Academi Gymreig

Ardal dynodi

Math o endid

Corporate body

Ffurf awdurdodedig enw

Academi Gymreig

Ffurf(iau) cyfochrog enw

Ffurf(iau) safonol o enw yn ôl rheolau eraill

Ffurf(iau) arall o enw

Dynodwyr ar gyfer cyrff corfforaethol

Ardal disgrifiad

Dyddiadau bodolaeth

Hanes

Er i'r syniad o sefydlu cymdeithas genedlaethol i lenorion Cymru gael ei drafod cyn 1939 fe gododd ei ben eto rhwng 1956 a 1958 mewn sgyrsiau rhwng Bobi Jones a Waldo Williams. Ar ôl i'r ddau drafod nifer o enwau posibl gwahoddwyd cnewyllyn o lenorion i Westy'r Marine, Aberystwyth, ar 3 Ebrill 1959 i drafod y syniad o sefydlu Yr Academi Gymreig. Yn enw Bobi Jones y gyrrwyd y gwahoddiadau gwreiddiol a hynny at Kate Roberts, Gwenallt, Waldo, Aneirin Talfan Davies, Pennar Davies a Thomas Parry. Awgrymodd yr hanner dwsin hyn y dylid ychwnaegu enwau Euros Bowen, Islwyn Ffowc Elis, Alun Llywelyn-Williams a John Gwilym Jones at y rhestr. Ystyriwyd y cyfarfod cyntaf hwnnw, a'r ail ar 5 Medi 1959, yn gyfarfodydd 'rhag-bwyllgor' i'r Academi Gymrieg, cymdeithas gyfyngedig o bedwar ar hugain o lenorion. Yng Ngwesty'r Parc, Caerdydd y cynhaliwyd cyfarfod swyddogol cyntaf yr Academi Gymreig a hynny ar 22 a 23 Ebrill 1960. Yn y cyfarfod cyntaf hwn yr etholwyd G. J. Williams yn llywydd, Iorwerth Peate yn gadeirydd, Bobi Jones yn ysgrifennydd a Gwilym R. Jones yn drysorydd. Yn yr un cyfarfod penderfynwyd sefydlu'r cylchgrawn Taliesin dan olygyddiaeth Gwenallt.

Dewiswyd yr enw 'Cymreig' yn hytrach na 'Chymraeg' oherwydd bod y rhai a oedd yn y 'rhag-bwyllgor' cyntaf oll yn awyddus i weld yr Academi, unwaith y byddai wedi cael ei thraed dani, yn mynd i gyfeiriadau eraill gan gynnwys croesawu llenorion Saesneg Cymru i'w rhengoedd. Ni ddigwyddodd hynny am bron i ddeng mlynedd. Ar 10 Ebrill 1968 y cafwyd cyfarfod ar y cyd â nifer o lenorion Eingl-Gymreig yn Abertawe pryd y penderfynwyd y byddid yn sefydlu adran iaith Saesneg i'r Academi ond gan gadw'r enw Academi Gymreig gan nad oedd modd ei gyfieithu i'r Saesneg.

Dau weithgaredd cyntaf yr Academi oedd cynnal cynadleddau a sefydlu'r cylchgrawn Taliesin. Aethpwyd ymlaen i drefnu cyfres o gyfieithiadau i'r Gymraeg o glasuron Ewropeaidd, geiriadur Saesneg-Cymraeg yr Academi, a'r cynllun clasuron i drefnu ailgyhoeddi nifer o glasuron llenyddiaeth Gymraeg. Yn ogystal â hyn mae'r Academi'n trefnu gweithgareddau eraill megis nosweithiau i goffáu awduron, cynadleddau ac ymweliadau rhyngwladol, teithiau llenyddol, gwobrau a chystadleuthau a chyrsiau preswyl ar wahanol agweddau o ysgrifennu creadigol.

Parhaodd yr Academi yn gorff annibynnol ond dechreuodd dderbyn nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru tua 1977 a'i galluogodd i benodi staff llawn amser a gadarnhaodd y twf a fu yn ogystal â chychwyn cynlluniau newydd. Rhai a fu ynghlwm â gweinyddu'r ochr Gymraeg oedd Gwerfyl Pierce Jones, Gwynn ap Gwilym Ann Beynon a Sian Ithel.

