Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- [1960x1990] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 amlen
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Ysgrif deipysgrif anghyflawn yn dwyn y teitl 'Two Grandfathers' gan, yn ôl pob tebyg, Jean Hunt (gynt Ware, ganed Jones) (gweler Coeden deulu Syr Henry Jones dan bennawd Angharad Williams (née Jones)). 'Roedd Jean Hunt yn wyres i'r athronydd Syr Henry Jones, ewyrth Angharad, ac i'r microsgopydd a'r bacteriolegwr Dr Griffith Evans, tad ei mam, Mair Olwen Jones (née Evans).
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Ambell air/ymadrodd Cymraeg.
Nodiadau
Ganed Henry Jones yn Llangernyw, Sir Ddinbych, yn frawd i John Jones, tad Angharad Williams (née Jones), mam Waldo Williams, a'i brentisio'n ddeuddeg oed i'w dad, a oedd yn grydd. Yn ddiweddarach, mynychodd y Coleg Normal, Bangor. Yn ugain oed, fe'i penodwyd i swydd prifathro Ysgol Elfennol Brynaman, Sir Gaerfyrddin, cyn newid cyfeiriad i ddilyn cwrs hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth (Methodistiaid Calfinaidd) o 1875 hyd 1878 ym Mhrifysgol Glasgow, lle'i dylanwadwyd gan yr hanesydd a'r athronydd Albanaidd Thomas Carlyle (1795-1881). Ym 1882, priododd Annie Walker, a'r un flwyddyn fe'i penodwyd yn ddarlithydd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Glasgow. Penodwyd yn Athro mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor ym 1884, ac, ym 1891, i'r un swydd ym Mhrifysgol St Andrews, cyn ei benodi'n Athro mewn Athroniaeth Foesol ym Mhrifysgol Glasgow o 1894 hyd blwyddyn ei farwolaeth ym 1922. 'Roedd Henry Jones yn awdur sawl cyhoeddiad yn ymwneud ag athroniaeth a chrefydd ac yn dderbynnydd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys Medal y Cymmrodorion ym 1922. Fe'i urddwyd yn Farchog ym 1912.
Ganed Griffith Evans yng Nhywyn, Meirionnydd a'i addysgu yn y Royal Veterinary College, Llundain. Bu hefyd yn ddisgybl i John Pugh (Ioan ab Hu Feddyg). Ymaelododd fel milfeddyg yn y Royal Artillery ym 1860, a phan sefydlodd y gatrawd yng Nghanada ym 1861, ymaelododd yn adran feddygol Prifysgol McGill, gan raddio ym 1864. Tra'n archwilio clefydau yn y Punjab, India, llwyddodd i ddarganfod math newydd o feicrob oedd yn achosi clefyd mewn ceffylau a chamelod, ac a alwyd yn Trypanosoma Evansi ar ei ôl. Ym 1870, priododd Griffith Evans â Catherine Mary Jones o Lanfair Caereinion. Derbyniodd Fedal Mary Kingsley ym 1917 am ei wasanaeth ymchwil mewn clefydau trofannol a gradd DSc (Cymru) (er anrhydedd) ym 1919.