Fonds GB 0210 BBC - Archif Sgriptiau BBC Scripts Archive

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 BBC

Teitl

Archif Sgriptiau BBC Scripts Archive

Dyddiad(au)

  • 1931-2010 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Fonds

Maint a chyfrwng

2200 o flychau

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

(1923-)

Hanes gweinyddol

Sefydlwyd y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (sydd yn fwy adnabyddus fel y BBC), gyda'i chanolfan yn Broadcasting House, Portland Square, Llundain, trwy Siarter Frenhinol yn 1927, gydag awdurdod i ddarparu gwybodaeth, i addysgu ac i ddiddanu ei chynulleidfa ar draws nifer fawr o feysydd yn cynnwys materion cyfoes, y celfyddydau a diwylliant, addysg, crefydd a chwaraeon. Derbyniodd ei rhagflaenydd, y Cwmni Darlledu Prydeinig, ei drwydded i ddarlledu yn 1923, a dechreuodd y gwasanaeth darlledu cyhoeddus yng Nghymru yr un flwyddyn pan agorwyd gorsaf radio yng Nghaerdydd, gan ddarparu rhaglenni yn y Gymraeg a Saesneg. Derbyniodd Rhanbarth Cymru y BBC ei thonfedd arbennig ei hun ar gyfer darllediadau sain ym 1937, a rhoddwyd tonfedd arall ar wahân iddi ym 1964 ar gyfer darllediadau teledol; adnabyddir y Rhanbarth Cymreig yn BBC Wales ers hynny. Cafodd rhaglenni Cymraeg eu darlledu gyntaf ar y teledu yn 1953, a darlledir darpariaeth ddyddiol ers 1957; mae'r sianel Gymraeg yn cael ei hadnabod fel BBC Cymru. Bu'r gorsafoedd radio Saesneg a Chymraeg (Radio Wales a Radio Cymru) yn unedau ar wahân ers 1977. Erbyn hyn, adnabyddir y BBC yng Nghymru yn ei chyfanrwydd - yn cynnwys BBC Wales, BBC Cymru, Radio Wales a Radio Cymru - fel BBC Cymru Wales hefyd.

Hanes archifol

Cedwid pob un o'r sgriptiau yn Rhodd 2019 a tua hanner o'r sgriptiau yn Adneuon 1960-1998 ym meddiant y BBC yng Nghaerdydd nes iddynt gael eu trosglwyddo i LlGC. Cadwyd blychau 1-505 o Adneuon 1960-1998 - y blychau cyntaf i gyrraedd y Llyfrgell - yng Nghanolfan Archifau Ysgrifenedig y BBC yn Caversham, Berkshire, cyn eu trosglwyddo, a cadwyd y sgriptiau ym mlychau 506-507 o'r un grwp ym meddiant unigolion preifat cyn eu trosglwyddo.

Ffynhonnell

BBC Wales; Adneuon 1960-1998 (gweler Adroddiadau Blynyddol LlGC 1960, 1961, 1962, 1963, 1964, 1967, 1968, 1969, 1970, 1971, 1972, 1973, 1975, 1978, 1980, 1984. 1989, 1994, 1997 a 1999); Rhodd 2019

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Sgriptiau radio a theledu, 1931-2010, a ddarlledwyd neu yr oedd bwriad eu darlledu gan y BBC yng Nghymru.
Gweler 'Cymhorthion Chwilio' isod ar gyfer manylion am sut i weld ac archebu deunydd o rannau gwahanol o'r archif.

Rhybudd Cynnwys: Mae’r archif yn cynnwys rhywfaint o ddeunydd hanesyddol a all beri gofid neu dramgwydd, gan gynnwys iaith ac agweddau gwahaniaethol. Mae hi hefyd yn cynnwys deunydd nad yw’n addas i blant.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Mae pob sgript a dderbyniwyd gan LlGC wedi cael ei gadw.

Croniadau

Disgwylir ychwanegiadau.

