei siop ei hun yn Awst 1914. Ymunodd Trefin â'r Royal Garrison Artillery yn 1915, daeth yn fagnelwr, ond cafodd ei glwyfo'n ddrwg iawn a threuliodd gyfnodau hir yn yr ysbyty. Yn 1921 aeth i Goleg Caerllion ar Wysg lle enillodd dystysgrif athro gydag anrhydedd. Bu'n athro Cymraeg yn ysgol gynradd Pengam o 1923 i 1924 pan gafodd ei benodi'n athro Cymraeg yn Ysgol Eilradd Pontllanfraith ac arhosodd yno weddill ei yrfa tan iddo ymddeol yn 1954. Yr oedd yn un o arloeswyr darlledu yn y Gymraeg. Yr oedd Trefin yn cystadlu'n rheolaidd mewn gwahanol eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Yn 1933, ac yntau eisoes wedi ennill 33 cadair a choron, enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a bu'n gwasanaethu fel Ceidwad y Cledd yng Ngorsedd y Beirdd o 1947 hyd 1960 pan gafodd ei benodi'n archdderwydd. Cyhoeddodd sawl cyfrol o'i farddoniaeth a bu farw ar 30 Awst 1962. Bu'n briod dair gwaith. Ei drydedd wraig, a briododd yn Hydref 1951, oedd Maxwell Fraser (Dorothy May Phillips (1902-1980)), yr awdures llyfrau taith adnabyddus. Cyhoeddwyd Cofiant Trefin gan Brinley Richards yn 1963.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Maxwell Fraser, gweddw Trefin; Cymynrodd; 1981

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r casgliad yn cynnwys papurau personol, rhai ohonynt ynglŷn â pharatoi a chyhoeddi cofiant Brinley Richards i Trefin yn 1963, nodiadau ar achau Trefin a chefndir y teulu a luniwyd gan Maxwell Fraser, llythyrau cydymdeimlad a dderbyniodd Maxwell Fraser yn dilyn marwolaeth Trefin ar 30 Awst 1962, papurau'n ymwneud â marwolaeth, angladd etc. Trefin; personalia, yn cynnwys dyddiaduron Trefin am ychydig flynyddoedd yn unig rhwng 1926 a 1962, llyfrau lloffion, copïau rhydd o dorion o'r wasg, papurau'n ymwneud â gyrfa proffesiynol Trefin rhwng 1923 a 1954, a chardiau cyfarch a dderbyniodd ar wahanol achlysuron; llythyrau cyffredinol, 1936-1962, a anfonwyd at Trefin, ynghyd â grwpiau o lythyrau a dderbyniodd ar adegau penodol, megis ar ennill y Gadair yn Wrecsam yn 1933, ar ei briodas â Maxwell Fraser yn 1951, ac ar gael ei ddewis yn Archdderwydd Cymru yn 1959, ynghyd a grŵp o lythyrau Trefin at Maxwell Fraser, 1948-1962; papurau'n ymwneud â'r Orsedd a'r Eisteddfod, 1923-1962, copïau drafft a theipysgrif o waith llenyddol a chyhoeddiadau Trefin, gan gynnwys cerddi, pregethau, storïau byrion, sgriptiau radio, dramâu, erthyglau i gylchgronau, areithiau ac anerchiadau, a chyfieithiadau o lyfrau taith Maxwell Fraser; papurau'n ymwneud ag ymchwil Trefin ar Aneurin Fardd, 1957-1965, Edmund Jones, 1958-1962, ac ar gyfer Presenting Monmouthshire, 1963-1971; llyfrau nodiadau Trefin yn cynnwys nodiadau academaidd; llyfrau nodiadau'n cynnwys nodiadau a gymerodd Eluned Phillips yn yr ysgol a'r coleg; papurau amrywiol, 1876-1955; eitemau printiedig, 1928-1961, gwahanlithoedd a chopïau printiedig o ddeunydd gan Trefin yn bennaf; ac eitemau printiedig amrywiol, 1898-1960. = The collection comprises personal papers, some relating to the preparation and publication of the biography of Trefin by Brinley Richards in 1963, notes on Trefin's ancestry and family background prepared by Maxwell Fraser, sympathy letters sent to Maxwell Fraser following Trefin's death on 30 August 1962, papers relating to Trefin's death, funeral etc.; personalia, including Trefin's diaries for only a few years between 1926 and 1962, scrapbooks, loose press cuttings, papers concerning Trefin's professional career as a teacher between 1923 and 1954, and greetings cards which he had received on various occasions; general letters, 1936-1962, addressed to Trefin, together with groups of letters on specific occasions, such as winning the chair at Wrexham in 1933, on his marriage to Maxwell Fraser in 1951, and on his selection to be archdruid of Wales in 1959, together with a group of letters, 1948-1962, from Trefin to Maxwell Fraser; papers concerning the Gorsedd and the Eisteddfod, 1923-1962; drafts and typescripts of Trefin's writings and publications, including poems, sermons, short stories, radio scripts, plays, articles for journals, speeches and addresses, and translations of Maxwell Fraser's travel writings; papers relating to Trefin's researches on Aneurin Fardd, 1957-1965, Edmund Jones, 1958-1962, and for Presenting Monmouthshire, 1963-1971; Trefin's notebooks bearing academic notes; notebooks containing school and college notes taken by Eluned Phillips; miscellaneous papers, 1876-1955; printed items, 1928-1961, mainly offprints and printed copies of material written by Trefin; and miscellaneous printed items, 1898-1960.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Action: Cadwyd yr holl bapurau.

Croniadau

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd fel a ganlyn: deunydd cofiannol; personalia; gohebiaeth; yr Eisteddfod a'r Orsedd; Cyfansoddiadau Trefin; Aneurin Fardd; Edmund Jones; Presenting Monmouthshire; lyfrau nodiadau Trefin, llyfrau nodiadau Eluned Phillips; papurau amrywiol; deunydd printiedig; a deunydd printiedig amrywiol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg, Saesneg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Mae copi caled o'r catalog ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ceir mynediad i'r catalog ar lein.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Cyflwynodd Trefin ei bapurau ymchwil ar Aneurin Fardd i LlGC yn 1951 (dynodwyd yn NLW MS 15239D). Ceir llawysgrifau o weithiau llenyddol Trefin hefyd ym mocs 38 ym Mhapurau Brinley Richards yn LlGC. Mae papurau Maxwell Fraser, gweddw Trefin, hefyd yng ngofal LlGC.

Disgrifiadau cysylltiedig

Nodyn cyhoeddiad

Brinley Richards, Cofiant Trefin (Abertawe, 1963).

Ardal nodiadau

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004645901

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad, rheolau AACR2; ac LCSH

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Awst 2006.

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan J. Graham Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: LlGC, Rhestr o Bapurau Trefin, Archdderwydd Cymru, 1994; The Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain: Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 2001), tt. 207-08;

Ardal derbyn