Fonds GB 0210 CAEWIL - Papurau'r Athro J. E. Caerwyn Williams

Identity area

Reference code

GB 0210 CAEWIL

Title

Papurau'r Athro J. E. Caerwyn Williams

Date(s)

  • [1854 x 1999] (crynhowyd [1930 x 1999]) (Creation)

Level of description

Fonds

Extent and medium

1.6 metrau ciwbig (55 bocs, 1 rhôl)

Context area

Name of creator

(1912-1999)

Biographical history

Roedd yr Athro J. E. Caerwyn Williams (1912-1999) yn un o brif ysgolheigion Cymraeg a Cheltaidd yr ugeinfed ganrif.

Fe'i ganwyd yng Ngwauncaegurwen, Morgannwg, 17 Ionawr 1912, yr hynaf o dri phlentyn John R. a Maria Williams. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sir Ystalyfera, Coleg y Brifysgol, Bangor, Coleg y Brifysgol a Choleg y Drindod, Dulyn, a Cholegau Diwinyddol Aberystwyth a'r Bala. Ymunodd â staff Adran y Gymraeg, Bangor, yn 1945, a'r flwyddyn ganlynol fe'i priodwyd â Gwen Watkins o Abertridwr. Fe'i penodwyd yn Athro'r Gymraeg ym Mangor yn 1953. Yn 1965 symudodd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i fod yn Athro cyntaf yr Wyddeleg ym Mhrifysgol Cymru. Cafodd radd D.Litt.Celt.Er Anrhydedd gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon yn 1967 a Phrifysgol Cymru yn 1983, a'i ethol yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1978 ac yn Aelod Mygedol o Academi Frenhinol Iwerddon yn 1989. Fe'i etholwyd yn Llywydd yr Academi Gymreig yn 1988. Ar ôl ymddeol yn 1979 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Arhosodd yn y swydd honno tan 1985. Bu farw 8 Mehefin 1999.

Yr oedd yn awdurdod ar y gwareiddiad Celtaidd ac ysgrifennodd yn helaeth am draddodiadau llenyddol Cymru ac Iwerddon. Ymhlith ei brif gyfraniadau fel ysgolhaig Cymraeg mae ei astudiaethau ar y Gogynfeirdd a llenyddiaeth grefyddol yr Oesoedd Canol, gan gynnwys Beirdd y Tywysogion (1973), Canu Crefyddol y Gogynfeirdd (1977) a The Poets of the Welsh Princes (1978). Ysgrifennodd hefyd ar lenyddiaeth mwy diweddar Cymru, gan gynnwys ei astudiaethau o waith Edward Jones, Maes-y-Plwm, geiriadurwyr Cymraeg cyfnod y Dadeni, John Morris-Jones a'i gylch, ac amryw o'r prif lenorion cyfoes, megis Syr T. H. Parry-Williams, Waldo Williams a Saunders Lewis. Fel ysgolhaig Gwyddeleg ei brif gyfraniadau oedd Traddodiad Llenyddol Iwerddon (1958), Y Storïwr Gwyddeleg a'i Chwedlau (1972) a The Court Poet in Medieval Ireland (1972). Roedd yn gyd-awdur The Irish Literary Tradition (1992). Cyhoeddodd gyfieithiadau o storïau Gwyddeleg a Llydaweg, ynghyd ag astudiaethau ieithyddol ar yr ieithoedd hyn a'r Gymraeg. Yn ogystal â golygu cyfrolau fel Llên a Llafar Môn (1963), Llên Doe a Heddiw (1964) a Literature in Celtic Countries (1971), bu'n olygydd Y Traethodydd ac Ysgifau Beirniadol o 1965 ymlaen, Studia Celtica o 1966 a chyfres Llên y Llenor o 1983. Bu'n olygydd ymgynghorol Geiriadur Prifysgol Cymru er 1968, ac yn olygydd Llyfryddiaeth yr Iaith Gymraeg (1988) a Gwaith Meilyr Brydydd a'i ddisgynyddion (1994).

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Rhodd gan y ddiweddar Mrs Gwen Caerwyn Williams, Aberystwyth, gweddw'r Athro J. E. Caerwyn Williams, Tachwedd 1999; A1999/142.

Content and structure area

Scope and content

Mae'r fonds yn cynnwys papurau, [1854 x 1999], yn ymwneud â gwahanol agweddau ar ei fywyd a'i waith, yn Athro'r Gymraeg a Gwyddeleg, yn awdur, cyfieithydd a golygydd. Ceir hefyd peth gohebiaeth a rhai papurau personol.

Appraisal, destruction and scheduling

Dinistriwyd tystlythyrau ymgeiswyr am swyddi; papurau arholiad myfyrwyr; papurau arholiad (printiedig); rhestri marciau arholiad; a drafftiau o erthyglau a gynigiwyd i'r Traethodydd, &c., y gwyddys i sicrwydd iddynt gael eu cyhoeddi.

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau.

System of arrangement

Trefnwyd yn LlGC yn dri grŵp: papurau ymchwil, [1854 x 1999]; cyhoeddiadau a darlithoedd, [1930 x 1999]; a gohebiaeth, papurau personol ac amrywiol, [1899 x 1999].

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

  • Welsh
  • English
  • iri
  • Breton

Script of material

Language and script notes

Cymraeg, Saesneg, Gwyddeleg, Llydaweg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Mae rhestr fanwl o gynnwys pob bocs ar gael yn LlGC, Papurau'r Athro J. E. Caerwyn Williams, bocs 1.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Mae llawysgrif Gernyweg yn NLW MS 23849D; ffotograffau amrywiol yn LlGC, Isadran Casgliadau Arbennig; a llyfrau a deunydd printiedig perthynol yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Aberystwyth.

Related descriptions

Notes area

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls004130503

GEAC system control number

(WlAbNL)0000130503

Access points

Subject access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Rules and/or conventions used

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Mai 2002.

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: R. Geraint Gruffydd, 'J. E. Caerwyn Williams (1912-1999)', yn Y Traethodydd, cyfrol CLIV, rhif 651 (1999); Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1997); Who's Who (1983)

Archivist's note

Lluniwyd gan Barbara Davies.

Accession area