Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1920, 1963-1983 (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 amlen
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Cardiau post at Dilys Williams gan amryw aelodau teuluol a chyfeillion, gan gynnwys ei chwaer Mary [Francis, née Williams], ei modryb Mwyn[lan Mai Edmond (née Jones)], Benni ac Elsie Lewis a'r Chwaer Bosco (Nora Gabriel Costigan).
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Cymraeg
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
'Roedd y lleian Wyddelig y Chwaer Bosco (Nora Gabriel Costigan) yn brifathrawes Ysgol y Fair Ddihalog yn Hwlffordd. Dysgodd Gymraeg yn un o ddosbarthiadau nos Waldo Williams, a daeth yn gyfaill agos i'r bardd hyd ddiwedd ei oes.
Ganed Mary Enid Margaret Williams ym 1903, yn ail blentyn i John Edwal ac Angharad Williams (née Jones) ac yn chwaer hŷn i Waldo Williams. Wedi marw ei gŵr, Jack Francis, ym 1957, bu Waldo'n lletya yn ei chartref am rai blynyddoedd. Bu farw Mary ychydig fisoedd ar ôl Waldo ym 1971.
Ganed Mwynlan Mai Edmond (née Jones) yng Nghaernarfon ym 1897, yn blentyn ieuengaf i John a Margaret Jones ac yn chwaer i Angharad Williams (née Jones), mam Dilys Williams. Fe'i haddysgwyd yn y Coleg Normal, Bangor. Fel ei nith, Dilys, cadwodd Mwynlan gofnod manwl o'i theulu (gw. Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 39).
Pan gafodd Dilys Williams swydd athrawes yn Ysgol Wdig, bu'n lletya am flynyddoedd lawer yng nghartref Benni Lewis a'i briod Elsie yn Glasfryn, Llanwnda, Wdig. Tra buont byw, bu Benni ac Elsie Lewis yn gyfeillion triw i Dilys a'i brawd Waldo.