fonds GB 0210 BRYNRO - CMA: Cofysgrifau Capel Bryn'rodyn, Llandwrog

Ardal dynodi

Cod cyfeirnod

GB 0210 BRYNRO

Teitl

CMA: Cofysgrifau Capel Bryn'rodyn, Llandwrog

Dyddiad(au)

  • 1878-1997 (Creation)

Lefel y disgrifiad

fonds

Maint a chyfrwng

0.114 metrau ciwbig (43 cyfrol, 2 amlen)

Ardal cyd-destun

Enw'r crëwr

Hanes gweinyddol

Codwyd y capel gwreiddiol ym 1789 ar dir fferm Bryn'rodyn ym mhlwyf Llandwrog, Gwynedd. Cychwynwyd ar godi capel newydd ym 1829. Bu'r capel hwn yn sefyll hyd 1867 pan gychwynwyd ar drydydd adeilad ger yr un safle. Agorwyd y trydydd capel ym mis Mehefin 1868 ac ychwanegwyd festri a thŷ'r gweinidog ato ym 1901. Fe'i dymchwelwyd ym 1996 a chynhelir y gwasanaethau bellach yn y festri.

Yn 1838 ffurfiwyd eglwysi Carmel, Bwlan a Bryn'rodyn yn gylchdaith hyd 1857 pan drefnwyd Bryn'rodyn yn daith gyda Phenygroes. Mae'r capel yn rhan o Ddosbarth Clynnog yn Henaduriaeth Arfon.

Hanes archifol

Ffynhonnell

Adneuwyd gan y Parch. James Clarke, Y Groeslon, Caernarfon, Gwynedd, Medi 1998.

Ardal cynnwys a strwythur

Natur a chynnwys

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â gweinyddu'r capel, yr Ysgol Sul a gweithgareddau diwylliannol. Ceir ymhlith cofnodion eraill, llyfrau aelodaeth yr eglwys, 1878-1933, llyfrau cofnodion, 1965-1970, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1909-1965, llyfrau'r Eisteddleoedd, 1898-1985, llyfrau'r Trysorydd, 1900-1933, llyfrau Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1894-1973 a llyfr cofnodion Pwyllgor Eisteddfod y Cymdeithasau, 1945-72.

Gwerthuso, dinistrio ac amserlennu

Croniadau

Mae ychwanegiadau yn bosibl.

System o drefniant

Trefnwyd y cyfan o'r archif yn LlGC yn dri grŵp: cofnodion y capel, cofnodion yr Ysgol Sul a chofnodion gweithgareddau diwylliannol.

Ardal amodau mynediad a defnydd

Amodau rheoli mynediad

Disgwylir i ddarllenwyr sydd am ddefnyddio papurau diweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru lofnodi'r ffurflen 'Papurau modern - gwarchod data'.

Amodau rheoli atgynhyrchu

Amodau hawlfraint arferol.

Iaith y deunydd

  • Cymraeg

Sgript o ddeunydd

Nodiadau iaith a sgript

Cymraeg

Cyflwr ac anghenion technegol

Cymhorthion chwilio

Ceir copi caled o'r rhestr yn CMA: Cofnodion Capeli Cymru yn LLGC.

Ardal deunyddiau perthynol

Bodolaeth a lleoliad y gwreiddiol

Bodolaeth a lleoliad copïau

Unedau o ddisgrifiad cysylltiedig

Ceir cofrestr bedyddiadau y capel, 1812-36, yn yr Archifdy Gwladol, PRO: RG 4/3873(xxii)(copi meicroffilm yn LlGC) a LlGC, CMA Bala College Safe MSS III, 3, 1811-35. Ceir deunydd Dosbarth Ysgol Sul y cylch yn LlGC, CMA III/EZ1/316/29-34, a cheir hanes yr achos yn Llawysgrifau LlGC 12752A. Mae Adroddiadau Blynyddol y capel yn Adran Llyfrau Printiedig, LlGC, a rhai yn LlGC, CMA EZ2/319.

Disgrifiadau cysylltiedig

Ardal nodiadau

Dynodwr(dynodwyr) eraill

Virtua system control number

vtls004174346

GEAC system control number

(WlAbNL)0000174346

Pwyntiau mynediad

Pwyntiau mynediad lleoedd

Pwyntiau mynediad Genre

Ardal rheolaeth disgrifiad

Dynodwr disgrifiad

Dynodwr sefydliad

Rheolau a/neu confensiynau a ddefnyddiwyd

Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LLGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; AACR2; ac LCSH.

Statws

Lefel manylder disgrifiad

Dyddiadau creadigaeth adolygiad dilead

Medi 1998

Iaith(ieithoedd)

  • Cymraeg

Sgript(iau)

Ffynonellau

Nodyn yr archifydd

Lluniwyd gan Merfyn Wyn Tomos.

Nodyn yr archifydd

Y ffynonellau a ddefnyddiwyd oedd Hobley, William, Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910); Blwyddiadur a Dyddiadur Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, 1998; Adroddiad Blynyddol, 1950.

Nodyn yr archifydd

Ardal derbyn