Identity area
Type of entity
Authorized form of name
Parallel form(s) of name
Standardized form(s) of name according to other rules
Other form(s) of name
Identifiers for corporate bodies
Description area
Dates of existence
History
Un nod a osododd yr Academi iddi hi ei hun yn bur fuan yn ei hanes oedd sicrhau bod clasuron tramor yn cael eu cyfieithu i Gymraeg. Cyhoeddwyd y cyfieithiad cyntaf, o waith Camus, ym 1972. Fodd bynnag fe alwodd yr Academi, dan gadeiryddiaeth Harri Pritchard Jones, ar y cyd รข Chymdeithas Emrys ap Iwan, dan gadeiryddiaeth Ned Thomas, gyfarfod ym mis Mawrth 1975 i geisio sefydlu Canolfan Cyfieithu i Gymru gan geisio ennyn cefnogaeth gwahanol gymdeithasau a sefydliadau Cymraeg. Ychydig o effaith a gafodd hynny ond ymhen ychydig, ym mis Ebrill 1977, fe gyfarfu Is-bwyllgor Cyfieithiadau'r Academi am y tro cyntaf. Aelodau'r Pwyllgor gwreiddiol oedd Bruce Griffiths, Bobi Jones, Gwyn Thomas, Islwyn Ffowc Elis a D. Myrddin Lloyd. Eu nod oedd cynhyrchu cyfres o gyfieithiadau Cymraeg o ryddiaith a barddoniaeth Ewropeaidd gan benodi swyddog cyflogedig i fod yn gyfrifol am y gwaith. Ni phenodwyd swyddog ac fe gychwynwyd ar y gwaith trwy ganolbwyntio ar y gyfres farddoniaeth dan olygyddiaeth D. Myrddin Lloyd.