Ffeil NLW ex 3108 - Y Mynach a'r Sant

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

NLW ex 3108

Teitl

Y Mynach a'r Sant

Dyddiad(au)

  • 1928-1929 (Creation)

Lefel y disgrifiad

Ffeil

Maint a chyfrwng

1 gyfrol.

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes bywgraffyddol

Yr oedd David James Jones (Gwenallt, 1899-1968) yn fardd ac ysgolhaig. Ganwyd ef yn Alltwen, Pontardawe, Morgannwg, ar 18 Mai 1899. Addysgwyd ef ym Mhontardawe ac Ysgol y Sir Ystalyfera. Treuliodd y cyfnod Mehefin 1917 hyd Mai 1919 yng ngharchar fel gwrthwynebydd cydwybodol. Ar ôl cael ei ryddhau aeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gan raddio mewn Cymraeg a Saesneg. Yma cyfarfu ag Idwal Jones (1895-1937), y dramodydd a diddanwr. Bu'n athro Cymraeg yn y Bari cyn dychwelyd i Aberystwyth yn 1927 yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, gan ddod yn ddarlithydd hŷn ac yna'n ddarllenydd. Enillodd radd M.A. yn 1929. Ymysg ei diddordebau ymchwil yr oedd bywyd y saint, ysgol farddol diwedd yr oesoedd canol, a barddoniaeth y ddeunawfed ganrif, ond ei brif waith oedd ar hanes llenyddiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymysg ei weithiau ysgolheigaidd mae Yr Areithiau Pros (Caerdydd, 1934), Blodeugerdd o'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1936), Y Ficer Pritchard a 'Cannwyll y Cymry' (Caernarfon: Cwmni'r Llan, 1946) a chofiant Idwal Jones (Aberystwyth, 1958). Ymddeolodd yn 1966. Fel bardd cafodd gryn lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ennill y Gadair yn 1926 ar 'Y Mynach' ac yn 1931 ar 'Breuddwyd y Bardd'. Cyhoeddodd sawl gyfrol o farddoniaeth: Ysgubau'r Awen (Llandysul, 1939), Cnoi Cil (Aberystwyth, 1942), Eples (Llandysul, 1951), Gwreiddiau (Aberystwyth, 1959) a Coed (Llandysul, 1969).

Hanes archifol

Ffynhonnell

Dr Rhidian Griffiths; Aberystwyth; Rhodd; Chwefror 2024.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Copi o'r gyfrol, 'Y Mynach a'r Sant': dwy awdl gan D. Gwenallt Jones (Llandysul, 1928). Cyflwynwyd y copi hwn i D. Ernest Williams, Pontardawe, 12 Ebrill 1929, a cheir ynddo englyn cyfarch yn llaw Gwenallt.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

System o drefniant

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau modern yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydymffurfio â Deddf Gwarchod Data 2018 yng nghyd-destun unrhyw brosesu ganddynt o ddata personol a gasglwyd o gofnodion modern sydd ar gadw yn y Llyfrgell. Nodir y manylion yn yr wybodaeth a roddir wrth wneud cais am Docyn Darllen.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg.

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Nodiadau

Teitl gwreiddiol.

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Alma system control number

995076403402419

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Enw

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Llyfrgell Genedlaethol Cymru = National Library of Wales

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Description follows NLW guidelines based on ISAD(G) 2nd ed.; AACR2; and LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Ceri Evans, Mai 2024.

Ardal derbyn

Pynciau cysylltiedig

Pobl a sefydliadau cysylltiedig

Genres cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig

Storfa ffisegol

  • Text: NLW ex 3108