Ym 1998 enillodd yr Academi y cytundeb gan Gyngor Celfyddydau Cymru i sefydlu Asiantaeth Lenyddiaeth Genedlaethol. Bellach mae'r Academi, ar ei wedd newydd ac ehangach, yn gweinyddu cynllun Awduron ar Daith Cymru, amrywiaeth o Gynlluniau Preswyl i awduron, prosiectau datblygu a Sgwadiau 'Sgwennu i Bobl Ifainc, ac mae'n cynnig cymorth i'r rhai hynny sy'n trefnu eu rhaglenni llenyddol eu hunain. Er mwyn cyflawni'r gwaith hwn mae gan yr Academi swyddfeydd yng Nghaerdydd a swyddogion maes sy'n gweithio yng Ngogledd a Gorllewin Cymru. Mae'r Academi yn hyrwyddo ei digwyddiadau ei hun ac yn cyhoeddi A470, cylchgrawn deufisol sy'n llawn newyddion llenyddol o bob cwr o Gymru. Mae'r Academi hefyd yn rhedeg cyrsiau, cystadlaethau (gan gynnwys Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd), cynadleddau, teithiau gan awduron, ymweliadau cyfnewid rhyngwladol, digwyddiadau ar gyfer ysgolion, darlleniadau, perfformiadau llenyddol a gwyliau ac mae'n cynrychioli buddiannau awduron Cymru ac ysgrifennu yng Nghymru o fewn ffiniau'r wlad a thu hwnt. Mae'n gweithio ar y cyd â Thŷ Newydd, y ganolfan breswyl i awduron ger Cricieth.

Mae rhaglen gyhoeddi'r Academi yn cynnwys Taliesin, cylchgrawn llenyddol chwarterol yn y Gymraeg, y New Welsh Review, prif gylchgrawn llenyddol Cymru yn Saesneg (ar y cyd â Chymdeithas Prifysgolion Cymru),yCydymaith i Lenyddiaeth Cymru a'r Oxford Companion to the Literature of Wales, Geiriadur yr Academi, ac amryw o gyfieithiadau. Gyda chefnogaeth y Loteri, mae'r Academi wrthi ar hyn o bryd yn gweithio ar y Gwyddoniadur Cymreig cyntaf, a fydd yn ymddangos yn y Gymraeg ac yn y Saesneg yn 2002.

Golygodd y datblygiadau hyn gryn dipyn o newidiadau yn strwythr yr Academi. Nid yw ei haelodaeth yn gyfyngedig i gylch bychan o lenorion; bellach mae gan y ddwy Adran tua tri chant o aelodau llawn rhyngddynt a chyfanswm hyd yn oed yn uwch o aelodau cysylltiol neu gefnogwyr. Erbyn hyn enw swyddogol Yr Academi Gymreig yw Yr Academi Gymreig/The Welsh Academy, a'i henw gweithredol yn y ddwy iaith yw Academi, ac fe'i disgrifir fel 'cymdeithas genedlaethol sy'n hyrwyddo awduron a llenyddiaethau Cymru'.

Mae gan yr Academi Brif Weithredwr, pedwar o staff amser-llawn a nifer o staff rhan-amser. Fe'i llywodraethir gan Fwrdd Rheoli; daw aelodau'r Bwrdd o blith aelodaeth yr Academi ei hun, cyrff sydd mewn partneriaeth â hi, awdurdodau lleol, cymdeithasau i awduron y mae eu gwaith yn berthnasol i amcanion yr Academi, y cyfryngau a byd masnach. Bydd aelodau o'r Bwrdd yn gwasanaethu am dair blynedd ac etholir neu cadarnheir yr aelodau gan gyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas. Mae gan y Bwrdd gyd-gadeiryddion. Yn ogystal â'r Bwrdd Rheoli, mae gan yr Academi Bwyllgor Aelodau a ffurfiwyd yn unswydd i ofalu am faterion sy'n ymwneud â'r aelodau. Mae gan y Pwyllgor hwn ddwy adran (un yr un ar gyfer y ddwy iaith), ac etholir hwn hefyd gan gyfarfod cyffredinol blynyddol y Gymdeithas. Mae pwyllgor yr aelodau yn cysylltu ac yn cyd-drafod gyda'r Bwrdd trwy'r cyd-gadeiryddion.

Lleoedd

Statws cyfreithiol

Ffwythiannau, galwedigaethau a gweithgareddau

Mandadau/ffynonellau awdurdod

Strwythurau/achyddiaeth mewnol

Cyd-destun cyffredinol

Ardal cysylltiadau

Ardal pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad pwnc

Pwyntiau mynediad lleoedd

Galwedigaethau

Ardal rheoli

Dynodwr cofnod awdurdod

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creu, adolygu a dileu

Iaith(ieithoedd)

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodiadau cynnal a chadw

  • Clipfwrdd

  • Allforio

  • EAC

Pynciau cysylltiedig

Lleoedd cysylltiedig