Ardal dynodi
Cod cyfeirnod
Teitl
Dyddiad(au)
- 1915, 1975, [1980x2018] (Creation)
Lefel y disgrifiad
Ffeil
Maint a chyfrwng
1 amlen
Ardal cyd-destun
Enw'r crëwr
Hanes archifol
Ffynhonnell
Ardal cynnwys a strwythur
Natur a chynnwys
Cardiau post, un â marc post 19 Rhagfyr 1915 a'r llall â marc post aneglur, yn dwyn cyfarchion Nadolig at 'Mrs J. E. Williams' (Angharad Williams) oddi wrth ei brawd, William Price Jones. Mae'r cyfeiriad 'Oak or Elm Cottage' ar un o'r cardiau yn enghraifft o hiwmor William Price Jones (gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 39; gweler hefyd Cardiau post at Mary Williams dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams - Mary Francis (née Williams)).
Adroddiad blynyddol y Durban Benevolent Society am y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 1974 a roddwyd i neu a anfonwyd at William Price Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), ynghyd â nodyn ar ran y Gymdeithas yn cyfeirio at gwymp a gafodd y derbynnydd, gan obeithio am wellhad buan. Mae'r gyfrol yn cynnwys adroddiad gan William Price Jones, ysgrifennydd a thrysorydd y Gymdeithas.
Llungopïau o lythyrau, 27 Awst 1973 a di-ddyddiad (ond ceir y dyddiad '28 10 76' mewn llaw anhysbys ar frig y llythyr dyddiedig 27 Awst 1975, sydd o bosib yn cyfeirio at y llythyr di-ddyddiad), a llythyr gwreiddiol, 17 Hydref 1975, oddi wrth William Price Jones, brawd Angharad Williams (née Jones), at ei chwaer Mwynlan Mai Edmond (née Jones). Yn y llythyr di-ddyddiad ceir ôl-nodyn yn llaw William Price Jones a ffotograff ohono (wedi'i lungopïo yn unol â chorff y llythyr) wedi'i glymu i frig y llythyr. Ceir nodyn (heb ei lungopïo) [?yn llaw David Williams, nai Waldo Williams a gor-nai Angharad] ar frig yr un llythyr yn datgan 'Brawd ieuengaf Angharad i'w chwaer ieuengaf Mwynlan'. Mae'r llythyrau yn cynnwys peth o hanes bywyd William Price Jones yn Durban, De Affrica, cyfeiriad at farwolaeth ei wraig, Doreen, a hanes y llawdriniaeth a gafodd ar ei lygad.
Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu
Croniadau
System o drefniant
Llythyrau dyddiedig yn eu trefn gronolegol.
Ardal amodau mynediad a defnydd
Amodau rheoli mynediad
Amodau rheoli atgynhyrchu
Iaith y deunydd
- Saesneg
Sgript o ddeunydd
Nodiadau iaith a sgript
Cyflwr ac anghenion technegol
Cymhorthion chwilio
Ardal deunyddiau perthynol
Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol
Bodolaeth a lleoliad copïau
Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig
Ardal nodiadau
Nodiadau
Ganed William Price Jones yng Nghaernarfon ym 1892, yn bumed plentyn i John a Margaret Jones ac yn frawd i Angharad Williams (née Jones), mam Waldo Williams. Ymfudodd i Affrica, lle bu'n gweithio fel trefnydd-reolwr ar yr Arfordir Aur (Ghana). Bu farw ym 1982.