System o drefniant

Trefnwyd yn ol dyddiad derbyn gan y Llyfrgell fel a ganlyn: Adneuon 1960-1998 Deposits; Rhodd 2019 Donation

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Warchod Data 2018 a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Gwaherddir defnyddio cynnwys y BBC yn llwyr heb ganiatâd. Dylid cyfeirio ceisiadau am ganiatâd i ddefnyddio sgriptiau at Ganolfan Archifau Ysgrifenedig y BBC (BBC Written Archives Centre). Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Saesneg a Chymraeg

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Adneuon 1960-1998
Dylai darllenwyr sydd am chwilio'r rhan yma o'r archif fynd i 'Finding Aids' o dan Adneuon 1960-1998 Deposits er mwyn gweld a chwilio'r catalog ar ffurf nifer o pdfs. Nid oes modd gweld na chwilio'r catalog arlein heb ddefnyddio'r pdfs. Mae copi caled ar gael yn yr Ystafell Ddarllen.

Rhodd 2019
Gall darllenwyr chwilio ac archebu dogfennau o'r rhan yma o'r archif trwy ddefnyddio'r catalog arlein yn y modd arferol. Mae modd hefyd gweld a chwilio cronfa ddata llawn y BBC ei hun ar gyfer y rhan yma o'r archif.yn 'Finding Aids' o dan Rhodd 2019 Donation OND NII DDYLID ARCHEBU DEUNYDD O'R GRONFA DDATA HONNO OS YDY HI'N BOSIBL I ARCHEBU' TRWY'R CATALOG ARFEROL.

Cymorth chwilio a gynhyrchir

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Yn ogystal a sgriptiau, mae Rhodd 2019 yn cynnwys 172 o focsys o gofnodion corfforaethol y BBC, sef: 115 o focsys o 'Press and Publicity', 'Audience Research', 'Marketing and Events', 'Education', 'Teachers' notes (Radio)', 'Aberystwyth', 'Wales Document Archives' a 'Miscellaneous'; a 57 o focsys o 'programmes as completed' a 'programmes as broadcast'. Nid yw'r rhain wedi cael eu catalogio hyd yn hyn.

Derbyniodd y Llyfrgell tua mil o flychau 'Ffeiliau'r Cynhyrchwyr' ym 1999. Dychwelwyd rhyw 33 o'r rhain i'r BBC yn 2001, ac fe dad-dderbyniwyd y gweddill yn 2017-2018 a'u trosglwyddo i Ganolfan Archifau Ysgrifenedig y BBC yn Caversham, sydd yn cadw llawer o gofnodion corfforaethol y BBC.

Ceir llawer o sgriptiau gwreiddiol a chopiau o sgriptiau ar gyfer rhaglenni BBC ymhlith papurau eu hawduron, ynghyd a nodiadau, drafftiau a gohebiaeth perthynol.

Cedwir ffotograffau'r BBC yng nghasgliad ffotograffyddol y Llyfrgell.

Cedwir ffilmiau, fideos a recordiadau sain o ddarllediadau yn Archif Ddarlledu Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Disgrifiadau cysylltiedig

Nodyn cyhoeddiad

Fe ddarlledwyd bron pob un o'r rhaglenni yr ysgrifennwyd y sgriptiau yma ar eu cyfer. Ceir manylion darllediadau unigol mewn disgrifiadau ffeil mewn llawer iawn o achosion.

Ardal nodiadau

Nodiadau

Cyfeirier at: Archif Sgriptiau BBC Scripts Archive

Nodiadau

Crëwyd y teitl ar sail cynnwys yr archif.

Nodiadau

Mae llawer o'r archif heb ei chatalogio o hyd.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Alma system control number

994609710202419

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Sgriptiau BBC Scripts

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio y disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau RDA NACO; ac LCSH

Statws

Final

Lefel manylder disgrifiad

Full

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

1986-2024

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg
  • Saesneg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Defnyddiwyd y ffynonellau canlynol wrth lunio'r rhestr: papurau o fewn yr archif; 'manifests' a ddarparwyd gan y BBC; gwefan y BBC (www.bbc.co.uk), edrychwyd Ionawr 2003; Davies, John, Broadcasting and the BBC in Wales (University of Wales; Cardiff, 1994).

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd y disgrifiad gan Dafydd Ifans, Ann Goddard, Emma Towner a David Moore.

Ardal derbyn

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig