Ardal dynodi
Math o endid
Person
Ffurf awdurdodedig enw
Williams, Ffowc, of Llandudno.
Ffurf(iau) cyfochrog enw
Ffurf(iau) safonol o enw yn ôl rheolau eraill
Ffurf(iau) arall o enw
Dynodwyr ar gyfer cyrff corfforaethol
Ardal disgrifiad
Dyddiadau bodolaeth
Hanes
Yr oedd Ffowc Williams, o Landudno, sir Gaernarfon, yn brifathro Ysgol Ganol Llandudno, 1933-1954. Derbyniodd radd MA gan Brifysgol Cymru am ei draethawd ymchwil, 'The educational aims of pioneers in elementary Welsh education, 1730-1870' yn 1929. Bu'n cynnal dosbarthiadau ar y pwnc hwn yn 1942 ac ar Seicoleg yn 1931 a 1938. Yn y 1960au a'r 1970au bu'n gwasanaethu ar Gyd bwyllgor Addysg Cymru a Phwyllgor Cymru'r Cyngor Ysgolion. Yr oedd yn ddarlledwr cyson ar y radio ar sioe banel 'Byd Natur' rhwng 1952 a 1972. Yr oedd yn aelod gweithgar o adrannau Llandudno a'r Cylch a Dyffryn Conwy o Undeb Cymru Fydd yn y 1940au, ac yn aelod o bwyllgor Aelwyd Llandudno o Urdd Gobaith Cymru. Yr oedd hefyd yn aelod o Eglwys yr Annibynwyr, Deganwy Avenue, Llandudno, yn aelod o sawl bwyllgor ar gerddoriaeth eglwysig, a chasglodd deunydd yn ymwneud â gŵyl gerddorol 'Y Gymanfa Fawr', sef Cymanfa Gerddorol Annibynwyr Sir Gaernarfon.