fonds GB 0210 RDWAMS - Papurau'r Parch. R. Dewi Williams,

Identity area

Reference code

GB 0210 RDWAMS

Title

Papurau'r Parch. R. Dewi Williams,

Date(s)

  • 1897-1956 / (Creation)

Level of description

fonds

Extent and medium

0.029 metrau ciwbig (1 bocs; 14 eitem)

Context area

Name of creator

Biographical history

Yr oedd y Parch. Robert Dewi Williams (1870-1955), Rhuddlan, sir y Fflint, yn weinidog gyda'r Presbyteriaid, yn brifathro a llenor. Cafodd ei eni ym Mhandytudur, sir Ddinbych, a mynychodd Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a Choleg Iesu, Rhydychen. Bu'n weinidog Cesarea, Llandwrog, a Jerusalem, Penmaen-mawr, y ddau yn sir Caernarfon, 1898-1917. Aeth wedyn yn brifathro Ysgol Clynnog, 1917-1929, a Choleg Clwyd, Y Rhyl,1929-1939. Aeth i Ruddlan, sir y Fflint i ymddeol yn 1939. Yr oedd yn awdur storïau byrion, a gynhwyswyd yn y gyfrol Clawdd Terfyn, straeon a darluniadau (Conwy,1912) a Dyddiau Mawr Mebyd (LLundain,1973, casgliad o erthyglau a luniwyd ar gyfer Y Drysorfa. Priododd Helena Jones Davies yn 1908, a bu farw 25 Ionawr 1955.

Archival history

Immediate source of acquisition or transfer

Mrs J. Lumley Williams,; Rhuddlan,; Rhodd,; Rhagfyr 1985

Content and structure area

Scope and content

Papurau'r Parch. R. Dewi Williams, yn cynnwys storïau a thraethawd nas cyhoeddwyd, [1890x1955]; nodiadau, gan RDW, ar hanes ei deulu,1948; darluniadau gan RDW ac eraill, rhai'n ymwneud â Clawdd Terfyn, [1912]; llyfrau lloffion yn cynnwys torion papur newydd, llythyrau ac erthyglau, darluniadau a chartwnau'n ymwneud ag RDW,1902-1955; lluniau teuluol,1897-1953; a chopi o Y Blwyddiadur,1956, yn cynnwys ei ysgrif goffa = Papers of the Rev. R. Dewi Williams, comprising unpublished stories and an essay, [1890x1955]; notes, by RDW, on his family history, 1948; drawings by RDW and others, some relating to Clawdd Terfyn, [1912]; scrapbooks containing newspaper cuttings, letters and articles, drawings, and cartoons, relating to RDW, 1902-1955; family photographs, 1897-1953; and Y Blwyddiadur, 1956, containing his obituary.

Appraisal, destruction and scheduling

Action: Cadwyd yr holl gofnodion a gyflwynwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru..

Accruals

Ni ddisgwylir ychwanegiadau

System of arrangement

Trefnwyd yn ôl y math o ddeunydd.

Conditions of access and use area

Conditions governing access

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Conditions governing reproduction

Amodau hawlfraint arferol.

Language of material

Script of material

Language and script notes

Cymraeg, Saesneg.

Physical characteristics and technical requirements

Finding aids

Ceir copi caled o'r catalog yn Mân Restri a Chrynodebau 1986,t. 85, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r catalog ar gael ar lein.

Allied materials area

Existence and location of originals

Existence and location of copies

Related units of description

Related descriptions

Notes area

Note

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif. Mae copi o Y Blwyddiadur a oedd ymysg y papurau yn ôl-ddyddio ei farwolaeth, ac yn cynnwys ei ysgrif goffa.

Alternative identifier(s)

Virtua system control number

vtls003844891

Project identifier

ANW

Access points

Place access points

Genre access points

Description control area

Description identifier

Institution identifier

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rules and/or conventions used

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH.

Status

Level of detail

Dates of creation revision deletion

Mehefin 2003

Language(s)

  • Welsh

Script(s)

Sources

Archivist's note

Lluniwyd gan Rhys Jones i brosiect ANW. Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mân Restri a Chrynodebau 1986; Dictionary of Welsh Biography, 1941-1970 (Llundain, 2001).

Accession area